Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Hyrwyddo arfer dda trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnegau seicolegol.
•Cynorthwyo gyda rôl strategol ar ran yr A.Ll. mewn maes/meysydd sydd yn cyd-fynd â strategaeth ADY a chynhwysiad, a Strategaeth Addysg Awdurdodau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo’r Uwch Seicolegwyr Arbenigol/ Prif Seicolegydd/Swyddogion Ansawdd ADYaCh Ardal i:
•Ddatblygu ac adolygu rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o’r Tîm Integredig mewn maes/meysydd anhawsterau dysgu amrywiol, lles emosiynnol, iechyd meddwl, ymyrraethau ysgol gyfan/grŵp/ unigolion, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant yn y maes/meysydd hynny pan yn briodol ar lefel ysgol, ardal neu awdurdod.
•Datblygu a hybu defnydd o Feini Prawf addas ar gyfer y maes/meysydd hwn.
•Cymryd rôl strategol o fewn y Fforymau ADYaCh.
•Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
•Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer y disgyblion unigol.
•Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
•Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
•Ymgymryd â gwaith ymgynghorol o fewn ysgolion, mewn rhan diffiniedig o’r Sir ac o fewn ardal, gan sicrhau fod y gwasanaethau a’r asiantaethau sydd yn cynorthwyo’r plant, eu hysgolion a’u rhieni, yn derbyn gwybodaeth a chyngor priodol. Gall y diriogaeth amrywio yn ôl gofynion y gwasanaeth.
•Cyfrannu i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Gwasanaeth Integredig yr A.Ll. yn ôl dangosyddion effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr A.Ll.
•Ymgymryd â dyletswyddau statudol yn ôl Cod Ymarfer Cymru a gweithredu polisïau a phrosesau statudol ac eraill yr A.Ll.
•Darparu Gwasanaeth rheolaidd o ymgynghori i ysgolion, trwy weithio o fewn y Tîm Integredig mewn ardal benodedig, a fydd yn nodi’r mathau o gynhaliaeth a gynigir oddi mewn i’r adnoddau staffio sydd yn bodoli.
•Cydweithio gyda rhieni/athrawon a disgyblion er mwyn darganfod pa fath o ymyrraeth sydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer yr angen. Darparu rhannau o’r ymyrraeth yma yn uniongyrchol pe byddai’n addas (e.e. gwaith therapiwtig neu asesu unigol).
•Gweithio yn agos gyda’r Prif Seicolegydd Addysgol ac Uwch Seicolegwyr mewn maes/meysydd arbenigol yn unol â’r galw a’r rôl strategol o fewn y Tîm Integredig.
•Cydweithio agos gyda’r Swyddog Ansawdd ADYaCh yn yr Ardal er mwyn rhannu gwybodaeth, arferion da a chynnydd.
•Cynorthwyo ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion a gyfeirir trwy ddull ymgynghorol a hwyluso cynllunio sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
•Ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithlon ac effeithiol y Gwasanaeth yn unol â Chynllun Datblygiad Proffesiynol er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig yn cyrraedd safonau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
•Cyfrannu yn strategol a gweithredol i brosiectau penodol sydd yn cael eu sefydlu gan yr A.Ll.
•Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau eraill o fewn yr A.Ll. a chysylltu â chydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn unol â’r anghenion a’r ymarfer yn yr Awdurdod Addysg.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill ar gais Rheolwyr sy’n briodol i lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
•Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-