Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Galluogi’r amlosgfa i gyflawni ei wasanaethau mewn modd effeithiol, dibynadwy a phriodol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Stoc o nwyddau a gedwrir wrth-gefn i’r amlosgyddion.
•Technegydd Amlosgfa.
•Offer yr amlosgyddion a chyfarpar cysylltiol.
•Ystafelloedd yr amlosgyddion.
•Nwyddau Cymorth Cyntaf.
•Stoc o nwyddau glanhau.
•Gwisg ffurfiol.
Prif ddyletswyddau
•Gwasgaru llwch yn Yr Ardd Goffa.
•Gorolwg o wasanaeth cynnal tirroedd ac ymgymerwyr eraill.
•Gosod eirch yn yr amlosgyddion.
•Gweithredu yr amlosgyddion yn unol a gweithdrefnau a rheolau y Cyngor.
•Darparu llwch ar ôl amlosgiad
•Cyflawni gwaith glanhau a man waith cynnal a chadw i’r amlosgyddion.
•Ymgymryd a dyletswyddau yn y dderbynfa a’r capel gogyfer gwasanaethau.
•Ymgymryd a dyletswyddau allanol yn ymwneud a’r tiroedd a’r Mur Goffa.
•Ymgymryd a gwaith glanhau adeilad.
•Cynorthwyo’r cyhoedd ac eraill.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio gor-amser fel y bo’r angen.
•Dilyn patrwm gweithio dyddiol yn unol a chynllun gweithredu a ddarperir gan Y Rheolwr.
•Ymwneud a’r cyhoedd mewn modd cwrtais a phroffesiynol.
•Gweithio ar benwythnosau yn ôl y gofyn ac hefyd tros cyfnod gwyliau y Cyngor am Y Nadolig.