Swyddi ar lein
Pennaeth Adran Cynorthwyol – Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth
£68,762 - £72,055 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30447
- Teitl swydd:
- Pennaeth Adran Cynorthwyol – Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth
- Adran:
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Dyddiad cau:
- 17/04/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £68,762 - £72,055 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Y Cyfle
Mae Cyngor Gwynedd yn sefydliad sy’n rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn. Mae technoleg ddigidol yn allweddol i’n galluogi i ddarparu gwasanaethau modern, diogel ac effeithlon sy’n ymateb i anghenion trigolion a chymunedau’r sir.
Rydym yn awr yn chwilio am Bennaeth Adran Cynorthwyol – Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth i chwarae rôl strategol ganolog wrth arwain, siapio a datblygu gwasanaethau digidol y Cyngor.
Yn ogystal â’r her broffesiynol, mae Cyngor Gwynedd yn cynnig:
- Cyfle i arwain agenda ddigidol uchelgeisiol sy’n cefnogi llesiant pobl, cymunedau a’r Gymraeg.
- Amgylchedd sy’n gwerthfawrogi arloesi, cydweithio a dysgu parhaus, lle caiff syniadau eu croesawu a’u cefnogi.
- Y cyfle i ddatblygu eich proffil fel arweinydd digidol strategol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cydbwysedd gwaith-bywyd cadarn, gyda threfniadau gweithio hyblyg a ffocws cryf ar lesiant.
Mae’r rôl hon yn addas i unigolyn sydd nid yn unig am arwain a rheoli gwasanaethau digidol, ond sydd am arwain newid, ysbrydoli pobl, a gadael ôl parhaol ar sefydliad cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar wasanaethu ei gymunedau.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Ian Jones ar 01286 679804
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 17.04.2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Dangos ymrwymiad cryf i wasanaethau cwsmeriaid.
- Yn ymatebol ac yn hyblyg i anghenion a blaenoriaethau cyfnewidiol.
- Brwdfrydig, ymrwymedig, hunanysgogol a synnwyr cryf o bwrpas.
- Gallu gweithio fel rhan o dîm ac ar ei ben/phen ei hun yr un mor effeithiol.
- Yn gyfforddus ac yn hyderus wrth wneud penderfyniadau dysg.
- Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf mewn diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
- Arddangos y gallu i feithrin perthynas waith effeithiol.
Cyfle Cyfartal
Mae gan holl weithwyr y Cyngor gyfrifoldeb i ddeall a chydymffurfio a pholisi cyfle Cyfartal y Cyngor.
Iechyd a Diogelwch
Mae gan bawb sy’n gweithio i’r Cyngor gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu eu hesgeulustra. Mae gan oruchwylwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddyddiol o fewn y fframwaith neu’r holl ganllawiau a pholisïau lleol. Mae rheolwyr yn gyfrifol am weithredu Polisi Iechyd, Diogelwch a Lles y Cyngor o fewn eu maes rheolaeth.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Tystiolaeth o hyfforddiant a llwyddiant rheolaethol ar lefel uchel.
Graddedig (neu gyfatebol) mewn maes priodol neu phrofiad mesuradwy.
DYMUNOL
Cymhwyster proffesiynol neu gymhwyster ôl-radd
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o gyflwyno gwasanaeth Digidol proffesiynol, yn y sector masnachol, preifat neu gyhoeddus.
Tystiolaeth o gyflwyno newid llwyddiannus ac eang, yn benodol wrth ymateb i ofynion o wellhad sefydliad sy’n mynd drwy broses o drawsnewid a moderneiddio.
Profiad o weithio ar lefel uwch, ac o reoli tîm mawr o staff.
Profiad ymarferol o baratoi a rheoli cyllideb gwasanaeth gymhleth.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae llywodraeth leol yn gweithredu, a phrofiad o herio a sefydlu gweithdrefnau sy’n torri’n rhydd o arfer sefydliadol a hanesyddol.
Tystiolaeth ymarferol o ddatblygu a chynnal perthnasau gweithio dda gydag amrywiaeth o gwsmeriaid/rhanddeiliaid.
Profiad o arwain gwasanaeth mawr i gyflawni gwelliannau gwasanaeth mesuradwy.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Yn medru meddwl yn ddadansoddol ac yn strategol o dan bwysau dyddiol gan drawsnewid y meddwl hwn i mewn i gynlluniau gweithredol.
Yn medru arfarnu opsiynau, blaenoriaethu a chynhyrchu’r canlyniadau angenrheidiol ar amser ac o fewn y gyllideb.
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyfathrebu da (llafar ac ysgrifenedig) a sgiliau cyflwyno cryf.
Sgiliau rheoli prosiect.
Negodwr effeithiol.
Sgiliau arwain ardderchog wrth gyfarwyddo ac ysgogi gweithgareddau unigolion, timau a grwpiau.
Gallu i ddefnyddio a phriodoli cymesuriad digidol perthnasol gyda natur a gofynion y swydd.
DYMUNOL
Gwybodaeth ymarferol neu profiad fel ymarferwr PRINCE 2
Gwybodaeth ymarferol neu profiad fel ymarferwr Agile.
Ymwybyddiaeth o reoli a gweithredu newid drwy fethodoleg cydnabyddedig megis Lean neu Systems Thinking.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Cefnogi’r Pennaeth Adran i gydweithio â Thîm Rheoli’r Cyngor, penaethiaid adran eraill, aelodau etholedig a phartneriaethau allanol er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf o fewn yr adnoddau posibl i drigolion Gwynedd, a sicrhau fod y gwasanaeth hwnnw’n adlewyrchu polisïau a strategaethau corfforaethol y Cyngor.
- Cynrychioli’r Pennaeth Adran mewn cyfarfodydd a digwyddiadau o fewn y Cyngor ac mewn fforymau allanol yn ogystal a bod yn aelod gweithredol o’r Grŵp Uwch Reolwyr corfforaethol.
- Hyrwyddo trefniadau rheoli perfformiad addas sydd yn arddangos canlyniadau eglur, fel ei bod yn bosibl adnabod meysydd i’w gwella a rhwystrau i’w goresgyn gan annog gwella parhaus o fewn y gwasanaethau y cedwir trosolwg uniongyrchol arnynt.
- Sicrhau canlyniadau pendant wrth wneud y defnydd gorau o adnoddau’r Cyngor, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer, sy’n cyd fynd â blaenoriaethau’r Cyngor ac yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion lleol.
- Bod yn Aelod o’r Tîm Rheoli adrannol gan ymgymryd ag uwch gyfrifoldeb a throsolwg o rai o wasanaethau’r Adran.
- Ymgymryd a swyddogaethau trosolwg penodol o fewn yr Adran ym meysydd:
- Diogelu Gwybodaeth
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Ymgysylltu
- Ymdrin a Chwynion
- Cydraddoldeb
- Diogelu Plant ac Oedolion Bregus
- Cynlluniau Argyfwng
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Cyfrifoldeb cyffredinol am y Gwasanaethau Digidol sy'n cynnwys tua 80 o swyddogion.
- Ar y cyd â rheolwyr y Gwasanaethau digidol, cyfrifoldeb am gyllideb TGCh y Cyngor o tua £35M miliwn y flwyddyn yn ogystal â phrosiectau cyfalaf a gwerth o rhyw £20M dros gyfnod o 10 mlynedd.
Prif Ddyletswyddau.
Darparu Gwasanaethau
- Annog a chefnogi Rheolwyr Gwasanaeth a’u timau i sicrhau darpariaeth gwasanaethau o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
- Cydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill i sicrhau agwedd integredig at gyflenwi gwasanaethau
- Datblygu polisïau gweithredol
- Cymryd rhan ymarferol mewn gweithredu newid strategol
Arweinyddiaeth
Fel un o arweinyddion yr Adran ac aelod o’r Grŵp Uwch Reolwyr:
- Arwain, hybu a datblygu staff
- Arwain agenda trawsnewid
- Datblygu a hybu diwylliant y sefydliad
- Cydweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol
- Hybu diwylliant o wella parhaus
Cynllunio ac Adolygu
- Cymryd rôl flaenllaw yn nghyswllt cynllunio ac adolygu busnes
- Hwyluso newid mewnol ac adolygu/datblygu gwasanaeth
- Adolygu ac herio perfformiad gwasanaethau o fewn yr Adran
Rhaglen Gorfforaethol
- Pontio rhwng polisïau strategol a gweithredol
- Hybu diwylliant un Cyngor
- Cyfrannu at ddatblygiad strategol
- Cytuno a chyflawni ar gerrig milltir rhaglen y gellir ei reoli
- Hybu a gweithredu polisïau a blaenoriaethau corfforaethol e.e. themâu llorweddol cyfleu ymdeimlad o gydweithio i un amcan
CYMWYSEDDAU ALLWEDDOL
(yn ychwanegol i weddill cymwyseddau corfforaethol y Cyngor)
Gweithio o fewn y dimensiwn gwleidyddol
- creu cysylltiadau effeithiol/galluogi gweithio’n briodol ar draws ffin gwleidyddiaeth
- cynnal perthynas effeithiol gydag aelodau etholedig, y rhanbarth a’r Llywodraeth
Arwain ar newid a datblygu’r sefydliad
- gweithredu’n gyson â gwerthoedd sylfaenol y Cyngor wrth ddatblygu’r diwylliant
- gweithio gydag ansicrwydd, amwysedd a natur anochel newid
- datblygu defnydd priodol o bŵer a grym gan rymuso staff a Rheolwyr i wneud penderfyniadau y gallent eu hamddiffyn
- cyfrannu a chymryd cyd-berchnogaeth o ddatblygiad yr Adran a’r Cyngor.
Cynnal safbwynt personol a hunan wybodaeth
- bod yn barod i wrando ar a gwerthfawrogi safbwyntiau eraill gan gydnabod eu cyfraniad i’r agenda gwella a newid
- cynnal cred neu ffydd ynddo’i hunan
- datblygu gwydnwch personol, cynaladwyedd ac ymwybyddiaeth emosiynol
- cadw synnwyr digrifwch
Datblygu a galluogi partneriaethau a pherthnasau allanol effeithiol
- bod yn bencampwr yr awdurdod lleol, llywodraeth leol a democratiaeth leol
- cyd-drefnu partneriaethau cyhoeddus a phreifat effeithiol ar gyfer datblygiadau strategol a chyflenwi gwasanaethau
- gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau eraill
- cydweithio yn fewnol i’r Cyngor, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
- defnyddio’r wasg a’r cyfryngau yn effeithiol i gael proffil priodol
Cadw golwg ar faterion strategol a hirdymor
- edrych tua’r dyfodol gan greu ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd posib
- datblygu, cynnal a hyrwyddo gweledigaeth/barn strategol ar gyfer y sefydliad a’r ardal leol
- bod yn ymwybodol o allu strategol y sefydliad
Arwain a Rheoli Perfformiad
- cefnogi diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformio’n dda, arloesi a gwasanaethu ein cwsmeriaid
- adnabod a datrys sefyllfaoedd o danberfformiad
- gwella’n barhaus ar draws pob maes gwasanaeth
Arwain a Rheoli Pobl
- Ysgogi ac annog timau ac unigolion
- Cynnig cyfeiriad ac adborth
- Creu awyrgylch o barch
- Trosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol i dimau ac unigolion
- Dirprwyo gwaith yn effeithiol
- Cydnabod a deall ymatebion eraill i sefyllfaoedd penodol tra’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth
- Sicrhau amgylchedd ddiogel i aelodau o dîm ddatblygu trwy gymryd risgiau
- Adnabod a deall y niwed posib a wneir pan na roddir sylw prydlon i achosion o wrthdaro
Cyfathrebu
- Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau
- Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Deall bod cyfathrebu da yn gallu bod yn arf pwerus i gynyddu cymhelliant
- Dewis a defnyddio dulliau cyfathrebu a chyfryngau priodol ar gyfer amrediad o gynulleidfaoedd
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol
- Deall peryglon gweithio o ragdybiaethau
- Gwerthfawrogi teimladau eraill ac yn deall pwysigrwydd cynhwysiad ac ymgynghori
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Hunanreoli
- Rhagweithiol
- Derbyn cyfrifoldeb am weithredoedd
- Darparu sefydlogrwydd mewn adegau o newid
- Meddu ar lefelau uchel o hunan-ymwybyddiaeth
- Dangos gonestrwydd
- Yn emosiynol wydn ac ymwybodol
- Blaenoriaethu tasgau a gwneud defnydd effeithiol o amser
- Profi gwerth cyhoeddus
PRIF FEYSYDD CYFRIFOLDEB
Mae’r adran hon yn nodi prif gyfrifoldebau’r swydd. Nid yw’n rhestr gynhwysfawr, a gall dyletswyddau newid o bryd i’w gilydd heb newid natur neu lefel y cyfrifoldeb.
Arweinyddiaeth Strategol Ddigidol
- Arwain datblygiad Cynllun Digidol yr Awdurdod, gan weithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, Pennaeth yr Adran, swyddogion a’r Aelodau.
- Datblygu strategaeth glir a chyd gysylltiedig ar gyfer gwasanaethau digidol sy’n cefnogi’r Cynllun Digidol.
- Diffinio a chyfleu gweledigaeth glir ar gyfer technoleg gwybodaeth a gwasanaethau digidol y Cyngor.
- Sicrhau rheolaeth effeithiol o brosiectau o fewn y Cynllun Digidol.
Trosolwg a Rheoli Gwasanaethau Digidol
- Cynorthwyo’r Pennaeth i asesu anghenion digidol adrannau’r Cyngor a chydweithio â rheolwyr i ddatblygu datrysiadau effeithiol.
- Rheoli’n uniongyrchol y gwasanaethau canlynol:
-Isadeiledd: seibr ddiogelwch, rhwydweithiau, gweinyddwyr, technoleg cwmwl, systemau llais a sianeli cyswllt.
-Cefnogaeth: desg wasanaeth, dyfeisiau pen-desg a symudol, Microsoft 365, cymwysiadau a llwyfannau data.
-Uned Datblygu: dylunio, darparu a chynnal systemau digidol, gan gynnwys marchnata datrysiadau i Awdurdodau eraill.
-Gwasanaeth Dysgu Digidol: cefnogaeth dechnolegol i ysgolion y Sir.
-Swyddfa Raglen: rheoli rhaglenni, caffael, gweinyddiaeth a chytundebau.
Sicrhau Perfformiad ac Ansawdd Gwasanaeth
- Cynllunio, monitro a gwerthuso perfformiad gwasanaethau i sicrhau gwelliant parhaus a gwasanaeth o safon uchel.
- Optimeiddio defnydd o adnoddau (ariannol, technegol a gwybodaeth) i sicrhau gwerth am arian.
- Cefnogi a datblygu rhaglenni trawsnewid digidol ar draws y Cyngor i wella prosesau, profiad cwsmer ac effeithlonrwydd gweithredol.
- Sicrhau bod isadeiledd digidol y Cyngor yn gadarn, yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag amcanion strategol.
Llywodraethu, Cydymffurfiaeth a Risg
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch, gan gynnwys achrediad PSN a safonau Fframwaith Asesiad Seibr.
- Sicrhau bod cynlluniau adfer a pharhad busnes yn bodoli ac yn cael eu profi.
- Rheoli ymateb y sefydliad i ddigwyddiadau difrifol gan gynnwys ymosodiadau seibr, methiannau seilwaith neu argyfyngau eraill.
- Cyfrannu at gyflawni rhwymedigaethau’r Cyngor o dan Ddeddf Etholiadau a Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rheoli Pobl a Datblygu Tîm
- Arwain, mentora a datblygu swyddogion a rheolwyr i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
- Gosod amcanion clir a monitro cynnydd drwy drefniadau rheoli perfformiad cadarn.
- Darparu cyfeiriad a chefnogaeth i gynnal amgylchedd gwaith cadarnhaol, proffesiynol a pharchus.
- Dirprwyo’n effeithiol a datblygu gallu’r timau i ddatrys problemau ac ymateb i heriau.
Cydweithio, Partneriaethau ac Effaith Gorfforaethol
- Gweithio’n effeithiol o fewn fframwaith gwleidyddol y Cyngor a chynnal perthnasau adeiladol â swyddogion, aelodau ac asiantaethau allanol.
- Meithrin partneriaethau cyhoeddus a phreifat i gyflawni datblygiadau strategol a gwella gwasanaethau.
- Sicrhau bod egwyddorion polisïau corfforaethol yn cael eu gweithredu’n gyson ar draws y gwasanaeth.
- Cefnogi’r Pennaeth i lunio’r Cynllun Busnes Adran a sicrhau bod y model busnes yn cael ei gyflawni.
Rheoli Gwybodaeth, Diogelwch a Chyfreithiol
- Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data a safonau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
- Cynnal arferion iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth a pholisïau corfforaethol.
- Ymrwymo i leihau ôl-troed carbon y Cyngor ac annog ymarferion cynaliadwy.
- Adrodd yn brydlon ar unrhyw bryderon mewn cysylltiad â diogelu plant neu oedolion bregus.
Dyletswyddau Eraill
- Ymgymryd ag unrhyw waith rhesymol arall sy’n unol â lefel y cyflog a’r cyfrifoldeb.
- Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a bydd manylion cyswllt allan o oriau yn cael ei gofnodi a defnyddio mewn digwyddiad o argyfwng.