Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn dymuno hysbysebu cyfle cyffrous ar gyfer swydd Cydlynydd Ymgysylltu a Chyfathrebu.
Bydd y rôl yn allweddol wrth gryfhau llais a chyfranogiad pobl ifanc ar draws y sir, gan arwain ar ddatblygu strategaethau ymgysylltu effeithiol a chynyddu gwelededd a dealltwriaeth o waith y Gwasanaeth.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gydlynu cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli cynnwys digidol a chyfryngau cymdeithasol, cefnogi ymgyrchoedd hyrwyddo, a sicrhau bod barn a phrofiadau pobl ifanc yn llywio datblygiad y ddarpariaeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol, trefnus ac angerddol dros waith ieuenctid, sydd â’r gallu i feithrin perthnasau cadarnhaol a chyfleu negeseuon yn glir ac yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Steffan Williams ar SteffanLlyrWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 04/05/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.