Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithio ochr yn ochr a chefnogi'r tîm gofal cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau o fewn Gwasanaethau Plant
•Cwblhau gwaith uniongyrchol gyda theuluoedd dan oruchwyliaeth Rheolwr Tîm
•Cyfrannu at ymgymryd ag asesiadau, cydlynu ymyraethau ac adolygu gwasanaethau.
•Rhoi gwybod i'r Rheolwr Tîm am unrhyw bryderon sy'n codi mewn perthynas â diogelwch plentyn.
•Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gwasanaeth a'r sector gwirfoddol a thrydydd sector.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifiadur, ffôn symudol.
Prif ddyletswyddau
Paratoi ar gyfer, a gweithio gydag unigolion, teuluoedd ac eraill i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y Rheolwr Tîm.
Ymddwyn yn briodol wrth dderbyn atgyfeiriadau/achosion newydd, yn cynnwys adolygu nodiadau achos a deunydd arall priodol cyn gwneud cyswllt cyntaf.
Gweithio gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ac eraill (teulu, gofalwyr, grwpiau cefnogi a phobl broffesiynol arall) fel yn briodol a dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm o fewn fframwaith y tîm gofal cymdeithasol.
Gallu gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth ryngasiantaethol, amlddisgyblaethol i ddarparu gwasanaeth o'r arfer orau
Paratoi, ymgymryd â, adolygu a gwerthuso ymarfer gydag unigolion, teuluoedd ac eraill.
Sicrhau gweithredu cynlluniau gofal/cefnogol y cytunir arnynt dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm ar y cyd gydag asiantaethau eraill a darparwyr gwasanaeth.
Mynd i'r afael ag ymddygiad y defnyddiwr gwasanaeth, ac eraill, mewn modd adeiladol er mwyn lleihau risg o niwed ac atal cam-drin.
Sicrhau cofnodion achos effeithiol sy'n gywir ac yn cael eu cwblhau yn defnyddio systemau a meddalwedd TG priodol.
O dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm, defnyddio eich sgiliau i ymgysylltu â phlant a theuluoedd i sicrhau bod prosesau cefnogi a newid priodol yn cael eu ceisio.
Datblygu a chynnal partneriaeth effeithiol a chefnogol yn gweithio gyda rhieni a theuluoedd.
Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso ac yn ysgogi rhieni a theuluoedd.
Cefnogi unigolion i fynegi eu hanghenion, eu barn a’u hamgylchiadau
Darparu adroddiadau clir a chywir i'r safon ac o fewn yr amserlen sy'n ofynnol yn y maes gwaith.
Mae hwn yn rôl lle mae rhyngweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ac amrediad o asiantaethau yn helaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd, dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tim, weithio mewn partneriaeth ar draws ymyraethau heriol, ac ar adegau, amhoblogaidd.
Bydd angen i ddeilydd y swydd weithio'n effeithiol gyda theuluoedd yn cynnwys gofalwyr maeth a gallu cydbwyso anghenion disgwyliadau gwahanol unigolion.
Gallu i weithio o dan oruchwyliaeth Rheolwr Tîm mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Mae angen i ddeilydd y swydd allu gweithio gyda lefel uchel o sensitifrwydd a gallu datblygu perthnasau gwaith effeithiol.
Rheoli risg i unigolion, teuluoedd, eich hunain ac eraill
Asesu a rheoli'r risgiau i unigolion, teuluoedd, eich hunain ac eraill ac adrodd unrhyw bryderon i'r Rheolwr Tîm
Rheoli a bod yn atebol, gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth, am eich ymarfer eich hun.
Cydymffurfio â Bwrdd Diogelu Plant Lleol a gweithdrefnau ac arferion Adrannol diogelu plant.
Cydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a pholisïau Adrannol perthnasol.
Cadw cofnodion achosion a ffeiliau cywir a chyfredol yn unol â gofynion polisi'r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.
Cymryd rhan yn rhagweithiol mewn goruchwyliaeth unigol ac adolygiadau gwerthuso perfformiad.
Gwneud cyfraniad positif i'r tîm drwy gydweithio gyda chydweithwyr a'r rheolwr llinell.
Mynychu cyfarfodydd tîm a chymryd rhan mewn gweithgorau perthnasol a chyfarfodydd adrannol a rhyngasiantaethol fel bo’r angen.
Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus a mynd ar gyrsiau/hyfforddiant perthnasol
Dangos ymrwymiad at, a chefnogaeth ar gyfer datblygu'r arfer orau
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn cwmpas pwrpas y swydd, teitl y swydd.
Gweithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r cyflogwr ac unrhyw ofynion statudol perthnasol.
Yn cynnwys teithio o gwmpas Gwynedd a thu hwnt – a theithio peth o fewn y DU ar adegau, yn delio gyda sefyllfaoedd caled.
Mae disgwyl i holl weithwyr y Cyngor fod yn ymwybodol o'r Polisi Diogelu Corfforaethol a'u cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryderon yn y ffordd briodol ac o fewn amserlen briodol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol, pan fo angen.