Pwrpas y swydd
Gweithio fel rhan o dîm preswyl, a chynorthwyo’r rheolwr i ddarparu gofal i blant mewn gofal mewn Cartref Plant:
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Fel aelod o’r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
•Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Gweithredu fel dirprwy reolwr y cartref, gan gymryd cyfrifoldeb am rhai agweddau penodol wedi’w delegeiddio gan Reolwr yr uned.
•Mynychu cyfarfodydd ar ran yr uned.
•Cynorthwyo’r rheolwr gyda thasgau sy’n gysylltiedig a chynnal cofrestriad y cartref gydag Arolygaeth Gofal Cymru.
•Darparu ystod o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a’u teuluoedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Offer – cegin a choginio, sicrhau deunydd priodol o gyfleusterau’r adeilad ( yn cynnwys hoists)
Rhoi goruchwylaieth i staff.
Rheoli cyllid.
Archebu nwyddau/cyfarpar.
Sicrhau diogewlch yr adeilad.
Prif ddyletswyddau
•I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu’r cynlluniau.
•Bod yn aleod o dim, gan rhoi arweiniad, cefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo’r angen.
•Datblygu perthynas weithio dda gyda theuluoedd i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
•Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i’w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
•Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau cyfredol o’r holl gyfarfodydd a fynychir a’r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos. .
•Annog a chefnogi teuluoedd i ddilyn y cynllun gweithredu.
•Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi teuluoedd yn eu cymunedau lleol.
•Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
•Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
•Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
•Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a’u monitro.
•I adael i’r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy’n crybwyll hynny.
•I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo’r plant I gwblhau’r tasgau hyn.
•Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
•I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
•Mynychu cyfarfodydd tim ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim, gan gynnwys dirprwyo i’r rheolwr.
•Derbyn goruchwyliaeth gyson.
•Rhannu cyfrifoldebau goruwchylio staff parhaol gyda Rheolwr y cartref.
•Rhoi arweiniad i staff efo materion sy’n codi o ddydd i ddydd.
•Bod yn gyfrifol am rediad yr uned o ddydd i ddydd yn absennoldeb y rheolwr.
•Cynorthwyo’r rheolwr i sicrhau rheolaeth effeithiol o holl agweddau rhedeg yr uned o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli’r gyllideb a sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Corestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.
•Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
•Ymgyfarwyddo a pholisïau, trefniadau a chanllawiau’r Cyngor ynglŷn ag arferion da a materion yn ymwneud ac Iechyd a Diogelwch.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi yn unol ag anghenion hyfforddi.
•Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i’r swydd ac sydd er lles a datblygiad y plentyn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
•Mae’r swydd wedi ei lleoli yn Hafan Y Ser Penrhyndeudraeth a Hafan Ni Criccieth, ond bydd hefyd yn golygu teithio gan y bydd yn delio gydag achosion ar draws Gwynedd.