Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Mae'r tîm yn gweithio mewn amgylchiadau er mwyn:
•Darparu ymyrraeth a chymorth wedi ei deilwra i, ac yn gymesur ag angen y plentyn neu berson ifanc, gyda ffocws ar ddarparu cymorth amserol ac atal problemau rhag dod yn fwy difrifol.Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar ymagwedd amlddisgyblaethol ar gyfer sicrhau angen y teulu.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifiadur, ffon symudol, cerbyd Cyngor
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi Plant a’i teuluoedd i gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
•Cydweithio gyda plant a’u gofalwyr i adnabod ‘Beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
•Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso ac yn ysgogi'r plant a theuluoedd, drwy ddefnyddio agwedd gadarnhaol gyda'r teulu cyfan. I adeiladu ar sgiliau a chryfderau'r rhiant, y plant â'r teulu estynedig i ddatblygu gwytnwch, hunan-ddibyniaeth a chymryd camau'n annibynnol.
•Cydweithio gydag plant, pobl ifanc a’u gofalwyr i gynllunio a darparu amrediad o ymyraethau neu gwasanaethau sydd eu hangen i gwrdd ag eu amcanion personol a diogelu.
•Llunio pecyn ymyrraeth yn seiliedig ar ystod o ymyraethau yn seiliedig ar ymchwil. Bydd angen defnyddio disgresiwn a chreadigrwydd i addasu pecynnau yn unol ag anghenion penodol yr unigolion. Ni fydd o reidrwydd pecyn ymyrraeth sy’n addas i bwrpas heb blethu gyda amryw o ymyraethau eraill oherwydd cymhlethdod achosion.
•Arwain ar gynllun ymyrraeth sydd wedi ei deilwra ar gyfer anghenion plant a’i gofalwyr.
•Asesu a chynnal adolygiadau o gynnydd, cryfderau, a risg gydag teuluoedd yn rheolaidd, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill yn rhan o’r adolygiadau.
•Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
•Cytuno gyda rhieni a theuluoedd ac asiantaethau eraill ar nodau a phwrpas y gwaith o fewn polisïau a gweithdrefnau diogelu
•Cofnodi gwybodaeth a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion y gyfundrefn. I gymryd rhan mewn achosion llys gan gynnwys rhoi tystiolaeth a pharatoi adroddiadau.
•Hybu grymuso llais plant a’i cefnogi i gael cefnogaeth adfocatiaeth.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda phroffesiynau eraill ac asiantaethau i hybu amcanion y teulu gan rhoi’r plant yn ganolog.
•Dod o hyd i ddatrysiadau i oresgyn rhwystrau. Adrodd ar rwystrau na ellir eu goresgyn yn lleol i’r arweinydd.
•Darparu gwybodaeth a chyngor i blant a’u gofalwyr am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth a hefyd eu cyfeirio (gyda chaniatâd) at y gwasanaethau cefnogol ehangach sydd ar gael yn y gymuned gan grwpiau a mudiadau lleol a chenedlaethol.
•Cyflwyno delwedd broffesiynol a gweithio mewn modd hyblyg.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
•Datblygu a chynnal gwybodaeth a sgiliau arbenigol sy’n angenrheidiol i ymarfer, sydd yn cynnwys Hyfforddiant/ymchwil arbenigol.
•Datblygu ymarfer proffesiynol trwy oruchwyliaeth ac adlewyrchu. Cymryd rhan weithredol mewn sesiynau goruchwylio rheolaidd ac yn y broses werthuso flynyddol.
•Cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.
•Gweithredu bob amser yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod a'r Adran.
•Cadw at ffiniau cyfrinachedd a deddfwriaeth Diogelu Data.
•Bod yn gyfrifol am sefydlu perthnasau gwaith da yn fewnol ac yn allanol.
•Cydymffurfio â Pholisïau a Gweithdrefnau'r Awdurdod a hysbysu Uwch Swyddogion ynghylch unrhyw feysydd nad ydynt wedi derbyn sylw priodol.
•Cymryd rhan weithredol wrth gefnogi egwyddorion ac ymarferion yr Awdurdod o ran cyfle cyfartal fel y nodir yn y Polisi Cyfle Cyfartal.
•Bydd gofyn i weithwyr ddarparu gwybodaeth benodol amdanynt eu hunain fel y gall yr Awdurdod gyflawni ei ddyletswyddau, ei hawliau a'i oblygiadau fel cyflogwr yn briodol. Bydd yr Awdurdod yn prosesu ac yn rheoli data o'r fath yn bennaf er dibenion personél, gweinyddol a chyflogres.
•Fel amod o'ch cyflogaeth ac er mwyn cynnal gweithrediadau adrannol effeithiol, efallai y bydd gofyn i chi wneud unrhyw dasg resymol arall, gyfystyr â'ch graddfa, fel y pennir gan eich Rheolwr Llinell neu Bennaeth Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol pan fo angen.