skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Therapiwtig

£18,922 - £19,885 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
25-30044
Teitl swydd:
Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Therapiwtig
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
08/12/2025 10:00
Cyflog:
£18,922 - £19,885 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)

Manylion

Hysbyseb Swydd

Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Therapiwtig

Lleoliad: Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)

Natur y Contract:  Rhan-amser – 3 diwrnod / 22.5 awr/ wythnos – hyblyg / 3 blynedd

Dyddiad Cau: 08.12.2025

 

 

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (NWAS) yn edrych am Weithiwr Cefnogi Teulu Therapiwtig i ymuno a’r Tȋm ymroddedig.

Fe fydd y Gweithiwr wedi ei leoli yn un o’r siroedd canlynol, Gwynedd/Mon, Conwy/Dinbych neu Wrecsam/Fflint.

Fe fydd rôl y Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Therapiwtig yn cynnwys:

  • Ffurfio a chynnal perthynas cadarnhaol ac effeithiol gyda plant/bobl ifanc sydd wedi ei mabwysiadu a’i teuluoedd.
  • Gweithio mewn partneriaeth gydag aelodau o dȋm NWAS, yn ogystal a gweithwyr broffesiynol eraill. Cyfrannu i’r asesiadau, cynllunio ac adolygu cynllun gwasanaeth plant/bobl ifanc sydd wedi ei mabwydiadu a’i teuluoedd.
  • Defnyddio ymyrraeth sydd yn addas i anghenion a datblygiad y plentyn
  • Darparu pecynnau Therapiwtig unigryw o gefnogaeth un i un i blant a teuluoedd sydd wedi mabwysiadu.
  • Gweithio yn anibynnol, mewn trefn sydd yn cydymfurfio gydag asesiadau risg, a cynlluniau gofal, i weithio tuag at gôl therapiwtig pob plentyn unigol.
  • Hyrwyddo perthynas cryf, rhiantu saff a ffordd o fyw iach.
  • Datblygu eich sgiliau proffesiynol fel ran o ddatblygiad parhaus.

Mae’n adeg cyffroes iawn i ymuno ar Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac yr ydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr Cefnogi Teulu profiadol, sydd yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau a profiad yn y maes Mabwysiadu

Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu a:

Susanne McCarthy. Rheolwraig Gwasanaeth Cefnogi Mabwysiadu – 07920 766125. susanne.mccarthy@wrexham.gov.uk

Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, cliciwch ar y linc: Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Therapiwtig in - Wrexham County Borough Council - Welsh

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Chwilio am swydd