Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cefnogi’r Pennaeth mewn rôl weithredol i sicrhau fod yr Adran yn cyflawni’n effeithiol ac effeithlon ym mhob maes.
•Hyrwyddo gwaith yr adran a chreu partneriaethau er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni i’r gorau o’n gallu.
•Arwain/ rheoli prosiectau penodol ar ran y Pennaeth
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer – Cyfrifoldeb dros offer sy’n hanfodol i gyflawni dylestwyddau dydd-i-ddydd y swydd
Prif ddyletswyddau
•Darparu cefnogaeth weithredol i’r Pennaeth er mwyn ei gynorthwyo/chynorthwyo i ymarfer ei rôl dyddiol. O reidrwydd bydd hyn yn golygu cyflawni amrediad eang o ddyletswyddau yn ôl y gofyn. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
•Gweithredu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod ar ran a gydag awdurdod y Pennaeth lle bo’r angen yn codi.
•Gwneud gwaith ymchwil ac adnabod tueddiadau allweddol mewn amrywiol feysydd gan ddarparu cefnogaeth a diweddariadau rheolaidd.
•Llunio dogfennau o safon uchel (gan gynnwys adroddiadau i wahanol fforymau a phwyllgorau , papurau trafod/tystiolaeth ac adolygiadau) a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol.
•Rhedeg rhaglenni neu brosiectau unigol mewn amrywiol feysydd gan gynnwys cymryd amrywiol rolau o dan gyfundrefn rheoli prosiect y Cyngor.
•Cefnogi’r Pennaeth gyda’r gyfundrefn herio perfformiad, adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet, Adroddiad Blynyddol yr Adran, Cynllun y Cyngor a dogfennau eraill o’r un natur.
•Cydweithio’n agos gyda budd-ddeiliaid mewn amrywiol feysydd, gan feithrin perthynas effeithiol a dylanwadol gyda phrif swyddogion y Cyngor, yr Aelodau Cabinet a budd-ddeiliaid allanol fel sy’n ofynnol
•Cydlynu a diweddaru cofrestr risg yr adran a chefnogi’r Pennaeth a’r rheolwyr i gyflwyno a gwireddu’r mesurau lliniaru.
•Cefnogi’r Pennaeth, Penaethiaid Cynorthwyol a’r Rheolwyr i sicrhau fod ein Cynlluniau Parhad gwasanaeth yn gyfredol, ymarferol ac effeithiol.
•Sicrhau fod yr Adran yn gallu cael mynediad at ddata cyfoes a pherthnasol er mwyn gallu rheoli perfformiad yn effeithlon.
•Edrych ar ymarfer da mewn sefydliadau eraill a chymharu perfformiad mewn meysydd gwaith penodol yn erbyn perfformiad sefydliadau eraill cyfatebol gyda’r nod o ddarganfod os oes cyfleon i ddysgu gwersi.
•Arwain ar faterion cyfathrebu ac ymgynghori cyhoeddus ac gan sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth am gynnydd yn y meysydd gwaith unigol.
•Cefnogi’r Pennaeth i ymateb i sefyllfaoedd sydd angen atebion unigryw neu gyfuniad o atebion sy’n torri ar draws sawl maes gwaith gwahanol ar draws yr Adran.
•Cefnogi’r Pennaeth, Penaethiaid Cynorthwyol a Rheolwyr yr Adran i sefydlu’r achos dros newid, lunio achosion busnes a gwireddu newid mewn meysydd gwaith penodol.
•Ymchwilio i gwynion a sicrhau fod yr Adran yn dysgu gwersi pan fo’r cyfle yn codi.
•Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol er mwyn medru cyflawni’r swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•