Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I weithio gyda phlant a’u teuluoedd yn unol a’r Ddeddf Plant 1989, Gweithdrefau Diogelu Cymru , Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Fframwaith Asesu Plant Mewn Angen a’u teuluoedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cynghori aelodau'r tîm ar feysydd gwaith arbenigol.
•Goruchwylio nifer cyfyngedig o aelodau tîm yn unol â'r disgwyliadau yn y polisi goruchwylio a'r polisïau adnoddau dynol. Nodi cryfderau a meysydd datblygiadol ar gyfer staff trwy oruchwylio a gwerthuso parhaus. Defnyddio sgiliau datblygu a rheoli yn effeithiol i ddatblygu perfformiad staff yn barhaus.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml-sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth. Cynrychioli'r awdurdod lleol mewn cyfarfodydd perthnasol.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl oruchwylio.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl oruchwylio.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl oruchwylio.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau trwy'r rôl oruchwylio.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa trwy'r rôl oruchwylio.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl oruchwylio.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl oruchwylio.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl oruchwylio.
•Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai
profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl oruchwylio.
•Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a chreu amgylchedd o barch a chydweithio. Rhoi cyfeiriad ac adborth i staff trwy rannu'r weledigaeth yn effeithiol.
•Rheoli defnydd effeithlon o adnoddau gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth staff.
•Dyrannu gwaith yn briodol. Ystyried brys a blaenoriaethu mewn modd amserol.
•Cyfrannu at ac arwain ar brosiectau yn lleol ac yn rhanbarthol.
•Cyfrannu at yr agenda cynllunio’r Gweithlu trwy gydlynu’r broses lleoli myfyrwyr blynyddol o fewn y tîm.
Dyletswyddau Lleol
•Yn unol a sgiliau a phrofiad, i ddelio ag achosion mwy cymhelth eu natur gan gynnwys rhai ble mae plant mewn perygl. I gymryd rhan mewn achosion llys gan gynnwys rhoi tystiolaeth a pharatoi adroddiadau.
•I fod yn rhan o system ddyletswydd y tim a’r swyddfa rhanbarth fel bo’r angen.
•gynnig gwasanaeth i glientau unigol, teuluoedd a’r gymuned yn unol ậ fframwaith gyfreithiol amrywiol ddeddfau sydd yn berthnasol i lês plant, gan gynnwys amddiffyn plant ac asesiadau o blant mewn angen.
•Asesu angen a rhoi cefnogaeth i deuluoedd mewn angen. Golyga hyn gydlynnu gwaith gweithwyr o asiantaethau eraill gan ddefnyddio adnoddau yr adran a’r gymuned mewn modd hyblyg.
•I weithio mewn modd sydd yn hybu lles plant sydd mewn gofal i’r Cyngor Sir.
•helpu cydweithwyr i gario allan eu dyletswyddau. Yn achlysurol, bydd gofyn cydweithio a gweithwyr eraill yn y timau/asiantaethau eraill yn ogystal a chyfrio gwaith cydweithwyr sydd yn absennol
•Mewn amgylchiadau eithriadol, i ymgymryd a chyfrifoldebau er mwyn ymateb i sefyllfa o argyfwng.
•Unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol fel y bydd angen gan bennaeth y gwasanaeth.
•I gwbwlhau’r canllawiau/gofynion gweinydddol angenrheidiol yn unol a chanllawiau, polisiau ac ymarfer.
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota