PwrPwrpas y Swydd
Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
Goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd, aros ar dâsg a chynnal trefn.
1Cefnogaeth i Ddisgyblion
1.1Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
1.2 Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
1.3 Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
1.4 Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
1.5 Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
1.6 Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
1.7 Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
1.8 Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
1.9 Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.
1.10 Gweithredu fel Anogwr Dysgu yn yr ysgol
2 Goruchwyliwr / Goruchwylwraig Gyflenwi
2.1 Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo’r gofyn.
Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes
2.2 Cofrestru a chofnodi presenoldeb dysgwyr mewn gwersi.
2.3 Cyfarwyddo dysgwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
2.4 Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
2.5 Sicrhau bod dysgwyr yn mynd i mewn ac allan o’r dosbarthiadau yn drefnus.
2.6 Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
2.7 Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
2.8 Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau’n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
2.9 Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a’i ddychwelyd i’r athro priodol.
2.10 Cysylltu â’r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
3 Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
3.1 Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
3.2 Gweithio gyda’r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
3.3 Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
3.4 Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
3.5 Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i’r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
3.6 Fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.
4. Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
4.1 Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
4.2 Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
4.3 Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
4.4 Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
4.5 Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
4.6 Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
4.7 Cefnogaeth i’r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
4.8 Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.
5. Cefnogaeth i’r Ysgol
5.1 Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
5.2 Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
5.3 Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
5.4 Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
5.5 Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
5.6 Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd personol a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
5.7 Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
5.8 Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu’r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
5.9 Goruchwylio’r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: CYMHORTHYDD CYFLENWI
Safonau Proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu - wedi eu haddasu gan yr Ysgol
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
• Iaith a Diwylliant Cymru
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu
o wneud ei swydd. Mae’r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
• Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Dysgwyr Proffesiynol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae’n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
• Rôl yn y System
Mae’r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob
man ac mae’n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
• Hawl Broffesiynol
Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun fel sefydliad sy’n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo’r hawl i annog a chefnogi gwelliant i’r ysgol er budd y dysgwyr.
Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu
• Addysgeg…dysgu ac addysgu sy’n holl bwysig
• Arweinyddiaeth…helpu addysgeg i dyfu
• Dysgu Proffesiynol…cymryd addysgeg yn ddyfnach
• Arloesi…symud addysgeg ymlaen
• Cydweithredu…galluogi addysgu i ledaenu
Safon ac Elfennau:
ADDYSGEG
Mireinio Addysgu:
-Rheoli’r amgylchedd dysgu
-Helpu gydag asesu
-Helpu i ddarparu adnoddau priodol
-Cynnwys teuluoedd yn y broses ddysgu
Hyrwyddo Dysgu
-Pedwar diben i ddysgwyr
-Cyd-destunau bywyd go iawn
-Cysylltu pynciau â themau
-Helpu dysgwyr i wneud cynnydd
Dylanwadu ar Ddysgwyr
-Arsylwi ar ddysgwyr
-Gwrando ar ddysgwyr
-Dysgwyr yn arwain dysgu
-Helpu dysgwyr i wneud ymdrech
-Deilliannau dysgu a lles
CYDWEITHREDU
-Ceisio cyngor a chymorth
-Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
-Cefnogi a datblygu eraill
DYSGU PROFFESIYNOL
-Darllen ac ystyried casgliadau ymchwil
-Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
-Iaith a diwylliant Cymru
ARLOESI
-Datblygu arbenigedd y tîm
-Gwerthuso effaith newidiadau i addysgeg
ARWEINYDDIAETH
-Cymryd cyfrifoldeb personol
-Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
-Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
-Arwain digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dysgu