Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cefnogol Iechyd Meddwl ymroddedig a chydymdeimladol i ymuno â Thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd Meddwl De Gwynedd.
• Mae’r rôl hon yn cynnwys cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl i fyw yn annibynnol ac yn ystyrlon yn eu cymunedau. Gan weithio fel rhan o dîm aml-asiantaeth, byddwch yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i unigolion yn unol â’u cynlluniau gofal cytunedig.
• Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol a nyrsys seiciatrig cymunedol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i gefnogi adferiad a llesiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
Prif Gyfrifoldebau
• Cefnogi unigolion ag anghenion iechyd meddwl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned
• Cynorthwyo unigolion i weithio tuag at nodau a nodir yn eu cynlluniau gofal
• Darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i hyrwyddo adferiad a llesiant
• Annog datblygiad sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd er mwyn cefnogi byw’n annibynnol
• Gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl ar draws gwasanaethau
• Cynnal cofnodion cywir a dilyn polisïau a gweithdrefnau Cyngor Gwynedd
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
• â mewn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl
• yn dosturiol, yn barchus ac wedi ymrwymo i hyrwyddo annibyniaeth
• â sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm da
• yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
• yn barod i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
• Byddai gwybodaeth o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a phrofiad o weithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
• Bydd y rôl yn cynnwys goruchwyliaeth reolaidd a chyfleoedd hyfforddi.
• Disgwylir i chi gynnal cyfrinachedd a gweithio o fewn gofynion diogelu, iechyd a diogelwch, a diogelu data.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• -
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.