Swyddi ar lein
Peiriannydd Prosiectau (Peirianneg Traffig)
£39,862 - £41,771 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-31507
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Prosiectau (Peirianneg Traffig)
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 01/05/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,862 - £41,771 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad: Bangor, Conwy, Halkyn, Dolgellau, Llandrindod Wells, Newtown, Aberystwyth
Gwelir Pecyn Recriwtio am fwy o wybodaeth
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â David Craig Hunter ar swyddivacancies@nmwtra.org.uk neu 03001231213
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 01/05/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu gweithio dan bwysau.
- Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun.
- Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol.
DYMUNOL
- Aelod o gorff proffesiynol priodol.
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o ddefnyddio AutoCad.
DYMUNOL
- Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith.
- Profiad o reoli contractwyr ac ymgynghorwyr allanol.
- Profiad o gaffael a rheoli prosiectau peirianneg traffig a diogelwch ar y ffyrdd ac/neu wella priffyrdd.
- Profiad o ddehongli a chymhwyso safonau'r Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DMRB).
- Profiad o ddehongli a chymhwyso'r Llawlyfr Arwyddion Traffig (TSM).
- Profiad o ddehongli a chymhwyso'r Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (TSRGD).
- Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd a pheirianneg traffig.
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni meddalwedd KeySigns a Key Lines.
- Profiad o baratoi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, Gorchmynion, a Rhybuddion Rheoleiddio Traffig Dros Dro.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
- Gallu gweithio'n effeithiol i ddyddiadau cau cytunedig a chydlynu a rheoli eich gwaith eich hun a'i gyflwyno i gwrdd â'r rhaglenni a gytunwyd.
- Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigrwydd.
- Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl.
- Dealltwriaeth o reoli prosiectau a'r prosesau allweddol o fewn cyflawni prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianneg neu adeiladu.
- Trwydded Yrru gyfredol.
DYMUNOL
- Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf.
- Profiad perthnasol wrth asesu materion diogelwch ar y ffyrdd a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg traffig.
- Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
- Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd a pheirianneg traffig.
- Dealltwriaeth o'r wybodaeth sydd ei hangen i weinyddu prosiectau adeiladu trwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC.
- Gwybodaeth am gyflawni prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.
- Gwybodaeth am Ddiogelwch mewn Gwaith Stryd a Gwaith Ffyrdd (Y Llyfr Coch).
GOFYNION IAITH
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Yn gallu ynganu enwau lleoedd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Yn gallu darllen a deall llythyrau, e-byst, taflenni ac arwyddion syml a byr yn y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion dyddiol cyfarwydd er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Yn gallu ysgrifennu neges syml yn gofyn am, neu'n rhoi gwybodaeth am faterion dyddiol cyfarwydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Ymgymryd â'r swyddogaeth o oruchwylio a chydlynu prosiectau bach/canolig sy'n ymwneud â thraffig a diogelwch ar y ffyrdd a chynorthwyo'r Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni (Peirianneg Traffig) wrth ymgymryd â'r swyddogaeth o oruchwylio a chydlynu prosiectau mwy/cymhleth sy'n ymwneud â thraffig a diogelwch ar y ffyrdd. Yn y ddau achos, sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â'r gofynion o ran costau, amser ac ansawdd.
- Darparu cyngor Peirianneg Traffig arbenigol mewn perthynas â chyflawni prosiectau, gwaith adnewyddu a chynnal a chadw ar y priffyrdd ac wrth wneud hynny, cefnogi Noddwyr Prosiect a'r tîm Rheoli Rhwydwaith yn eu meysydd swyddogaethol.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni (Peirianneg Traffig) wrth weithredu fel arbenigwr traffig a diogelwch yr Asiant a chynghori ar faterion traffig a diogelwch y ffyrdd yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo gyda chydlynu a rhaglennu rhaglen flynyddol a rhaglen bum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a diogelwch.
- Sicrhau y caiff prosiectau ar y rhwydwaith eu cyflawni'n unol â'r contract gan gydymffurfio â gofynion LlC.
- Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
- Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio ymgynghorol a chontractwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
- Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllidebau, offer
- Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
- Rheoli’r holl gyllidebau ar gyfer prosiectau priffyrdd perthnasol.
- Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
Prif Ddyletswyddau
Peirianneg Traffig
- Darparu cyngor Peirianneg Traffig arbenigol mewn perthynas â chyflawni prosiectau, gwaith adnewyddu a chynnal a chadw priffyrdd.
- Paratoi a rhoi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, Gorchmynion a Rhybuddion Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar waith. Darparu cyngor i Reolwyr Llwybrau ynghylch paratoi Gorchmynion / Rhybuddion Traffig dros dro.
- Rheoli dyluniad arwynebau, pyst a sylfeini arwyddion.
- Rheoli gwaith dylunio cynlluniau marciau ffordd newydd a rhai sy'n cael eu hadnewyddu.
- Ymweliadau safle i gynnal arolygiadau, goruchwylio ac archwilio ynglŷn â'r uchod.
- Cynhyrchu dyluniadau mewnol perthnasol sy'n cynnwys lluniau yn ymwneud â comisiynau/swyddogaethau peirianneg traffig.
- Ymgysylltu â swyddogion yr Asiant a LlC ynglŷn â'r uchod.
- Rheoli gwaith caffael a goruchwylio ymgynghorwyr a chontractwyr ynglŷn â'r uchod.
Rheolaeth Prosiect
Ymgymryd â'r swyddogaeth o oruchwylio a chydlynu prosiectau bach/canolig sy'n ymwneud â thraffig a diogelwch y ffyrdd gan gynorthwyo'r Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni (Peirianneg Traffig) wrth ymgymryd â'r swyddogaeth o oruchwylio a chydlynu prosiectau mwy/cymhleth sy'n ymwneud â thraffig a diogelwch ar y ffyrdd. Yn y ddau achos, sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â'r gofynion o ran costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
- Darparu cyngor Peirianneg Traffig arbenigol mewn perthynas â chyflawni meysydd gwaith yr Asiant a Llywodraeth Cymru.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chadw a monitro uwch raglen o holl brosiectau'r Asiantaeth, gyda phwyslais benodol ar sicrhau cyflawniad.
- Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect a swyddogion eraill yr Asiant yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro mini-gystadleuaeth rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect, a chyflawni prosiectau.
- Cymhwyso egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
- Cynrychioli’r Asiant mewn mentrau diogelwch ar y ffyrdd a mentrau lleihau damweiniau.
- Arwain ar faterion sy'n ymwneud â thraffig a diogelwch yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo gydag ymchwilio i ddamweiniau a dadansoddi data damweiniau er mwyn adnabod patrymau damweiniau, a chymryd y camau priodol fel bo’r angen gan ddefnyddio cronfeydd data a phrosesau LlC.
- Trafod gyda darparwyr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
- Cysylltu gyda’r Uned Fusnes yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau.
- Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i ddod â phrosiectau i ben, gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel y'u hadeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
- Sicrhau y caiff prosiectau ar y rhwydwaith eu cyflawni'n unol â'r contract i gydymffurfio â gofynion LlC.
- Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau sy'n ymwneud â pheirianneg traffig fel y cytunwyd. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:-
- adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff y prosiect.
- sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
- cytuno ar raglen a brîff y prosiect.
- cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
- trafod â staff perthnasol LlC.
- bod â'r cyfrifoldeb cyffredinol am gyflawni prosiectau a rheoli’r gyllideb.
- cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo.
- adolygu a chytuno ar gyflwyniadau misol ar gyfer talu.
- derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
- cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
- adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
- trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
- adolygu a chadarnhau unrhyw gyflwyniad sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i LlC.
- sicrhau y caiff prosiectau eu cau'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Gweithredu fel Cleient CDM (a swyddogaethau cysylltiedig yn ôl yr angen) ar brosiectau sy'n ymwneud â pheirianneg traffig fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
- Rheoli’r holl gyllidebau ar gyfer prosiectau priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Dyletswyddau Technegol Eraill
- Sicrhau bod egwyddorion 'Rethinking Construction' yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
- Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
- Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau'r DU / LlC, gan gynnwys:
- Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
- Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
- Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
- Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
- Trefniant Contractau NEC
- Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
- Polisïau ATAG eraill sy'n gysylltiedig â Thraffig
- Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (TSRGD) a Llawlyfr Arwyddion Ffyrdd (TSM)
- Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WGMAA.
Rheoli Perfformiad
- Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
- Datblygu swyddogaethau Peirianneg Traffig sy'n bwysig i'w cyflawni i sicrhau bod cynlluniau cydymffurfio a chyson yn cael eu cyflwyno gan Noddwyr Prosiect ar brosiectau sy'n ymwneud â pheirianneg traffig.
- Gweithredu dulliau o adolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
- Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
- Mae'n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â'r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
- Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
- Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
- Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer orau pan fo hynny’n briodol.
- Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm Rheoli Busnes. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
- Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
- Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur â statws y swydd.
- Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
- Yr angen i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
- Ymweld â safleoedd adeiladu.
- Mynychu cyfarfodydd mewn rhannau eraill o'r DU (e.e., Llandrindod, Caerdydd).