1 Pwrpas y Swydd
1.1 Bydd deilydd y swydd yn monitro gwariant yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol.
1.2 Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i’r Pennaeth am weinyddiad effeithiol yr ysgol ac yn goruchwylio gwaith y derbynnydd.
1.3 Gweithio’n rhagweithiol mewn partneriaeth â’r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau’r ysgol.
1.4 Bydd deilydd y swydd yn Swyddog Diogelu Data yr ysgol ac yn gyfrifol am yr holl drefniadau er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddf GDPR.
1.5 Cefnogi’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol i sicrhau bod polisïau’r ysgol yn unol ȃ’r gofynion statudol.
2 Prif gyfrifoldebau
Cyllid
2.1 Cyfrifoldeb am fonitro gwariant ac incwm yr ysgol, ar y cyd gyda’r Pennaeth/Uned Gyllid y Cyngor.
2.2 Paratoi adroddiadau ariannol i'r Pennaeth, yr Is-bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol yn ôl y gofyn.
2.3 Rheoli cronfeydd yr ysgol, bancio a chysoni yn fisol, a chwblhau trosglwyddiadau arian ar gyfer y gronfa. Cysylltu gyda’r archwilwyr allanol y Sir a darparu gwybodaeth iddynt. Darparu adroddiadau ar y gronfa i’r Is-bwyllgor Cyllid.
2.4 Archebu holl nwyddau ac offer yr ysgol, codi archebion, a delio gyda thaliadau.
2.5 Rheoli a gweinyddu’r Cynllun gwersi offerynnol Cerdd.
2.6 Monitro gwariant ar athrawon llanw.
2.7 Gweithredu system ‘petty cash’ yr ysgol, a chasglu a bancio arian yn ôl yr angen/ monitro’r defnydd o’r system taliadau cyllidol electronaidd.
2.8 O dan arweiniad y Pennaeth, delio gyda cheisiadau am grantiau yn achlysurol a monitro’r defnydd yn unol â rheoliadau’r grant.
2.9 O dan arweiniad y Pennaeth, monitro’r defnydd o wahanol grantiau e.e Cyllid Integreiddio Anghenion Dysgu Ychwanegol, Grant Gwella Addysg, Grant Datblygu Disgyblion, Grant Dysgu Proffesiynol.
2.10 Gweinyddu’r drefn amserlenni ( TR86/TR48/TR89) ar gyfer Cymorthyddion ac athrawon llanw gan sicrhau fod popeth yn cael eu cwblhau yn amserol ar gyfer prosesu taliadau.
2.11 Archebu adnoddau ar gyfer y dosbarthiadau / delio gyda chyflenwyr nwyddau.
3 Llywodraethwyr
3.1 Gweithredu fel clerc y Corff Llywodraethol a’r Is-bwyllgorau: galw cyfarfodydd, trefnu’r agenda, paratoi’r ddogfennaeth, cofnodi cyfarfodydd, a gweithredu penderfyniadau.
3.2 Rheoli’r holl ofynion statudol mewn perthynas â’r llywodraethwyr unigol: hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau troseddol DBS.
3.3 Paratoi adroddiad blynyddol y Corff Llywodraethol i rieni.
3.4 Disgwylir i’r clerc gydweithio gyda’r Pennaeth a’r Cadeirydd i baratoi arfarniad o waith y corff yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
4 Rheoli Pobl
4.1 Goruchwylio gwaith y Dderbynnydd.
4.2 Cynnal Rheoli Perfformiad i’r staff uchod, gan osod amcanion, blynyddol a’u hadolygu.
4.3 Trefnu rhaglen datblygu broffesiynol ar gyfer holl staff ategol yr ysgol a’i fonitro.
4.4 Mewn cydweithrediad â’r Pennaeth, llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y staff uchod a’u hadolygu yn ôl yr angen.
4.5 Gweinyddu’r drefn benodi, a phrosesu penodiadau newydd holl staff yr ysgol a delio gyda materion cyflog.
4.7 Cydlynu a chadw cofnodion o faterion yn ymwneud â phob aelod o staff gan gynnwys hyfforddiant amddiffyn plant, cymorth cyntaf, gwiriadau troseddol DBS, a chadw cofrestr gyfredol o HMS.
4.8 Gweinyddu’r drefn absenoldebau salwch ar gyfer y Derbynnydd, gofalwr a chymorthyddion yr ysgol.
Gweinyddu’r drefn TR45 absenoldebau ar gyfer pob aelod o staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff. Cwblhau’r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl. Sicrhau bod y ffurflenni pwrpasol yn cael eu llenwi a’i derbyn yn amserol.
4.9 Rheoli amserlen a rhaglen waith athrawon a chymorthyddion llanw yn unol â’r galw a gweinyddu’r trefniadau cyflenwi dyddiol. Anwytho athrawon a chymorthyddion llanw.
4.10 Gweinyddu’r drefn o wirio dogfennau pob aelod o staff ‘gyrru ar fusnes ysgol’.
5 Gweinyddiaeth
5.1 Rheoli a datblygu sustemau ar gyfer cynnal a chadw ffeiliau staff a disgyblion, a sicrhau fod y wybodaeth ar gyfer PLASC yn gywir, er mwyn cwblhau adroddiad.
5.2 Darparu gwasanaeth cefnogol gweinyddol i’r Pennaeth, a gwaith ysgrifenyddol i’r Tîm Rheoli yn ôl yr angen.
5.3 Yn absenoldeb y Derbynnydd, ymgymryd â gwaith y dderbynfa.
5.3.1 Cyd-lynu a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol, delio a chyflenwyr, sicrhau fod adeiladau'r ysgol yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau brys a chadw at ofynion Iechyd a Diogelwch a diogelu data.
5.4 Goruchwylio defnydd cymunedol o'r ysgol, gan wneud trefniadau ar gyfer gosod yr ysgol a threfnu i ymateb i anghenion y defnyddwyr, bilio a derbyn taliadau.
5.5 Paratoi data i’w ddadansoddi ar gais y Pennaeth neu Uwch Dim Rheoli.
5.6 Cofnodi cyfarfodydd staff yr ysgol ar gais y pennaeth.
5.7 Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i’r Corff Llywodraethol, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, GwE, ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
5.8 Gwirio fod cyfrifiad blynyddol PLASC a’r cyfrifiad presenoldeb wedi ei gwblhau a’i anfon i’r swyddogion priodol.
5.9 Gweinyddu system ffeilio ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol e.e. caniatâd disgyblion yn BROMCOM.
5.10 Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu’r Dirprwy
6 Iechyd a Diogelwch
6.1 Mewn ymgynghoriad ȃ’r UDRh a’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu gyda swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yr ysgol.
6.2 Rheoli gwaith contractwyr allanol mewn cydweithrediad gyda swyddog sirol.
6.3 Materion iechyd a diogelwch i’r adeilad yn cynnwys asesiadau risg asbesdos, tan, cynnwys y bocs glas, a chynllun parhau gwasanaeth.
6.4 Gweinyddu ymweliadau ar Evolve