Pwrpas y swydd
Gweithio fel rhan o dîm preswyl cartref plant:
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Fel aelod o’r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
•Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Darparu ystod o ymyrraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a’u teuluoedd.
•Mae y gwaith yma yn rhan o brosiect ehangach felly yn ôl y gofyn bydd angen i chi weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Offer – cegin a choginio, sicrhau deunydd priodol o gyfleusterau’r adeilad
Prif ddyletswyddau
•I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu’r cynlluniau.
•Bod yn aleod o dim, gan gefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo’r angen.
•Datblygu perthynas weithio dda gyda’r plant i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
•Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i’w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
•Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau o’r cyfarfodydd a fynychir a’r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos
•Annog a chefnogi i ddilyn y cynllun gweithredu.
•Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi plant yn eu cymunedau lleol.
•Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
•Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
•Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn gan ddilyn cynllun ymddygiad yn ol yr angen.
•Cynorthwyo a chefnogi i ofalu am y plant.
•Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a’u monitro.
•I adael i’r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy’n crybwyll hynny.
•I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo’r plant I gwblhau’r tasgau hyn.
•Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
•I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
•Mynychu cyfarfodydd ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim.
•Derbyn goruchwyliaeth gyson.
•Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Mae natur y swydd yn golygu gweithio tu allan i oriau arferol swyddfa, gan gynnwys penwythnosau.
Lleolir y swydd yn Deiniolen ond yn ôl y gofyn i weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.