Swyddi ar lein
Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau
£44,075 - £46,142 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30393
- Teitl swydd:
- Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Amgueddfeydd a'r Celfyddau
- Dyddiad cau:
- 07/04/2026 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £44,075 - £46,142 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau
Lleoliad: Storiel, Bangor a Phencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Roland Evans ar 01286 679450 neu drwy ebost: rolandwynevans@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12:00 O’R GLOCH, 07/04/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu i arwain a chymell tîm o swyddogion drwy eu hysgogi i weithredu ar lefel cyson uchel gan ymddwyn yn broffesiynol bob amser.
- Gallu i ymdrin a phobl mewn ffordd adeiladol, diplomatig gan greu awyrgylch bositif lle mae barn pawb yn cael ei werthfawrogi.
- Gallu i adnabod rhwystrau a datrysiadau ar gyfer eu goroesi.
- Creadigol, brwdfrydig ac egnïol i ddatrys problemau.
- Gallu i dderbyn cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau.
- Gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac i ddewis dulliau addas ar gyfer cyfathrebu gwahanol negeseuon.
- Gallu i feithrin perthynas gwaith dda gydag eraill er mwyn cyflawni perfformiad a chael canlyniadau.
- Gallu ymateb i nifer o ofynion gwaith gan ddewis a blaenoriaethu yn addas a gan gwrdd a thargedau amser.
- Gallu i weithio o dan bwysau, fel rhan o dîm ac o fewn amserlenni tynn.
- Person dibynadwy gyda’r gallu i weithio ac ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol.
- Person sy’n arddel gonestrwydd, hunan hyder, sy’n adeiladol ac yn hyblyg eu hagwedd.
- Agwedd positif ac arloesol tuag at heriau a newid.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swydd, e.e. Amgueddfeydd a’r Celfyddydau, Rheolaeth, Diwylliant, Astudiaethau Amgueddfaol, Rheolaeth Treftadaeth, ayb.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol/rheolaethol parhaus.
- Cymhwyster rheolaeth cydnabyddedig.
DYMUNOL
- Cymhwyster rheoli casgliadau a dealltwriaeth o ofynion Achredu
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio yn y maes amgueddfeydd a’r celfyddydau
- Profiad o reoli staff a chyllidebau yn llwyddiannus.
- Profiad o reoli, adolygu a gyrru newid ar lefel strategaeth, polisi, cynllunio busnes, gwasanaeth.
- Profiad o Gynllunio Busnes, Rheoli Perfformiad, Rheoli Cyllidebau.
- Profiad o ddadansoddi gwybodaeth a data fel sail i wneud penderfyniadau.
- Profiad o gynhyrchu a chyflwyno adroddiadau o safon i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Profiad o Arwain, ysgogi a chymell unigolion a thimau i gyflawni.
- Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
- Profiad o weithio mewn, sefydlu a chynnal partneriaeth.
- Profiad o sefydlu, cynllunio a rheoli prosiectau amrywiol.
- Profiad o dargedu grantiau o ffynonellau ariannol amrywiol.
DYMUNOL
- Profiad o reolaeth weithredol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Sgiliau arwain tîm yn llwyddiannus.
- Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Medru hwyluso ac arwain cyfarfodydd a gweithdai i gynulleidfaoedd ar wahanol lefelau.
- Sgiliau arwain, annog, cymell a mentora staff.
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a diogelwch a materion parhad busnes.
- Dealltwriaeth am faterion yn ymwneud a Diogelu Data.
- Gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda’r cyhoedd, defnyddwyr a chydweithwyr.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cadarn yn cynnwys y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o gynulleidfaoedd.
- Sgiliau negodi, perswadio a cymell.
- Sgiliau dylanwadu.
- Gallu i feddwl yn glir ac i osod cyfeiriad a chynllunio darpariaeth / gwasanaeth oddi fewn i adnoddau sydd ar gael.
- Sgiliau monitro cyflawniad yn erbyn canlyniadau.
- Sgiliau rheoli a monitro prosiectau.
- Sgiliau monitro cyllidebau.
- Sgiliau cyrchu a dadansoddi data perfformiad.
- Agwedd positif ac arloesol tuag at heriau a newid.
- Sgiliau blaenoriaethu a chynllunio gwaith.
- Dealltwriaeth drylwyr o’r cyd-destun strategol / polisi sy’n gyrru ac yn dylanwadau ar y maes amgueddfeydd a’r celfyddydau.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am y cyrff sy’n gosod safonau ar y maes.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am ddeddfwriaethau perthnasol i’r maes.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.
DYMUNOL
- Sgiliau cyrchu a dadansoddi data perfformiad.
- Dealltwriaeth o feysydd sy’n dylanwadu ar ddarpariaeth y gwasanaeth amgueddfeydd a’r celfyddydau megis cynhwysiad, ymgysylltu, nawdd, iechyd a lles, llesiant.
- Gwybodaeth am ofal a chadwraeth casgliadau
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
Staff y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau, Cyllidebau’r Gwasanaeth, Casgliadau Amgueddfaol, Offer ac Adeiladau’r Gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau
ARWAIN
- Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
- Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
- Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
- Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
- Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
- Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
- Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
- Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
- Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
- Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
- Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
- Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
- Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
- Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
CYFLAWNI
- Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
- Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
- Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
- Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
- Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.
HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
- Arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn ei holl agweddau – cyllidebau, staff, rhaglenni gwaith, blaenoriaethau ayb mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol
- Arwain ac arolygu gwaith Storiel, Amgueddfa Lloyd George, Yr Uned Celfyddydau Cymunedol a Chelfyddydau Gweledol.
- Casglu, dogfennu, diogelu, cadw a rhoi mynediad at gasgliadau amgueddfaol ar y cyd â Curadur Casgliadau Storiel a Phrifysgol Bangor a’r Swyddog Datblygu Amgueddfeydd o ran mynediad a rheoli safle.
- Arwain ar lunio rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a gweithgareddau diwylliannol o fewn amgueddfeydd y sir.
- Arwain y tîm wrth greu ymwybyddiaeth eang drwy'r gymuned am waith Storiel, Amgueddfa Lloyd George a diwylliant Gwynedd fel rhan o godi ymwybyddiaeth o etifeddiaeth a stori Gwynedd.
- Sicrhau arfer proffesiynol da o fewn y Gwasanaeth, cadw safonau Achredu Amgueddfeydd ac ymestyn y fath arfer dda yng nghyswllt cadwraeth arteffactau'r Gwasanaeth.
- Ar gais, rhoi cyngor a chymorth i Adrannau eraill yr Awdurdod a, Ile bo'n briodol, i asiantaethau allanol, yn cynnwys amgueddfeydd eraill, ynglŷn ag amgueddfeydd, eu casgliadau ac achredu.
- Rhoi cyngor i ymchwilwyr ac ateb ymholiadau yn ôl y gofyn a darparu gwasanaeth adnabod.
- Gweithio law yn Ilaw a Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu Storiel, y Swyddogion Addysg Archifau ac Amgueddfeydd a swyddogion prosiectau ymgysylltu treftadaeth a diwylliant eraill, Ile bo angen, i weithredu rhaglen o weithgareddau addysg ac ymgysylltu ar draws Gwynedd.
- Arolygu'r rhaglen arddangosfeydd yn orielau’r gwasanaeth mewn cydweithrediad gyda'r Swyddog Celfyddydau Gweledol a’r Curadur Casgliadau.
- Bod yn bennaf gyfrifol am lunio ceisiadau grant ar ran yr amgueddfeydd a'r orielau gan reoli prosiectau, monitro deilliannau a gwariant sydd yn deillio o waith o'r fath.
- Cynnal a chefnogi’r berthynas gyda Chyfeillion Storiel, Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George a Sefydliad Cefnogi Storiel.
- Gweithio gyda'r Swyddog Celfyddydau Cymunedol i ddyrannu grantiau celfyddydol strategol a phrosiectau Cyngor Gwynedd.
- Cydlynu'r rhaglen waith ynghlwm a'r Cynllun Celfyddydau a’r Cynllun Diwylliant.
- Hyrwyddo defnydd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Celfyddydau a diwylliant Gwynedd.
- Arwain ar fforymau a phrosiectau cydweithredol yn y maes gwasanaeth e.e. Celf (Yr Oriel Gelf Gyfoes i Gymru), Y Ffederasiwn Amgueddfeydd, cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor ac Amgueddfa Cymru, Rhwydwaith Diwylliant Gwynedd ayb.
- Ymchwilio a pharatoi adroddiadau, cynrychioli'r Gwasanaeth ar weithgorau a gwaith o natur gyffelyb.
- Cynrychioli'r Gwasanaeth, yn ôl y gofyn gydag asiantaethau allanol.
- Cyfrannu at raglen farchnata a chyhoeddi'r sir.
- Yn gyfrifol am benderfyniadau parthed Iechyd a Diogelwch o fewn y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau.
- Sicrhau fod cynllun argyfwng y Gwasanaeth yn gyfredol ac effeithiol.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer safleoedd diwylliannol eraill sy’n gyfrifoldeb cyllidebol i’r Rheolwr.
- Cyflawni unrhyw dasgau cyffredinol ynglŷn â rheolaeth yr Adran a'r Gwasanaeth ar gais y Pennaeth Adran neu’r Pennaeth Cynorthwyol a dirprwyo ar eu rhan yn y maes Treftadaeth, Celfyddydau ac Etifeddiaeth.
Amgylchiadau Arbennig
Angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol.
Trwydded yrru lawn a’r defnydd o gar.