Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Hyrwyddo arfer dda trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnegau seicolegol.
•Cynorthwyo gyda rôl strategol ar ran yr A.Ll. mewn maes/meysydd sydd yn cyd-fynd â strategaeth ADY a chynhwysiad, a Strategaeth Addysg Awdurdodau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys gweithio dan oruchwyliaeth, ac ar y cyd gyda Seicolegwyr Addysgol i:
•Ddarparu Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o’r Tîm Integredig mewn maes/meysydd anhawsterau dysgu amrywiol, lles emosiynnol, iechyd meddwl, ymyrraethau ysgol gyfan/grŵp/ unigolion, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
•Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
•Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer y disgyblion unigol.
•Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am gefnogi seicolegwyr addysgol i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
•Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
O Dan arweiniad Seicolegydd Addysgol wedi cymhwyso, Cynnig gwasanaeth Seicoleg Gymhwysol i:
•Cyfrannu i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Gwasanaeth Integredig yr A.Ll. yn ôl dangosyddion effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr A.Ll. dan arweiniad y Prif Seicolegydd Addysgol
•Cefnogi Seicolegwyr Addysgol i ymgymryd â dyletswyddau statudol yn ôl Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 a gweithredu polisïau a phrosesau statudol eraill yr A.Ll.
•Darparu gwasanaeth drwy amrywiaeth o ddulliau (ymgynghori, asesu, arsylwi, rhaglenni ymyrraeth, gwaith unigol, gwaith prosiect, casglu data) trwy weithio o fewn y Tîm Integredig
•Cydweithio gyda rhieni/athrawon a disgyblion er mwyn darganfod pa fath o ymyrraeth sydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer yr angen. Darparu rhannau o’r ymyrraeth yma yn uniongyrchol pe byddai’n addas (e.e. gwaith therapiwtig neu asesu unigol).
•Gweithio yn agos gyda’r Seicolegwyr Addysgol mewn maes/meysydd arbenigol yn unol â’r galw
•Cynorthwyo Seicolgwyr Addysgol i gefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion a gyfeirir trwy ddull ymgynghorol
•Ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithlon ac effeithiol y Gwasanaeth yn unol â Chynllun Datblygiad Proffesiynol
•Cyfrannu yn i brosiectau penodol sydd yn cael eu sefydlu gan yr A.Ll.
•Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau eraill o fewn yr A.Ll. a chysylltu â chydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn unol â’r anghenion a’r ymarfer yn yr Awdurdod Addysg.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill ar gais Rheolwyr sy’n briodol i lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
•Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-