Swyddi ar lein
Is-Reolwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg
£44,075 - £46,142 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30334
- Teitl swydd:
- Is-Reolwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 18/03/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £44,075 - £46,142 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Debbie Anne Jones ar 01286 679 489 neu debbieannewilliamsjones@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 18/03/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Un sy’n rhoi sylw i fanylion.
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm.
Un sy’n gallu blaenoriaethu a chymryd cyfrifoldeb, gan ddirprwyo’n effeithiol yn ôl yr angen.
Un sy’n gallu arwain yn effeithiol gan gyfathrebu a chydweithio gydag ystod eang o ran-ddeiliaid.
Dymunol
Un sy’n gallu arwain a hyfforddi
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster proffesiynol neu gymhwyster rheolaeth neu radd.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
Dymunol
Cymhwyster Rheoli Prosiect neu o Reoli Rhaglenni.
Cymhwyster neu gefndir ym maes Bwyd, Glanhau a/neu Iechyd a Diogelwch.
Cymhwyster cyfrifiadurol Word ac Excel neu ECDL.
Cymhwyster proffesiynol arall perthnasol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o arwain tîm yn llwyddiannus
Profiad o weithio gyda nifer o fudd-ddeiliaid.
Profiad o reoli rhaglenni neu brosiectau mawr a chymhleth.
Profiad o arwain nifer o brosiectau a methodoleg rheoli prosiectau.
Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth.
Profiad o reoli cyllid, offer, ac adnoddau
Profiad o weinyddu ar lefel uwch
Dymunol
Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad cymhleth.
Profiad o gynghori ar faterion polisi neu ganllawiau cenedlaethol.
Profiad a/neu dealltwriaeth o ofynion statudol perthnasol e.e. iechyd a diogelwch, caffael ayyb.
Profiad o hyfforddi a / neu mentora.
Ymwybyddiaeth o ofynion diogelu mewn ysgolion.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth arbenigol a thechnegol o’r gofynion sy’n berthnasol o safbwynt iechyd a diogelwch, asesiadau risg, hylendid bwyd, diogelu ac atal, symud a thrin ayyb gan allu cynghori a gweithredu’n briodol.
Gwybodaeth a phrofiad am hanfodion llunio ceisiadau grant a hawliau incwm a ansawdd ac i safon uchel.
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth.
Y gallu i drefnu, blaenoriaethu a dirprwyo gwaith yn effeithiol.
Y gallu i ddefnyddio a dehongli gwybodaeth a data yn gywir gan eu cymhwyso i yrru gwelliannau.
Y gallu i gynllunio, monitro ac adrodd.
Y gallu i arwain a gweithio fel rhan o dîm.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dymunol
Ymwybyddiaeth o’r mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion ( Cymru ) 2009 a Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion ( Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013
Ymwybyddiaeth o bolisïau Adnoddau Dynol y Cyngor
Ymwybyddiaeth o bolisïau Iechyd a Diogelwch y Cyngor
Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau Prince2.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI:
Rheoli Adnoddau
•Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus. Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.
Galluogi a Grymuso
•Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
Cyflawni
•Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad.
Datrys Problemau
•I fod yn rhagweithiol ac i sicrhau fod penderfyniadau ystyrlon yn cael eu gwneud mewn modd amserol, gan hefyd ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel y maent yn newid.
Cyfathrebu
•Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy’n gwerthfawrogi teimladau eraill.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb dirprwyedig dros staff
•Cyfrifoldeb am gyllideb
•Cyfrifoldeb am offer cegin a glanhau
Prif ddyletswyddau
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cyfrifoldeb dirprwyedig i arwain y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau ar gyfer Ysgolion Gwynedd:
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyfrifoldeb dirprwyedig i gefnogi cyfeiriad strategol y gwasanaeth arlwyo a glanhau.
•Cyfrifoldeb ar y cyd gyda’r Rheolwr am gyfeiriad model busnes y gwasanaeth, gan ystyried ac ymchwilio i opsiynau amgen o ddarparu’r gwasanaeth yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am gydlynu a dehongli’r gwaith angenrheidiol sydd angen sylw gan lunio ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth i’w gweithredu fel rhan o drefniadau cynllunio busnes y gwasanaeth a’r Adran yn flynyddol.
•Cyfrifoldeb dirprywedig i gefnogi rheolaeth tîm bychan o staff canolog, gan ddyrannu cyfrifoldebau’n briodol iddynt er sicrhau bod y tîm yn cyflawni’r disgwyl.
•Cyfrifoldeb dirprywedig i gefnogi ac arwain dros 600 o staff mewn dros 80 o safleoedd addysg ar draws y sir, gan arwain yn rhagweithiol i weithredu ar brosesau adnoddau dynol e.e. penodi, diswyddo, salwch, medrusrwydd a disgyblaeth yn briodol ac amserol yn unol â’r polisïau a’r arweiniad corfforaethol sydd ar gael.
•Cefnogi’r Gwasanaeth gyda phrosesau recriwtio staff gan sicrhau staffio priodol ymhob safle.
•Cefnogi’r Rheolwr gydag agweddau o wasanaethau cwsmer y gwasanaeth, gan gynnwys ymateb ac ymchwilio i gwynion yn unol â’r drefn gwynion gorfforaethol, gweithredu trefniadau amrywiol i gasglu barn rhanddeiliaid yn cynnwys barn penaethiaid, plant a phobl ifanc ar y gwasanaeth gan ystyried, addasu ac ymateb i’r sylwadau a dderbynnir yn ôl yr angen.
•Arwain ar weithredu a negodi gofynion Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y maes arlwyo a glanhau ar y cyd gyda’r ysgolion, gan sicrhau eglurder a chydymffurfiaeth gyda thelerau’r CLG, gan feithrin perthynas gweithio cadarnhaol gyda phenaethiaid ysgolion, er mwyn sicrhau eu bodlonrwydd gyda phob agwedd o’r gwasanaethau a ddarperir iddynt.
•Cefnogi a gweithredu trefniadau’r rhaglen werthuso yn rhagweithiol gydag aelodau perthnasol o’r tîm yn unol â gofynion yr Adran Addysg a’r Cyngor.
Cyllid ac Adnoddau:
•Cefnogi Rheolwr i sicrhau rheolaeth gyllidol effeithiol o’r gwasanaeth sydd gyda chyllideb o bron i £15 miliwn.
•Rheoli chontractau dydd i ddydd arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau bodlonrwydd cwsmer gyda phob agwedd o’r gwasanaeth.
•Sicrhau adnoddau ac offer priodol ar gyfer pob aelod o staff yn barhaus e.e. offer cegin, offer glanhau, gwisg addas, adnoddau staffio a chyllid ayyb.
•Bod yn arbenigwr technegol yn y maes, gyda dealltwriaeth lefel uchel a gweithredol o systemau TGCh ysgolion sy’n berthnasol i’r maes arlwyo e.e. system ddi-arian, system MIS ayyb.
•Cefnogi, cydlynu a gweithredu ar holl ofynion caffael ar gyfer y Gwasanaeth ac ar ran ysgolion y sir.
•Arwain Systemau TG y Gwasanaeth e.e School Comms, Bromocom, Parent Pay.
•Cyfrifoldeb dirprwyedig dros reoli’r drefn ynghlwm â darparu Clwb Gofal Cyn-ysgol/Clwb Brecwast.
•Cyfrifoldeb dros reoli’r Cynllun Llefrith a chyflwyno hawliadau cyllidol i Lywodraeth Cymru gyda ‘Cinio am Ddim’ yn gywir ac amserol.
•Gweithredu trefn amserol o gasglu incwm a dyledion yn gysylltiedig â darparu pryd bwyd maethlon i ddysgwyr.
Cydymffurfiaeth:
•Sicrhau amgylchedd gweithio diogel ar gyfer pob aelod o staff y gwasanaeth arlwyo a glanhau yn ddyddiol, gan gydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol iechyd a diogelwch.
•Cyfrifoldeb dros lunio canllawiau ar ffurf Llawlyfr i staff yn y maes arlwyo a glanhau er sicrhau bod staff yn gweithio mewn amgylchedd saff a diogel, ac yn darpau’n ddiogel a phriodol ar gyfer eu cwsmeriaid.
•Cefnogi trefniadau rheoli risg y gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau rheoli risg ym maes alergeddau.
•Cefnogi’r Rheolwr i arwain y gwasanaeth er sicrhau’r safonau uchaf ym maes glanhau ysgolion, gan weithredu ar unrhyw ddiffygion a risgiau’n amserol.
•Cefnogi’r Rheolwr i sicrhau’r safonau uchaf ym maes Diogelwch Bwyd a Hylendid Bwyd, gan ymgymryd â’r rôl gwarchod y cyhoedd o ddifrif gan weithredu ar unrhyw ddiffygion a risgiau’n amserol.
•Cefnogi’r prosesau a’r gweithredoedd ynghlwm â chynnig pryd bwyd maethlon ac iachus i bob dysgwr gan lunio a pharatoi bwydlenni yn unol â’r safonau cenedlaethol a chydymffurfio gyda Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Cyffredinol:
•Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd a ffeiriau cyhoeddus, ynghyd â mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â'r maes arlwyo a glanhau e.e. penaethiaid ysgolion, cyrff llywodraethol, cwmnïau sector preifat e.e. darparwyr bwyd, darparwyr offer glanhau, cwmnïau prynu a thrwsio offer, cwmnïau trydydd sector ayyb.
•Cynrychioli'r Cyngor fel yn briodol mewn trafodaethau efo swyddogion ac aelodau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â swyddogion mewn cynghorau eraill.
•Cymryd rhan ar Weithgorau'r Cyngor fel bo angen
•Paratoi adroddiadau a dogfennau perthnasol ar gyfer adrodd i’r Tîm Rheoli Addysg, cyfarfodydd busnes a fforymau strategol penaethiaid ysgolion, ynghyd â phwyllgorau’r Cyngor yn ôl yr angen.
•Gweithredu ymgyrchoedd ar y cyd gydag ysgolion sydd yn hyrwyddo cinio am ddim ac yn annog rhagor o deuluoedd i fanteisio ar y cynnig.
•Arwain a gweithredu cynlluniau ar gyfer plant a theuluoedd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi’i seilio ar ddarparu bwyd a bwyta’n iach e.e. Bwyd a Hwyl.
•Cefnogi a gweithredu trefniadau’r rhaglen werthuso yn rhagweithiol gydag aelodau perthnasol o’r tîm yn unol â gofynion yr Adran Addysg a’r Cyngor.
•Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad ac am hyrwyddo datblygiad aelodau perthnasol o’r tîm gan fanteisio ar raglen barhaus o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad personol Dysgu a Datblygu ynghyd â sefydliadau allanol eraill perthnasol.
•Ymgymryd ag unrhyw gyfrfioldeb neu ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol ar gais y Rheolwr sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH
•Mae’r swydd hon ar delerau parhaol
•Oriau gwaith y swydd hon yw 37 awr yr wythnos.
•Mae’r Cyngor yn gweithredu trefniadau gweithio’n hybrid, gyda’r disgwyliad i weithio o’r swyddfa o leiaf deuddydd yr wythnos.
•Lleolir y swydd ym Mhencadlys, Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon / Pwllheli.
•Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.