Gwybodaeth ar gyfer y swydd Athro/Athrawes Mathemateg a Thechnoleg Digidol
I gychwyn 01/09/26 – (Swydd Llawn Amser Parhaol)
MANYLION AM YR YSGOL
Ysgol uwchradd sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 541 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 71 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.
Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy’n bodoli yn yr ysgol a’r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.
Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org. Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a’r adroddiad diweddaraf gan Estyn.
Datganiad o werthoedd yr ysgol.
Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
•yn hapus ac yn hyderus;
•yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
•yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
•yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.
Nodau.
1.Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddod i adnabod ei hunan, i feithrin yr adnoddau cynhenid sydd ganddo i eithaf ei allu ac i oresgyn ei wendidau.
2.Creu awyrgylch a fydd yn meithrin ym mhob disgybl berthynas iach gydag eraill, a'i ddysgu i barchu a gwerthfawrogi cymeriadau, talentau a daliadau pobl eraill.
3.Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall ddod i adnabod a deall y gymdeithas a'r byd y mae'n byw ynddo ac ennyn ymwybyddiaeth o'i wreiddiau, ei gefndir a'i amgylchedd.
Amcanion
1.Datblygu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer pob disgybl a fydd yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, polisïau'r ysgol a pholisïau'r AALl.
2.Meithrin a monitro datblygiad pob disgybl drwy'r drefn fugeiliol sy'n bodoli yn yr ysgol i ofalu am les a ffyniant y disgyblion.
3.Paratoi'r disgyblion i feithrin y cymwysterau y byddant eu hangen yn y gymdeithas y deuant yn rhan ohoni ac er mwyn iddynt allu cyfrannu'n gyfrifol iddi.
4.Datblygu cysylltiadau gyda masnach a diwydiannau lleol a chreu perthynas glos gyda'r rhieni, addysg bellach ac uwch a'r gymdeithas yn gyffredinol
Y SWYDD
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2026
ATHRO / ATHRAWES Mathemateg a Thechnoleg Digidol
Swydd Llawn Amser Parhaol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i’r sawl a benodir addysgu Mathemateg a Thechnoleg Digidol yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4, gyda chyfle i gyfrannu at addysgu Mathemateg Safon Uwch i ymgeisydd priodol.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru)
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MAWRTH, RHAGFYR 2IL, 2025.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 8/12/25