ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG
(Ysgol Gyfun 11 – 16 oed, 369 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2026.
ATHRO / ATHRAWES (DROS DRO)
Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2027 yn unig yw hwn.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Bydd y sawl a benodir yn cael ei gyflogi dan y Cynllun Pontio Cynradd-Uwchradd Llywodraeth Cymru. Gweler y manylion pellach (swydd ddisgrifiad) am fwy o fanylion am y cynllun. Mae’r pwnc i’w benderfynu ynghyd â’r oriau gwaith.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymwyster (pro rata os yw’r swydd yn rhan amser).
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mr Dewi Bowrn drwy e-bostio dewi.bowen@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 12:00 Dydd Sul, 22 Chwefror 2026.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(The above is an advertisement for a temporary post for a Teacher at Ysgol Eifionydd, Porthmadog who will be employed under the Primary to Secondary Welsh-medium Conversion Programme for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.