YSGOL BRO IDRIS
DISGRIFIAD SWYDD
SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (LEFEL 3)
(GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWRAIG CYFLENWI)
AMSER: Swydd 5 diwrnod yr wythnos
32.50 awr yr wythnos (8:30-3.30 Oriau i’w trafod a’u cadarnhau, hanner awr i ginio)
40 wythnos y flwyddyn (yn cynnwys 5 diwrnod HMS a 5 diwrnod yn ystod y gwyliau)
YSTOD CYFLOG: G4 – (7-11)
YN ATEBOL I: Y Pennaeth/Uwch Dim Rheoli drwy’r Pennaeth Safle
PWRPAS Y SWYDD
•Yn gyfrifol am addysgu a dysgu’r disgyblion Meithrin
•Bod yn gyfrifol am ymddygiad, addysgu, dysgu, cyd-gynllunio a rhannu gwybodaeth gyda rhieni
•Gweithio o dan arweiniad Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes 1 ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
•Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
•Cyfrannu at gylch cynllunio’r staff dysgu er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
•Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd ac aros ar y dasg a chynnal trefn.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
•Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
•Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CAU (IEPs) a CYU(IBPs).
•Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
•Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
•Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
•Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
•Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
•Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
•Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
•Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.
•Cofrestru a chofnodi presenoldeb disgyblion mewn gwersi.
•Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r disgyblion ar gyfer eu dysgu.
- Sicrhau yr eir i mewn i’r dosbarthiadau yn drefnus.
•Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
•Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir Dosbarth yn daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
Cefnogaeth i’r Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes
•Gweithio gyda’r Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
•Gweithio gyda’r Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
•Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
•Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
•Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes a rhieni ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
•Fel y cytunwyd gyda’r Pennaeth Safle/Pennaeth Ffes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
•Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
•Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
•Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
•Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
•Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
•Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
GORUCHWYLIWR CYFLENWI/ GORUCHWYLWRAIG GYFLENWI
•Cefnogaeth i’r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
•Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.
Cefnogaeth i’r Ysgol
•Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
•Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
•Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
•Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
•Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
•Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
•Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
•Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu’r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
•Goruchwylio’r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
•Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.