Swydd ddisgrifiad
Swydd : ATHRO/ATHRAWES Pontio
Rheolwr Cyswllt : Pennaeth yr Adran/nau Perthnasol
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Brynrefail am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol Brynrefail yn ysgol Uwchradd 11-18 oed ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. Mae bron i 800 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda’r rhan fwyaf yn dod atom o’r dalgylch ysgolion cynradd Llanrug, Bethel, Llanberis, Deiniolen, Penisarwaun a Waunfawr. Mae’r disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o’u pynciau yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad mae bron pob disgybl yn rhugl ddwyieithog. Mae natur yr ysgol yn adlewyrchu ardal ddiwylliedig, hanesyddol a chymreig Dyffryn Peris. Mae awyrgylch hapus a chartrefol yma, gyda pherthynas iach rhwng y disgyblion a staff yn nodwedd gref. Ymfalchiwn yn y ffordd mae ein disgyblion yn datblygu i fod yn unigolion hyderus, dwyieithog, medrus sydd yn gyfforddus iawn yn nghwmni cyd-ddisgyblion, staff ac ymwelwyr i’r ysgol.
Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Brynrefail i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Datblygu dycnwch
- Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses Ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau’r Pasg.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth ar 01286 672381 neu ebost pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru.