ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA
(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2026
Pennaeth Cynorthwyol
Swydd Barhaol.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol i ymuno gyda thîm ymroddgar.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Arweinyddiaeth, pwyntiau 9 i 13 (£64,174 - £70,814 y flwyddyn) i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd uchod. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Kelly Morgan pennaeth@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd. Bu manylion ychwanegol am y swydd i’w cael gan Mrs Kelly Morgan, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd. (Rhif Ffôn:01248 600291; e-bost: RhB@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 6ED O FAI, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.