Pwrpas y swydd
•Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, adolygu a chyflwyno'r strategaeth categori a chynllunio ar gyfer yr holl gaffael sy’n gysylltiedig â’r categori corfforaethol, i gynnwys dadansoddiad o allu, capasiti a pharodrwydd y farchnad i fodloni gofynion busnes y Cyngor;
•Cynorthwyo ar y gwaith o bennu gofynion gwasanaeth a busnes diffiniedig i sicrhau canlyniadau a gofynion ar gyfer holl wariant sy'n gysylltiedig â’r categori;
•Cynnal adolygiadau parhaus o wariant a gweithgaredd caffael y categorïau penodol i adnabod cyfleoedd a gwireddu buddion;
•Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, rheoli ac adrodd ar fesurau perfformiad strategol a chontractio allweddol yn unol â fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff - Dim Cyllid –Dim Offer - Dim
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifol am gyflawni cynlluniau categorïau penodol y categori Corfforaethol.
•Adrodd ar gynnydd yn erbyn cynnwys y cynlluniau categori i’r Rheolwr Categori a/neu Reolwr Caffael Corfforaethol.
•Datblygu dealltwriaeth o’r farchnad i gyflwyno achos busnes ar gyfer cyflawni anghenion y gwasanaethau perthnasol ar gyfer categorïau penodol.
•Cydlynu a hwyluso’r drefn rheolaeth categori gan sicrhau mewnbwn perthnasol gan yr holl rhanddeiliaid.
•Cefnogi arbenigwyr categori eraill o’r holl feysydd gyda thasgau sydd yn gysylltiedig â phwrcasu neu gaffael yn ôl y flaenoriaeth.
•Cyfrannu at ddatblygu strategaeth caffael y categori Corfforaethol gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda strategaethau / chynlluniau comisiynu'r gwasanaethau perthnasol.
•Cynnal unrhyw broses caffael ble mae’r angen gan gynnwys negodi telerau gyda’r darparwyr ar ran y gwasanaethau.
•I adnabod, cyflawni, perchnogi ac adrodd ar gynlluniau effeithlonrwydd categorïau penodol gyda chytundeb polisi effeithlonrwydd corfforaethol y Cyngor.
•I gadw’n gyfredol â datblygiadau caffael sy’n effeithio ar y categorïau dan eu rheolaeth.
•Gweithredu mewn modd sydd yn hybu diwylliant sydd wedi ei wreiddio yn y syniad o “un Cyngor”.
•I ddatblygu a chynnal perthynas waith ardderchog gyda rhan-ddeiliaid allweddol yn y cylch comisiynu a chaffael, sy’n cynnwys y rheolwyr gwasanaeth perthnasol a’r cyflenwyr yn y sector gyhoeddus, annibynnol a’r trydydd sector.
•Hybu darpariaeth effeithiol o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau fydd yn cyfarch anghenion poblogaeth Gwynedd i’r dyfodol.
•Paratoi dogfennau sgopio, papurau briffio a rhaglen yn unol â’r gofyn.
•Cydweithio gydag asiantaethau mewnol ac allanol, yn sicrhau y bydd gwasanaethau yn y dyfodol yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth leol, cynnal iechyd, lles ac annibyniaeth.
•Adnabod a meincnodi cyfraddau a chostau gwasanaethau mewnol ac allanol ar y cyd â thimau cyllid, a chyfrannu at ddatblygu mesurau deilliannau, targedau a dangosyddion perfformiad fydd yn sicrhau gwerth gorau, ansawdd a deilliannau sy’n cael eu harwain gan anghenion.
•Sefydlu ac arwain grwpiau llywio tasg a gorffen prosiectau penodol a chynhyrchu adroddiadau cynnydd ar weithrediad cynlluniau y cytunwyd arnynt, gan sicrhau bod y gwasanaethau yn cael gwybod am gynnydd bob amser ac yn cael eu hysbysu o unrhyw oedi gyda phroblemau gweithredu cyn gynted ag y bo modd.
•Cydweithio yn agos gyda gwasanaethau cyfreithiol, timau cyllid, unol â’r gofyn ar fanylion gwasanaethau a fframweithiau, er mwyn adnabod unrhyw faterion sydd angen eu datrys ar gyfer ailfodelu darpariaeth.
•Cefnogi a/neu ddirprwyo ar ran y Rheolwr Categori mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Grwpiau Gwella Gwasanaeth.
•Cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu fel y cytunwyd gyda’r Rheolwr Categori ac annog ymarfer da sy’n sail i drefniadau a darpariaeth gwasanaeth yn y categori.
•Sicrhau ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac ymarfer da.
Cyffredinol eraill:-
•Rheoli, monitro risgiau, gan ddatrys problemau a materion sy’n codi, a chymryd camau adferol, neu uchafu materion o bwys i’r Rheolwr Uned yn ôl yr egwyddor o reolaeth drwy eithriad;
•Gwirio a rheoli ansawdd cynnyrch ac allbynnau’r gwaith disgwyliadau’r swydd - gan sicrhau cysondeb, eu bod yn gydnaws â strategaethau eraill y Cyngor, a’u bod yn bodloni unrhyw safonau corfforaethol technegol ac arbenigol eraill;
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad;
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor;
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei drin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau ôl-troed carbon y Cyngor yn unol â Chynllun Rheoli Carbon y Cyngor ac i annog eraill i gyfrannu yn gadarnhaol at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n gyd fynd â lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
I fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau y tu allan i oriau gwaith arferol pan bo’r angen.