YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.
TECHNEGYDD GWYDDONIAETH
Swydd Barhaol (Rhan Amser).
Oriau gwaith: 22.2 awr y flwyddyn.
(40 wythnos y flwyddyn, sef tymor ysgol ynghyd a dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd yn ogystal a 1 wythnos tu allan i dymor ysgol)
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (£13,988 - £15,111 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda Phennaeth Y Gyfadran Wyddoniaeth, Mr David Varty, Rhif ffôn: 01248 364905
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mrs Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;
e-bost: bethan.roberts@friars.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: 10 O’R GLOCH, DYDD IAU, 5ED O CHWEFROR, 2026
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.