Pwrpas y Swydd
Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
Goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd, aros ar dâsg a chynnal trefn.
1 Cefnogaeth i Ddisgyblion
1.1 Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
1.2 Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
1.3 Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
1.4 Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
1.5 Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
1.6 Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
1.7 Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
1.8 Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
1.9 Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.
1.10 Gweithredu fel Anogwr Dysgu yn yr ysgol
2 Goruchwyliwr / Goruchwylwraig Gyflenwi
2.1 Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo’r gofyn.
Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes
2.2 Cofrestru a chofnodi presenoldeb dysgwyr mewn gwersi.
2.3 Cyfarwyddo dysgwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
2.4 Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
2.5 Sicrhau bod dysgwyr yn mynd i mewn ac allan o’r dosbarthiadau yn drefnus.
2.6 Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
2.7 Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
2.8 Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau’n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
2.9 Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a’i ddychwelyd i’r athro priodol.
2.10 Cysylltu â’r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
3 Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
3.1 Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
3.2 Gweithio gyda’r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
3.3 Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
3.4 Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
3.5 Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i’r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
3.6 Fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.
- Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
4.1 Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
4.2 Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
4.3 Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
4.4 Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
4.5 Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
4.6 Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
4.7 Cefnogaeth i’r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
4.8 Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.
- Cefnogaeth i’r Ysgol
5.1 Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
5.2 Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
5.3 Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
5.4 Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
5.5 Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
5.6 Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd personol a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
5.7 Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
5.8 Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu’r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
5.9 Goruchwylio’r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.