Pwrpas y swydd
•Rheoli yr Uned Datblygu Gweithlu sy’n darparu hyfforddiant a chymhwysterau i staff gofal i sicrhau fod gwasanaethau y Cyngor yn cyrraedd y Safonau Cenedlaethol.
•Rheoli Academi Gofal gwynedd yn arwain ar materion recriwtio
•Sicrhau gweithrediad effeithiol Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gwynedd, fel bod y sector Gofal Cymdeithasol gyfan yng Ngwynedd yn cael gwybodaeth a chyfleon i ddatblygu.
•Cynrychioli Gwynedd mewn fforymau cenedlaethol a rhanbarthol.
•Sicrhau fod rheolwyr o fewn y sector a’r Cyngor yn ymwybodol o newidiadau a datblygiadau, a chynnig strategaethau fydd yn eu galluogi i ymdopi a’r newidiadau hynny.
•Gwarantu cyllid yr Uned a’r sector drwy gynllun blynyddol.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Goruchwylio 10 aelod o staff.
•Cyfrifol am y gyllideb Datblygu Gweithlu yn cynnwys nifer o grantiau
•Offer hyfforddi digidol ar gyfer myfyrwyr a staff , llyfrgell, a deunyddiau eraill.
•Adrodd ar gyllidebau mae Gwynedd yn ei gweinyddu ar ran rhaglenni traws-sirol
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau cyfeiriad strategol i holl elfennau Datblygu Gweithlu yn cynnwys ystyriaeth ar faterion cyfreithiol deddfrwriaethol a polisi .
•Delio efo rhaglen waith sydd yn newid yn gyson a’r angen i newid blaenoriaethau ar fyr rybudd yn barhaus
•Cyd weithio efo’r timau ar adnabod materion hyfforddi
•Paratoi Cynllun Datblygu Gweithlu blynyddol ar ran y Bartneriaeth Datblygu Gweithlu yng Ngwynedd yn ôl gofynion Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn gallu hawlio grant Datblygu Gweithlu yn flynyddol a cyd weithio efo tim rhanbarthol ar gyfer y cais .
•Rheoli ceisiadau grantiau gwahanol , monitro a gwerthuso
•Mynychu cyfarfodydd cynllunio a monitro sy’n deillio o’r uchod.
•Arwain o fewn y sector yng Ngwynedd, rhanbarthol a cenedlaethol ar faterion datblygu gweithlu yn cynnig arbenigedd mewn gwahanol feysydd .
•Cynrychioli Gwynedd mewn cyfarfodydd lleol, rhanbarthol a cenedlaethol ar faterion amrywiol ar wahanol lefelau yn cynnwys materion ymarfer i faterion strategol polisi cenedlaethol.
•Arwain ar faterion yn ymwneud a hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol, gan gynnwys cyfleoedd ddysgu ymarfer a gweithio efo partneriaeth gytundebol efo Prifysgol Bangor a’r Brifysgol Agored ar gyrsiau gwaith cymdeithasol a chyrsiau ôl - gymhwyso.
•Sefydlu , datblygu a cynnal partneriaethau cytundebol efo sefydliadau addysgu allanol fel prifysgolion ar gyfer darpariaeth addysg penodol fel cyrsiau (AMHP , Dysgu Ymarfer ayb ) er mwyn sicrhau darpariaeth addas i’r gweithlu.
•Rheoli materion recriwtio yn y maes gofal yn cynnwys rheoli gwaith yr Academi Gofal yn cynnwys datblygu a rheoli llwybrau gyrfa ar y cyd efo iechyd .
•Rheoli gweithwyr yn gweithio ar feysydd datblygu gwahanol e.e gwaith cymdeithasol, gwaith gofal uniongyrchol , cymwysterau gofal a chymwysterau rheoli, cyrsiau proffesiynol gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol, gwaith digidol yn cynnwys e ddysgu, gwaith ôl-gymhwysol gweithwyr proffesiynol , recriwtio , datblygiad rheolwyr a cynllunio’r gweithlu. Sicrhau fod pawb yn y tim yn gweithredu o fewn deddfwriaethau a polisïau perthnasol y cyngor ac yn cenedlaethol ac yn herio perfformiad yn gyson.
•Arwain neu gefnogi cyfleoedd ar gyfer cydweithio â'r gweithlu a / neu integreiddio i wella swyddogaeth a darpariaeth gwasanaeth ar draws iechyd ac asiantaethau eraill .
•Gweithio mewn ffyrdd arloesol a creadigol gyda phartneriaid rhanbarthol cenedlaethol a gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Gwynedd ac asiantaethau eraill fel iechyd ac addysg er mwyn edrych ar ddatrysiadau i rwystrau neu ffyrdd newydd o weithio gan ddatblygu ac arwain prosiectau gwahanol yn cynnwys newid diwylliant.
•Arwain a rheoli prosiectau gwahanol ar lefel lleol, rhanbarthol a cenedlaethol. E.e. peilot meddyginiaeth gymunedol, sefydlu cynllun Cadarnhau Gwaith Cymdeithasol Cenedlaethol, ,prosiectau Strategaeth Gweithlu Rhanbarthol ayb
•Arwain efo cyd weithwyr y cyngor a’r adrannau ar yr agenda cynllunio’r gweithlu
•Cefnogi efo rheoli newid efo prosiectau a cynlluniau penodol o fewn y gwasanaeth.
•Rhoi arweiniad i weithwyr a rheolwyr efo anghenion datblygiadau timau ac unigolion .
•Cydweithio efo aelod etholedig ar faterion perthnasol i’r maes gwaith.
•Gweithio efo gwasanaethau ar ddatblygiadau trawsnewid .
•Adnabod goblygiadau i'r gweithlu sy'n deillio o newidiadau cenedlaethol mewn deddfwriaeth, polisi ac ymarferar draws gwasanaethau a sy'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau neu’r cyngor ehangach.
•Cadeirio ac arwain ar grwpiau lleol, rhanbarthol a cenedlaethol mewn amryw o feysydd gwahanol . e.e cymwysterau , recriwtio, cyfarfodydd ar y cy defo iechyd ayb
•Cefnogi Gofal Cymdeithasol Cymru ar feysydd penodol trwy grwpiau cenedlaethol
•Cefnogi ac arwain ar ddatblygu a gwirio polisiau perthnasol e.e. Polisi Goruchwyliaeth
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
Amgylchiadau arbennig
•Peth gofyn am deithio i Dde a Chanolbarth Cymru i gyfarfodydd.