Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogi Teulu
£31,537 - £33,699 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2027
- Cyfeirnod personel:
- 25-30344
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogi Teulu
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 13/03/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2027 | 37 Awr
- Cyflog:
- £31,537 - £33,699 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Felin Fach
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sue Layton ar 07827449258 neu dros ebost susanlayton@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 13/03/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Person sydd â’r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Yn fentrus, yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau rhesymol
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF o fewn y maes Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant/addysg.
Dymunol
Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol lefel 5 o fewn y maes addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd/gofal.
Hyfforddiant mewn rhaglenni rhiantu yn seiliedig ar dystiolaeth
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol a Fframwaith
Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu’i theuluoedd o fewn y maes gofal, addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd
Profiad o asesu anghenion amrywiol a chymhleth ac ymateb iddynt, gan ganolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newid.
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn sefyllfaoedd amlasiantaethol ac o feithrin perthynas
Profiad o farchnata gwasanaeth i gynulleidfa amrywiol sy' n cynnwys gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr.
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu
Profiad o lunio adroddiadau
Dymunol
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i weithio’n arloesol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau wrth gynllunio gwaith yn effeithiol ac wrth gyrraedd targedau a chyflawni tasgau.
Ymwybyddiaeth o ACES (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod), a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Y gallu i adnabod gallu rhieni i fagu plant, a'r risg a'r ffactorau amddiffynnol.
Dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint)
Gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda chynulleidfa eang.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dymunol
Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Sicrhau fod ‘Llais y plentyn/teulu’ yn ganolog i’r gefnogaeth.
•Darparu pecynnau pwrpasol o gefnogaeth i deuluoedd (rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc) i hyrwyddo rhiantu cadarnhaol ac mewn ymateb i anghenion unigol teuluoedd.
•Gweithredu cyrsiau /grwpiau a gwaith un i un yn y maes rhiantu a chefnogi teuluoedd drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer cyrsiau
•Offer TG a ffôn symudol
•Mynediad at ffeiliau Plant cyfrinachol.
•Cyllideb bach ar gyfer cyrsiau a gweithgareddau rhiantu.ee. llogi cyfleusterau, adnoddau, gofal plant, trafnidiaeth a.y.b.
Prif ddyletswyddau
•Cynnal sesiynau un i un gyda theuluoedd unai o fewn y cartref neu leoliadau Dechrau’n Deg gan weithredu ar gynllun strwythuredig sydd wedi ei gytuno gyda’r timau fel Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf yn y paneli cyfeirio.
•Cydweithio gyda plant a’u gofalwyr i adnabod ‘Beth sydd yn bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
•Gweithio mewn ffordd sy’n grymuso ac yn ysgogi’r plant a theuluoedd drwy ddefnyddio agwedd gadarnhaol gyda’r teulu cyfan. Adeiladu ar sgiliau a chryfderau’r rhieni, y plant a’r teulu estynedig i ddatblygu gwytnwch, hunanddibyniaeth a chymryd camau annibynnol.
•Cynnal asesiadau trylwyr a phenodol i adnabod anghenion a chryfderau teuluoedd drwy ddefnyddio sgiliau, hyfforddiant a phrofiad arbenigol i gefnogi rhieni a’u phlant, fel Family Links a Triple P.
•Cydweithio gyda theuluoedd i gynllunio amrediad o ymyraethau neu wasanaethau i gwrdd ag anghenion unigol y teulu. Llunio pecyn ymyrraeth/cynllun teulu sydd yn seiliedig ar ymchwil i achosion cymhleth, ac adolygu’r cynlluniau yn aml i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd. Adrodd i rieni ar ei llwyddiannau drwy ddefnyddio’r Outcome Star.
•Cofnodi gwybodaeth a pharatoi adroddiadau gan gynnwys yr asesiadau a thystiolaeth o’r pellter teithiwyd. Cofnodi gwybodaeth a nodiadau achosion ar y system data perthnasol fel WCCIS/MOSAIC. Sicrhau fod nodiadau teulu yn cael ei gwblhau yn effeithiol ac yn amserol yn defnyddio ‘llais y teulu/plentyn’.
•Mewnbynnu i systemau i fonitro’r ddarpariaeth i fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol. Cofnodi’r wybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion ar gyfer yr holl asiantaethau allanol mewn perthynas â chynnydd a monitro rhaglenni gwaith.
•Cofnodi unrhyw bryderon yn gywir ac yn broffesiynol gan rannu pryderon gyda pherson dynodedig yr adran a chyfeirio ymlaen i'r Tîm Plant pan fo angen. Cydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yn ymwneud ac unrhyw bryderon diogelu.
•Cyfrifoldeb dros fynychu’r cyfarfodydd proffesiynol am y teulu i adrodd, adolygu, monitro cynnydd, a thrafod rhaglenni unigol teuluoedd os daw gwahoddiad. Creu adroddiadau ar gyfer a mynychu cyfarfodydd teuluol gan y Gwasanaeth Cymdeithasol a’r Tîm plant.
•Dod o hyd i ddatrysiadau i unrhyw rwystrau ac adrodd ar rwystrau na ellir ei goresgyn yn lleol i arweinydd y tîm.
•Darparu gwybodaeth a chyngor i blant a’u rhieni/gofalwyr am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth a hefyd eu cyfeirio ymlaen (gyda chaniatâd) at wasanaethau addas yn y gymuned gan gynnwys grwpiau a mudiadau lleol a chenedlaethol.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymddygiad yr Uned a chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Cyflwyno delwedd broffesiynol a gweithio mewn modd hyblyg.
•Cyfrifoldeb dros weithredu cyrsiau/dosbarthiadau a gwaith un i un yn y maes rhiantu drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol e.e. Tîm Niwro i redeg gwasanaeth cynhwysol ac o ansawdd i deuluoedd.
•Cynefino â’r ystod o raglenni sydd ar gael i gefnogi teulu gan weithredu arlwyo ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd
•Gweithredu rhaglenni rhiantu drwy:
oGweithio gyda rhieni i gwrdd ag anghenion eu plant
oGweithio gyda rhieni i gwrdd ag adnabod ein hanghenion eu hunain
oAlluogi rhieni i ddatblygu dulliau o sut i ddelio gydag ymddygiad a materion i fywyd bob dydd plentyn
ogyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni
oddarparu mynediad i wybodaeth
oadnabod dulliau i wella sgiliau'r rhieni.
•Gweithredu asesiadau cychwynnol effeithiol a llwyddiannus ar gyfer y gwaith cefnogi teulu.
•Cydweithio’n agos gyda’r tîm o Amgylch y Teulu i gynnig ymyraethau priodol i deuluoedd yng Ngwynedd.
•Cefnogi staff newydd di brofiad i redeg cyrsiau cychwynnol drwy arsylwi, cyd rhedeg a chynnig cefnogaeth fel bod angen fel bod y cyrsiau yn rhedeg yn effeithiol.
•Ysgogi darpariaeth grwpiau riantu newydd mewn cydweithrediad a phartneriaid amrywiol drwy:
oAdnabod lleoliadau addas ar gyfer rhedeg cyrsiau newydd gan gynnal asesiadau risg priodol.
oCydweithio i adnabod lleoliadau gofal plant fel meithrinfa Plas Pawb i gyd fynd gyda rhediad y cyrsiau rhiantu neu os yn rhaglen reolaidd sefydlu darpariaeth gofal plant achlysurol ar y safleoedd newydd gan ymofyn cyngor yr A.G.C i sicrhau fod y ddarpariaeth yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau angenrheidiol.
oAdnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal cyrsiau rhiantu
oCydweithio i adnabod rhieni/ gofalwyr addas
oCydgordio’r asesiadau cychwynnol
oAdnabod unrhyw rwystrau eraill e.e. trafnidiaeth.
•Cydweithio’n agos gyda’r tîm Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf ac asiantaethau eraill i gydlynu a chyd gynnal grwpiau amrywiol ar draws Gwynedd. Gweithio ar ddatblygu grwpiau a gweithgareddau gan ddenu grwpiau penodol.
•Sicrhau gwariant ofalus ar y gyllideb ac unrhyw adnoddau eraill a roddir i’r tîm e.e. Taliadau gofal plant neu gostau trafnidiaeth. Cadw cofnod o wariant y sesiynau gan adrodd yn ôl i’r Uwch Swyddog Arweinydd Tîm.
•Monitro a threfnu stoc adnoddau. Cynnal offer arbenigol, gwirio am ansawdd/diogelwch, ymgymryd ag atgyweirio/ addasiadau arbenigol fel bod angen.
•Mynychu cyfarfodydd staff, timau a gweithgorau eraill yr Uned Blynyddoedd Cynnar fel bod angen
•Defnydd o gar yn angenrheidiol gyda thrwydded yrru lawn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data a Chyfrinachedd
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin yn syth i berson dynodedig o fewn yr adran.
Amgylchiadau arbennig
Yn achlysurol bydd angen i’r swyddog weithio oriau anghymdeithasol.