YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 420 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2026
DIRPRWY BENNAETH (Parhaol)
CYFLOG: L11 – L15 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£67,531 - £74,384)
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr profiadol, brwdfrydig a chymwys ar gyfer y swydd allweddol yma. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cyfraniad allweddol i reolaeth uwch a datblygiadau o fewn yr ysgol ac yn cynnig gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA
Rhif ffôn - 01286 880345
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20fed O FAWRTH, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.