Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gwaith i gwblhau prentisiaeth ac ennill cymwysterau yn y maes Gweinyddiaeth a Busnes.
•Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r Uned Busnes gan gynnwys delio gyda staff, cwsmeriaid a Llywodraeth Cymru mewn ffordd broffesiynol ac unrhyw ymholiadau a chwynion mewn dull cwrtais a moesgar.
•Cynorthwyo staff yr Uned Busnes yn ei holl weithgareddau gan gynnwys gwaith rheolaeth ariannol, archwilio, rheoli perfformiad, contractau masnachol, hawliadau trydydd parti, gofal stryd, cynllunio busnes, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli swyddfa, systemau rheoli prosiectau integredig, cyfathrebu a sicrwydd ansawdd.
•Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ac yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid
•Deall sut mae gweithredu systemau’r Asiant Cefnffyrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r Uned Busnes yn darparu swyddogaethau cefnogi hanfodol i holl weithrediadau'r Asiant Cefnffyrdd gan gynnwys gwaith rheolaeth ariannol, archwilio, rheoli perfformiad, contractau masnachol, hawliadau trydydd parti, gofal stryd, cynllunio busnes, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli swyddfa, systemau rheoli prosiectau integredig, cyfathrebu a sicrwydd ansawdd.
Bydd disgwyl i bob prentis arddangos y canlynol:
•Ymddygiad ac agwedd gywir
•Ymrwymiad i waith
•Cyfrannu at lwyddiant
•Gweithio’n rhan o dîm
•Cyfathrebu gyda hyder
•Parodrwydd i ddysgu
•Ymwybyddiaeth o beth sydd ei angen i weithio i lywodraeth leol
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Cyffredinol
•Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid o ansawdd uchel drwy ymdrin â gohebiaeth, ymholiadau dros y ffôn a phobl sy'n galw heibio, fel y bo'n briodol.
•Sicrhau bod gwybodaeth a data'r Asiant Cefnffyrdd yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol.
•Sicrhau ymwybyddiaeth o systemau’r Asiant Cefnffyrdd.
•Sicrhau gwybodaeth gywir o ddeddfwriaeth berthnasol.
•Gweithio'n hyblyg.
•Gweithio mewn modd gofalgar a sensitif.
•Cynorthwyo i fonitro ansawdd y gwasanaeth.
•Gwella boddhad cwsmeriaid a darpariaeth gwasanaeth; cyfrannu syniadau ar gyfer datblygu a hyrwyddo'r Asiant Cefnffyrdd.
•Dysgu a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr, gweithio fel rhan o dîm, a chefnogi cydweithwyr.
Cyngor ac Arweiniad
•Ymdrin ag ymholiadau a dderbynnir o amrywiaeth o wahanol ddulliau a darparu gwybodaeth perthnasol.
•Delio â, blaenoriaethu a datrys ymholiadau.
•Darparu gwybodaeth a chymorth ar draws ystod gynhwysfawr o wasanaethau'r Asiant Cefnffyrdd gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfathrebu.
•Darparu gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd.
•Sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud gyda thasgau’r Asiant Cefnffyrdd ac yn dilyn y prosesau perthnasol.
•Sicrhau bod ymholiadau'n cael eu blaenoriaethu a'u bod yn cael sylw priodol.
•Cadw cofnodion cywir.
Uned Busnes
Yn y maes yma byddwch yn cael profiad o holl ystod gwaith yr Uned Busnes gan gynnwys:
•Dysgu am brosesau Cyllidol yr Asiant Cenffyrdd yn cynnwys prosesau taliadau, cyfrannu tuag adrodd ar ddata perfformiad yr Asiant Cefnffyrdd.
•Cyfle i ddatblygu sgiliau dadansoddi drwy ddefnydd o Excel a PowerBI, cyflwyniad i Ddeddfwriaeth Rheoli Gwybodaeth a phrosesau data,
•Deall amrywiaeth o systemau hanfodol yr Asiant Cefnffyrdde.e. IRIS/TRAFIS/CRM.
•Dysgu sut i adennill costau sy'n deillio o ddifrod i eiddo LlC a achoswyd gan drydydd parti ar y rhwydwaith Cefnffyrdd, cynorthwyo yn y drefn rheolaeth datblygu,
•Deall sut mae delio gyda risgiau sydd yn codi o goed peryglus,
•Dealltwriaeth eang o system TENSOR (system rheoli amser staff), sut i recordio oriau gweithio a salwch staff,
•Deall trefniant a methodoleg archwilio fewnol
•Gweithredu trefniadau adnoddau dynol
•Cyfle i ddysgu am system Hyfforddiant Gwynedd (MODS),
•Delio efo cwsmeriaid dros y ffôn a trwy e-byst - mewn bwydo gwybodaeth i system Llywodraeth Cymru (IRIS PEM).
•Cyfle i ddeall prosesau a phrofiad o wasanaeth Gofal Stryd.
•Cyfle i ddeall prosesau caffael mewnol ac allanol sydd yn cynnwys, E-dendr Cymru a gweinyddu a rheoli gwahanol fathau o gontractau.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-