Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I weithio fel rhan o dîm er mwyn darparu cefnogaeth weinyddol effeithiol o fewn y Adran Tai ac Eiddo, ac i gynnwys rheoli’r swyddfa. Er mwyn ymgymryd â'r dyletswyddau mewn modd proffesiynol gydag ystyriaeth ddyledus i gyfrinachedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gyfrifol am offer swyddfa fel cyfrifiaduron, argraffwyr ac yn y blaen.
•Staff – Goruchwylio 1 Cynhorthwyydd Gweinyddol + 1 o dan hyfforddiant yn ôl galw.
•Cyllideb – dim.
Prif ddyletswyddau
•Yn gyfrifol am gynnal gweithrediad effeithlon ac effeithiol o swyddogaethau gweinyddol ar gyfer y Gwasanaeth Tai. Goruchwylio-cydlynu cysondeb y swyddogaethau Gweinyddiaeth ar draws swyddfeydd datganoledig.
•Cymryd pob cam posibl i sicrhau bod gwaith hanfodol yr uned yn cael ei gwblhau h.y. trefniadau i ddelio ag absenoldebau ac ati.
•Cyd-drefnu cyflenwad a chysylltu ag Uwch Reolwyr yr Adran Tai ac Eiddo ynghylch unrhyw broblemau a/neu gymorth sydd angen.
•I gyfrannu at y gwaith o ddatblygu systemau rheoli swyddfa gan gynnwys ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymgymryd â rhai o ddyletswyddau gweinyddol staff eraill a allai fod yn absennol.
•Teipio adroddiadau pwyllgor, rheoli a thechnegol a llythyrau yn y dull a ffurf sefydliadol briodol.
•Cynorthwyo’r Rheolwyr Gwasanaeth i gadw rheolaeth dros eu cyllidebau gan sicrhau bod y llyfrau cyllideb yn gyfoes a gwirio eitemau yn ôl yr angen yn y llyfr cyfrifon.
•Cynhyrchu adroddiadau crynodeb o'r data, fel sy'n ofynnol gan Rheolwyr y Gwasanaeth a'r Uwch Reolwyr Gwasanaeth.
•Bod yn gyfrifol am gofrestru a phasio anfonebau am awdurdodiad ar gyfer talu.
•Cyfrifoldeb am wirio rhifyddeg a mewnbynnu hawliadau teithio, gan gynnwys awdurdodi iddynt gael eu rhyddhau ar gyfer talu, delio ag unrhyw ymholiadau yn y system. Oruchwylio gweithdrefnau’r Prosesu Hawliadau Teithio er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb.
•Cyfrifoldeb am Arian Mân a'i weinyddu.
•Sicrhau bod polisïau'r sefydliad ar reoli amser, cofnodi gwyliau, absenoldeb salwch, rheoli ariannol, olrhain a ffeilio gohebiaeth yn cael eu gweinyddu yn gywir. Oruchwylio cofnodi absenoldeb staff ar draws y meysydd gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y Staff Weinyddiaeth yn cwblhau eu dyletswyddau o fewn yr amser a ddyrennir.
•Bod yn rhan o’r broses reoli a monitro perfformiad gan gynnwys defnydd llawn o Dechnoleg Gwybodaeth yn unol â gofynion y swydd.
•Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n berthnasol i ofynion y gwasanaeth.
•Bod yn ymwybodol o Ddeddfau Iechyd a Diogelwch, a chyd-weithio efo’r Swyddog Cyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol.
•Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â rhaglen barhaus y Cyngor o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol, ynghyd â phroses werthuso sy'n cyfrannu ato.
•Mae hon yn rhestr enghreifftiol yn unig. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn rhan o'r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac unrhyw ddyletswyddau eraill a fyddai'n cael eu disgwyl yn rhesymol o bryd i'w gilydd gan reolwr unigolyn ar y radd yna.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Cyfarfodydd, is-bwyllgorau a chyfarfodydd gweithgorau - efallai y bydd rhai ohonynt yn cael eu cynnal y tu allan i oriau gwaith arferol.