Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm drwy oruchwylio (dim rheolaeth llinell) tîm o Gynghorwyr Cwsmer ar draws ein safleodd Cyswllt Cwsmer yn Nolgellau, Pwllheli, Penrhyndeudraeth a Chaernarfon, gan ddod ag unrhyw broblem i sylw’r Arweinydd Tîm yn brydlon.
•Cydweithio gyda’r Arweidydd Tîm a gweithredu fel swyddog ar ddyletswydd, er mwyn delio gydag ymholiadau Cynghorwyr Cwsmer
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i sicrhau datblygiad staff drwy gynnal cyfarfodydd gwerthuso parhaus.
•Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm er mwyn sicrhau fod gan pawb y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol i gyflawni eu gwaith.
•Ar gais yr Arweinydd Tîm, cynnal sesiynau briffio, er mwyn datblygu sgiliau staff a sicrhau fod gwybodaeth cyfredol yn cael ei rannu.
•Annog amgylchedd ble gall y tîm gymryd penderfyniadau
•Hyrwyddo diwylliant o safon uchel gyda phwyslais ar ganlyniadau positif i’n cwsmeriaid
•I weithredu fel Rheolwr Safle ar ddyletswydd ar safle Canolfan Cyswllt Cwsmer, Penrhyndeudraeth.
•I adrodd am unrhyw broblemau i’r Adran Eiddo a rhoi gwybod i’r Rheolwr Gwasanaeth /Arweinydd Tîm fel bod angen
•Sicrhau diogelwch pawb sydd yn defnyddio’r adeilad drwy ddilyn canllawiau IOSH a Rheoli Safle
•Rhoi cyngor a chefnogaeth a goruchwylio tîm (dim rheolaeth llinell) o Gynghorwyr Cwsmer sydd yn gweitho ar y safle ym Mhenrhyndeudraeth gan ddod ag unrhyw broblem i sylw’r Arweinydd Tîm brydlon.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i oruchwylio hyd at 40 o staff.
•Cyfrifoldeb am fancio unrhyw incwm sy’n cael ei dderbyn ar y safle ym Mhenrhyn, a monitro’r broses/bancio fel bod angen ar draws ein safleodd Cyswllt Cwsmer eraill.
•Cynorthwyo’r Rheolwr i reoli safle, Uned 2, Stad Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth
•Sicrhau bod y generadur ar y safle yn gweithio ac yn cael ei gynnal a chadw fel bod angen, er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth serfers systemau cyfrifiadurol y Cyngor, a system ffôn
Prif ddyletswyddau
•I fonitro perfformiad a datblygiad Cynghorwyr Cwsmer gan adrodd am unrhyw bryder i’r Arweinydd Tîm perthnasol.
•Ar gais yr Arweinydd Tîm, cynnal cyfarfodydd gwerthuso parhaus staff Cyswllt Cwsmer ac adrodd am unrhyw bryderon yn brydlon (dim cyfrifoldeb rheolaeth llinell).
•O dan arweiniad yr Arweinydd Tîm, sicrhau fod Cynghorwyr Cwsmer yn derbyn hyfforddiant yn y meysydd gwaith cywir, a monitro eu datblygiad yn y maes hwn, gan adrodd am unrhyw ddiffyg i’r Arweinydd Tîm.
•Rhoi gwybod am unrhyw broblem gyda’r lleoliad gwaith neu aelod o staff i’r Arweinydd Tîm.
•Cyflawni rôl Cynghorwr Cwsmer pan nad oes digon o staff ar gael i ddelio gydag ymholiadau cwsmeriaid.
•I gefnogi’r Arweinydd Tîm i ddatblygu sgiliau, gallu, a hyder Cynghorwyr Cwsmer drwy arwain a dangos esiampl.
•Cynnal sesiynau briffio, er mwyn datblygu sgiliau staff a sicrhau fod gwybodaeth cyfredol yn cael ei rannu.
•Yn gyfrifol am greu pecynnau hyfforddi, a hyfforddi staff yn eu rôl pan bod angen.
•Cyflwyno delwedd broffesiynol
•Adrodd am unrhyw rwystr o fewn y tîm na ellir ei oresgyn eich hunain.
•Sicrhau fod y tîm yn derbyn adborth gan gwsmeriaid am y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i gyrraedd mesuryddion perfformiad ac adrodd am unrhyw fater a all fod yn risg i gyrraedd y lefelau perfformiad disgwyliedig.
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i gyrraedd safonau gwasanaeth, cytundebau lefel gwasanaeth a chydymffurfio â deddfwriaethau.
•Atgoffa staff am yr angen i dderbyn adborth gan gwsmeriaid allanol er mwyn cynnal gwelliannau parhaus yn narpariaeth ein Canolfannau Cyswllt Cwsmer.
•Monitro, dadansoddi a chofnodi gwybodaeth am yr adborth sy’n cael ei dderbyn a’i gyflwyno i sylw’r Arweinydd Tîm.
•Cyfeirio adborth cwsmeriaid ymlaen i’r Gwasanaethau cywir, os nad yw’n berthnasol i’r Gwasanaeth Cyswllt Cwsmer.
•Adrodd ar batrymau problemau i’r Arweinydd Tîm yn brydlon.
•Gweithredu ar rwystrau sy’n cael eu hadrodd ac uchafu rhai na ellir eu datrys i’r Arweinydd Tîm.
•Yn gyfrifol am gwblhau rota staffio yn fisol ar draws y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmer ac adrodd am unrhyw broblemau staffio i’r Arweinydd Tîm.
•Monitro perfformiad unigolion o fewn y tîm, yn unol â chais yr Arweinydd Tîm ac adrodd am unrhyw bryderon
•Sicrhau fod absenoldebau misol a ffurflenni goramser yn cael eu cwblhau yn brydlon er mwyn eu cyflwyno ar gychwyn pob mis
•Goruchwylio staff Cyswllt Cwsmer fel bod angen yn ystod absenoldebau yr Arweinydd Tîm ac adrodd yn brydlon pan fydd yr AT yn dychwelyd i’r swyddfa.
•Adolygu asesiadau risg yn rheolaidd ac addasu fel bod angen, gan ddiweddaru’r Arweinydd Tîm ar unrhyw broblemau.
•Sicrhau fod asesiadau risg yn cael eu dilyn gan bob aelod o staff.
•Sicrhau fod profion wythnosol yr adeilad yn cael eu cwblhau a’u cofnodi yn y dogfennau perthnasol yn y bocs glas, a sicrhau fod yr asesiad risg tân yn cael ei ddilyn.
•Sicrhau fod “co-operation – co-ordination” yn bodoli rhwng y cwmni allanol sy’n defnyddio’r adeilad a Chyngor Gwynedd.
•Gweithredu fel “keyholder” ac agor a chau’r adeilad fel bod angen.
•Adolygu asesiadau risg yr adeilad gyda’r Arweinydd Tîm yn flynyddol.
•Sicrhau fod profion larymau tân yn cael eu cynnal yn unol a gofynion y ddeddf rheoladau tân.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd gyda’r nos o bryd i’w gilydd a gweithredu fel rhan o dim yn ymateb I argyfyngau sifil, yn unol a chynllun y Cyngor
•Wrth I’r Cyngor ail-ystyried oriau gwasanaeth, fe allasoai hyn effeithio ar oriau gwaith y swydd hon
•Meddu ar drwydded yrru llawn a dilys a meddu ar gar