Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyflawni gofynion gweinyddol y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg gan sicrhau bod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd.
•Cynorthwyo a chydweithio gyda’r tîm er mwyn sicrhau bod safonnau uchaf posib o ofal cwsmer yn cael eu cyrraedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer gweinyddol.
•Codi, prosesu a thracio anfonebau.
Prif ddyletswyddau
Sicrhau cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel i’r Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg gan osod systemau effeithiol i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i’r gofynion canlynol:
•Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant i’r gweithlu gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa.
•Mynychu ystod helaeth o gyfarfodydd ar draws y Gwasanaeth a gyda rhanddeiliaid ehangach gan gadw cofnodion manwl a chywir ohonynt ynghyd â thracio cynnydd yn erbyn unrhyw gamau gweithredu a phenderfyniadau.
•Cyfrifoldeb am ddarparu adroddiadau i ystod o gynulleidfaoedd gwahanol yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am lunio ymatebion i ohebiaeth ar gais y Rheolwyr, Is-Reolwr, Swyddog Busnes neu Arweinyddion Tîm yn ôl yr angen.
•Cefnogi’r dull o gyfathrebu gyda staff y Gwasanaeth gan ddefnyddio systemau cyfathrebu megis Blackberry ATHoc i anfon negeseuon torfol pan yn briodol.
•Cynorthwyo i farchnata holl waith y Gwasanaeth drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd megis:
-Diweddaru rheolaidd i’r safle wê a chyfryngau cymdeithasol.
-Cynhyrchu datganiadau a/ neu newyddlen.
•Darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel ar gyfer holl staff y Gwasanaeth (gall hyn olygu gweithio o safleoedd eraill ar adegau)
•Darparu cefnogaeth weithredol penodol i’r Arweinyddion Tîm gyda materion sydd yn codi yn eu hardaloedd, gan gynnwys ymateb cychwynnol i ymholiadau rhanddeiliaid parthed cwynion ac ymholiadau, gan gynnig arweiniad a chyngor a sicrhau datrysiad.
•Cyfrifoldeb i flaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn cwrdd â therfynau amser clir tra’n meddu ar hyblgrywdd i allu ymateb i faterion sydd yn codi ar y pryd.
•Cyfrifoldeb am gyflawni gofynion tasg a gorffen amrywiol i gefnogi holl faes y Gwasanaeth ar gais y Rheolwr.
•Cydweithio gyda’r Swyddog Busnes gan dracio cyllidebau ynghyd â chynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen.
•Cyfrannu tuag at y gwaith o fonitro polisïau.
•Cyfrifoldeb am fewnbynnu cronfeydd data a sicrhau ansawdd data.
•Cyflawni gofynion monitro’r Gwasanaeth drwy weithio ochr yn ochr gyda’r Swyddog Busnes.
•Cynorthwyo’r Swyddog Busnes i sicrhau fod adroddiadau cyllidol a pherfformiad yn cael eu cyflwyno i’r Rheolwr Gwasanaeth yn rheolaidd.
•Cyfrifoldeb i sicrhau dealltwriaeth chywir a chyson wrth defnyddio systemau data y Gwasanaeth.
•Cydlynu ymatebion i geisiadau ‘Rhyddid Gwybodaeth’ a ‘Diogelu Data’.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau angymdeithasol.