Pwrpas y Swydd
• Rheoli cyllideb yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol
• Galluogi’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr i wneud penderfyniadau cyllidol er lles yr ysgol trwy ddarparu adroddiadau manwl a chywir am gyllideb yr ysgol
• Cefnogi anghenion gweinyddol yr ysgol yn llawn
• Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â pholisiau a rheoliadau statudol
• Cefnogi’r Uwch Dim Arwain i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau’r ysgol.
• Sicrhau bod llinellau cyfathrebu clir rhwng yr ysgol ac adrannau allweddol o’r AALl
• Hybu a hwyluso y defnydd cymunedol o'r ysgol
• Cynorthwyo i sicrhau bod adeiladau'r ysgol yn cyrraedd safonau a gofynion Iechyd a Diogelwch.
• Rheoli cyfleusterau'r ysgol, rheoli a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol,
Cyllid
• Paratoi adroddiadau manwl sy'n dangos sefyllfa'r gyllideb a ragwelir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar staffio a niferoedd disgyblion gan gymryd i ystyriaeth y blaenoriaethau a nodir yn y cynllun gwella ysgol.
• Paratoi adroddiadau ariannol i'r Pennaeth, yr Is-Bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol gan gynnwys monitro incwm a gwariant trwy gydol y flwyddyn a darparu cyngor ac argymhellion i sicrhau fod gwariant o fewn y gyllideb.
• Rheoli gweinyddiaeth ddyddiol y gyllideb gan ddefnyddio’r system SIMS LRM – sicrhau cywirdeb holl drafodion ffeil cysoni’n fisol, prosesu archebion, anfonebau, incwm, a gwneud trosglwyddiadau cyllidol mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth a’r Is-Bwyllgor Cyllid.
• Llunio’r gyllideb, a’r gyllideb ddiwygiedig, mewn cydweithrediad â’r Pennaeth ar gyfer yr Is-Bwyllgor Cyllid.
• Darparu gwybodaeth gyson am falansau arfaethedig yr ysgol fel ffynhonnell wybodaeth greiddiol ar gyfer yr Is-Bwyllgor.
• Goruchwylio rheolaeth grantiau allanol drwy ddarparu gwybodaeth am eu defnydd i adain gyllid yr Awdurdod gan sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle sy'n cadw at reoliadau ariannol.
• Cau cyfrifon diwedd y flwyddyn yn unol â’r rheoliadau ariannol.
• Gweinyddu holl gronfeydd yr ysgol. Cysylltu gyda’r archwilwyr allanol a darparu gwybodaeth iddynt. Darparu adroddiadau ar y cronfeydd i’r Is-Bwyllgor Cyllid.
• Rheoli defnydd o gerdyn credyd yr ysgol dan arweiniad y Pennaeth ac Adran Gyllid yr awdurdod.
• Rheoli ‘petty cash’ yr ysgol.
• Trosolwg o weinyddiaeth incwm a thaliadau School-Comms
• Darparu gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer adran archwilio’r Awdurdod.
• Rheoli a gweinyddu’r cynllun gwersi offerynnau cerdd.
• Cynghori’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethwyr ar y defnydd gorau o adnoddau a fydd yn hwyluso'r gwaith o godi safonau a monitro perfformiad yn ogystal â mesur targedau perfformiad cywir.
• Gweithio'n rhagweithiol i ganfod ffyrdd newydd o weithio a herio'r dulliau presennol o ddarparu gwasanaethau er mwyn ceisio lleihau y pwysau cyllidol yn y dyfodol.
Llywodraethwyr
• Gweithredu fel clerc y Corff Llywodraethol a’r Is-Bwyllgorau: galw cyfarfodydd, trefnu’r agenda, paratoi’r ddogfennaeth, cofnodi cyfarfodydd, a gweithredu penderfyniadau.
• Rheoli’r holl ofynion statudol mewn perthynas â’r llywodraethwyr unigol: hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau troseddol GDG (DBS).
• Paratoi adroddiad blynyddol y Corff Llywodraethol i rieni mewn cydweithrediad â’r pennaeth.
• Cydweithio gyda’r Pennaeth a’r Cadeirydd i baratoi arfarniad o waith y corff yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
Gweinyddiaeth / Rheoli Pobl
• Rheolwr llinell i staff ategol yr ysgol
• Rheoli cyflogaeth goruchwylwyr amser cinio.
• Adolygu Datblygiad Proffesiynol y staff ategol, gan osod amcanion blynyddol a’u hadolygu.
• Mewn cydweithrediad â’r Pennaeth, llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y staff ategol a’r hadolygu yn ôl yr angen.
• Cyfrifoldeb am faterion personél pob aelod o staff megis gweinyddu penodiadau a materion cyflog.
• Cydweithio â’r adran bersonél i sicrhau fod yr ysgol yn derbyn cyngor ac arweiniad ar faterion cyflogaeth.
• Cydlynu a chadw cofnodion o faterion yn ymwneud â phob aelod o staff gan gynnwys hyfforddiant amddiffyn plant, gwiriadau troseddol GDG (DBS), a chadw cofrestr gyfredol o HMS.
• Gweinyddu’r drefn absenoldebau ar gyfer pob aelod o staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff. Cwblhau’r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl.
• Derbyn galwadau gan staff i nodi absenoldeb ar y diwrnod. Rheoli amserlen a rhaglen waith athrawon llanw yn unol â’r galw a gweinyddu’r trefniadau cyflenwi dyddiol. Anwytho athrawon llanw newydd i’r ysgol.
• Gweinyddu’r drefn o wirio dogfennaeth pob aelod o staff ar gyfer ‘Gyrru ar Fusnes Ysgol’.
• Paratoi cyfrifiad blynyddol PLASC, cyfrifiad PLASC Ôl-16, cyfrifiad SWAC a’r cyfrifiad presenoldeb.
• Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i’r Corff Llywodraethol, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, Gyrfa Cymru, ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
• Cofnodi cyfarfodydd ar gais y Pennaeth.
• Gweithredu dan arweiniad y Pennaeth i sicrhau fod y wybodaeth ar wefan yr ysgol yn gyfredol.
Systemau Rheolaethol
• Rheoli system SIMS yr ysgol, gan gynnwys gosod y fframwaith flynyddol ar gyfer derbyn yr amserlen a chyfansoddiad dosbarthiadau sy’n cynnwys aelodaeth disgyblion mewn dosbarthiadau, gan sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol.
• Rheoli a datblygu systemau ar gyfer cynnal a chadw ffeiliau staff a disgyblion, cynhyrchu adroddiadau CTF’s ar gyfer disgyblion sy’n trosglwyddo, a sicrhau fod y wybodaeth yn PLASC yn gywir.
• Mewn cydweithrediad â’r aelod UDA sy’n gyfrifol am arholiadau allanol, cynorthwyo’r Swyddog Data i gofrestru disgyblion drwy SIMS ar gyfer yr arholiadau ac i weinyddu canlyniadau’r disgyblion drwy SIMS, a chynhyrchu adroddiadau i’r uwch dim arwain.
Diogelu Data
• Sicrhau bod yr ysgol yn ymateb yn llawn i reoliadau diogelu data
• Cyd-weithio gyda swyddog diogelu data’r Awdurdod yn ôl yr angen.
Defnydd o’r Adeilad
• Trefnu a hwyluso defnydd cymunedol o’r ysgol.
• Gosod yr ysgol – trefnu anghenion y defnyddwyr, presenoldeb y gofalwr, anfon biliau a derbyn taliadau.
Adeiladau
• Mewn ymgynghoriad â’r UDA a’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu â swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yn yr ysgol.
Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth.