Swyddi ar lein
Uwch Swyddog Talent a Phrentisiaethau
£34,434 - £36,363 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 25-30037
- Teitl swydd:
- Uwch Swyddog Talent a Phrentisiaethau
- Adran:
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Gwasanaeth:
- Dysgu a Datblygu'r Sefydliad
- Dyddiad cau:
- 04/12/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £34,434 - £36,363 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
YDYCH CHI...
- Gyda diddordeb mewn datblygu talent, prentisiaethau neu bobl?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Eisiau gweithio mewn tîm hwyliog sydd yn hoffi trio pethau newydd?
- Yn gallu delio efo gwahanol bobl ac yn benodol gyda phobl ifanc?
- Gyda sgiliau cyfathrebu da?
- Yn gallu bod yn greadigol?
- Yn hyblyg ac yn gallu addasu i sefyllfaoedd gwahanol ?
Os ydych chi yn ateb “YNDW” i rhai o’r pwyntiau uchod efallai mai hon yw y swydd i chi
Dyma gyfle i chi weithio mewn swydd sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'n gyfle i chi weithio ar gynlluniau sydd yn agor drysau i unigolion talentog ac eu galluogi i wneud yr hyn y dymunem ei wneud efo'u bywydau a datblygu gyrfa gwerth chweil
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Alun Lloyd Williams ar 01286 679588
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 04.12.2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Diddordeb yn y maes talent a phrentisiaethau
Person brwdfrydig, egnïol a phositif
Sgiliau cyfathrebu da
Sgiliau rhyngbersonol da
Aelod tîm da ond gyda'r gallu i weithio'n annibynnol
Dymunol
Gallu bod yn greadigol
Hyblyg ac yn medru addasu i sefyllfaoedd gwahanol
Gallu meddwl a gweithio yn strategol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Addysg i lefel 4 (NVQ, HNC, Prentisiaeth Uwch neu gymhwyster cyffelyb)
Dymunol
-
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ddelio gyda pobl neu grwpiau gwahanol (oed, cefndir, lefel)
Dymunol
Profiad o’r maes talent, prentisiaethau neu’r byd addysg
Profiad o gefnogi neu ddatblygu pobl
Profiad o gyflwyno, hyfforddi neu ddysgu
Profiad o weithio ar brosiectau
Profiad o gymryd rhan mewn ymgyrch recriwtio
Profiad o greu ac arwain digwyddiadau
Profiad o gadeirio neu hwyluso cyfarfodydd neu fforymau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau technoleg gwybodaeth
Person trefnus sydd yn rhoi sylw i gysondeb a chywirdeb
Dymunol
Sgiliau defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Sgiliau rheoli rhan-ddeiliaid o pob lefel
Sgiliau datrys problemau
Sgiliau ymchwilio
Sgiliau marchnata
Sgiliau cefnogi neu mentora unigolion
Deall egwyddorion rhedeg prosiect llwyddiannus
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Aelod allweddol o’r tîm Talent a Prentisiaethau o fewn y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r sefydliad sydd yn sicrhau gwasanaeth dysgu a datblygu effeithiol i staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd
•Cyflawni rôl arweiniol, arbenigol ac ymgynghorol yn y maes Talent a Phrentisiaethau
•Cyflawni rôl weithredol wrth gynllunio’r gweithlu sef un o flaenoriaethau’r Cyngor
•Datblygu a gweithredu cynlluniau talent y Cyngor:
oCynllun Prentisiaethau
oCynllun Graddedigion
oCynllun Dysgu’n seiliedig ar waith
oCynllun Datblygu Talent mewnol
oCynllun Profiad gwaith
oCynllun Cysylltu
•Arwain ar gynllunio a datblygu trefniadau denu talent, gan gynnwys recriwtio a phenodi unigolion ‘talentog’ i’r cynlluniau uchod
•Gweithredu fel Rheolwr Datblygol i gefnogi Prentisiaid ac Hyfforddeion Proffesiynol
•Rheoli prosiectau yn effeithiol gan ddefnyddio egwyddorion safonol a dogfennaeth briodol
•Cyfrifoldeb am sicrhau ansawdd y cynlluniau
•Ymgynghori a rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol a phroffesiynol i swyddogion a rheolwyr ar faterion megis:
oCynlluniau Talent a phrentisiaethau
oCymwysterau
oRecriwtio a chefnogi
•Cynrychioli’r Cyngor a chyd-weithio hefo sefydliadau allanol (Llywodraeth Cymru, Grwpiau Rhanbarthol, Ysgolion, Colegau, Prifysgolion ayyb) ar faterion Talent a Phrentisiaethau
•Cyfrifoldeb am gynnwys pecynnau hyfforddi o ran eu creu, datblygu a chyflwyno hyfforddiant
•
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu at drawsnewid a datblygu meddylfryd bositif am lwybrau gyrfa galwedigaethol
•Gwneud cyfraniad allwedoll at ddatblygu strategaethau a chynlluniau Talent y Cyngor, a rhannu’r weledigaeth ymysg rhan-ddeiliaid
•Gweithio efo’r Arweinydd Talent & Phrentisiaethau i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau newydd megis:
oCynllun Prentisiaethau mewn Partneriaeth
oSefydlu a gweithredu Grwp Prentisiaethau Gwynedd a’r fforwm Sgiliau Pobl Ifanc
oDatblygu lleoliadau ar gyfer Plant mewn Gofal
oDatblygu Rhwydweithiau Talent a Phrentisiaethau rhanbarthol a chenedlaethol
•Llunio a darparu rhaglenni datblygol cynhwysfawr sydd yn cynnwys cymwysterau proffesiynol, lleoliadau gwaith, a phrofiadau dysgu amrywiol ar gyfer Prentisiaid, hyfforddeion proffesiynol ac unigolion ar brofiad gwaith
•Cyswllt rheolaidd gyda sefydliadau addysgol allanol (Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion)
•Cynnal ymchwil yn y maes Talent er mwyn
oCynnal arbenigedd am fframweithiau a chymwysterau
oDeall y cyd-destun ehangach
oDarganfod cyfleoedd newydd a’u datblygu
oAsesu ‘gofyn’
•Cadeirio cyfarfodydd a fforymau
•Cefnogi y gwaith o hybu’r Gymraeg yn y maes talent a phrentisiaethau yn y Cyngor ac yn genedlaethol
•Cydlynnu perthynas tair ffordd effeithiol rhwng y darparwr, yr unigolyn a’r rheolwr
•Darparu mewnbwn a chyngor arbenigol mewn nifer o feysydd gwahanol e.e.
offramweithiau addysgol ac amrediad o raglenni dysgu galwedigaethol ac academaidd
oFframweithiau Prentisiaethau Cenedlaethol
offynonellau ariannu
oddeddfwriaeth a materion cyflogaeth
•Cyflawni rôl arbenigol ac ymgynghorol ar gyfer datblygu cynlluniau sy’n cyfarch anghenion cynllunio’r gweithlu gan gynnwys prentisiaethau, Talent allanol / mewnol a’r holl gynlluniau talent yr adran
•Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth i reolwyr i’w cefnogi ar gyfer rhoi’r profiad gorau posib
•Adnewyddu ac adolygu rhaglenni presennol yn adeiladol a chreadigol i'w moderneiddio fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion y cynlluniau talent
•Gallu gweithio a dadansoddi fframweithiau cymhleth sydd yn newid yn parhaus
•Cyswllt ar faterion talent a phrentisiaethau o fewn y Cyngor
•Rhoi cyngor i swyddogion a rheolwyr ar faterion
oTalent a phrentisiaethau
oMaterion sy’n ymwneud a chymwysterau
oCanolfannau Recriwtio
oCymwysterau cenedlaethol
oFframwaith Brentisiaethau
oSgiliau hanfodol
•Cydweithio’n agos a meithrin perthynas effeithiol ac ymddiriedaeth Swyddogion y Cyngor
•Cyfrifoldeb fel rheolwr datlbygol i hyd at 20 hyfforddai proffesiynol a dros 30 o brentisiaid
•Cynnal cyfarfodydd 1:1 rheolaidd gyda hyfforddeion a phrentisiaid
•Cymryd rôl fugeiliol gyda sylw arbennig at iechyd a llesiant
•Monitro cynnydd o ran lleoliad gwaith
•Ymateb i sefyllfaoedd anodd gan gymryd rôl negodi a chymod ar adegau (rhwng Hyfforddeion a Phrentisiaid a’u rheolwr lleoliad)
•Penderfynu ar gamau priodol a’u gweithredu
•Monitro cynnydd o ran cymhwyster proffesiynol
oGweithredu ar bryderon gan Hyfforddeion a Phrentisiaid a sefydliadau addysgol / hyfforddi
oPenderfynu ar gamau priodol a’u gweithredu (gall fod effaith sylweddol ar ddyfodol unigolion)
oAnnog a chefnogi datblygiad personol
oDelio hefo materion tan-berfformio a disgyblu
•Arwain ar drefniadau recriwtio a phenodi gan gynnwys cynnal canolfannau recriwtio
•Arwain ar strategaethau arloesol i ddenu a datblygu Talent newydd (mewnol ac allanol)
•Darparu gwasanaeth Ymgynghorol, drwy roi arweiniad a chymorth arbenigol i reolwyr ar gyfer cynllunio a theilwrio canolfannau recriwtio (datblygu cynnwys a gweithgareddau)
•Cynllunio canolfannau recriwtio rhithiol neu wyneb-wyneb
•Goruchwylio y tîm sy’n rhan o’r trefniadau recriwtio drwy sicrhau:
oGwneud newidiadau rhesymol gyfer ymgeiswyr gydag anghenion arbennig
oAddasu trefniadau ar fyr rybudd pan mae angen
oGweithio hefo Rheolwyr i gynllunio a pharatoi tasgau ar gyfer sicrhau penderfyniadau addas
oArwain y ganolfan gan sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i amser
oCyfrifoldeb am rediad y ganolfan, a sicrhau tegwch i bob ymgeisydd
oDelio hefo problemau annisgwyl a gwneud penderfyniadau
oArwain trafodaeth panel asesu er mwyn cyrraedd penderfyniad recriwtio
oYmateb i ohebiaeth ble mae unigolion (a rhieni) yn anfodlon hefo canlyniad y broses
•Arwain prosiectau a thimau prosiect yn y maes e.e. arwain ar ymdrech i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes prentisiaethau – adroddiad iaith Gymraeg rheoli prosiect. Cynllunio a datblygu strategaeth arloesol i hybu’r Gymraeg ym maes prentisiaethau
•Cynnal neu adolygu ansawdd darpariaethau ar gyfer prentisiaid ac hyfforddeion yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg ac ansawdd addysgol y cwrs
•Arwain ar y Cynllun Cyfaill i brentisiaid ac hyfforddeion newydd gael manteisio ar brofiad ac aeddfedrwydd swyddogion aeddfed.
•Paratoi a cyflwyno ceisiadau am wobrau cenedlaethol
•Codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd datblygol academiadd a galwedigaethol a Cyflwyno hyfforddiant a sesiynau datblygol i amrediad o grwpiau (ysgol, coleg ayyb)
•Adnabod a rheoli rhan-ddeiliaid o fewn y Cyngor, y Gymuned, y sector Addysg, Cyflogwyr ac Asiantaethau ehangach
oTargedu grwpiau penodol pan fo angen e.e. plant ysgol, rhieni, cyflogwyr
oCynnal grwpiau ffocws a’u hwyluso
•Cyfrannu at greu strategaeth gyfathrebu ar gyfer rhan-ddeiliaid
oNewid meddylfryd
oDylanwadu
oRheoli disgwyliadau.
•Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cynghorau eraill, Sefydliadau addysg (Ysgolion Uwchradd, Colegau, a Phrifysgolion), a Busnesau.
•Cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd Cenedlaethol a Rhanbarthol
•Arwain ar ehangu’r darpariaethau ar gyfer prentisiaid drwy ddatblygu cyfleoedd datblygol (e.e. gweithio yn y gymuned neu mewn partneriaeth)
•Arwain ar lunio a darparu rhaglen gefnogaeth briodol ac amrywiol ar gyfer Prentisiaid, Hyfforddeion ac unigolion ar brofiad Gwaith
•Rheoli amserlenni, cydlynu gweithgareddau, delio gyda phroblemau a chynnig datrysiadau
•Arwain ar drefniadau gwerthuso canolfannau recriwtio ac gyfer prentisiaid ac hyfforddeion
•Cefnogaeth bugeiliol a Cyngor gyrfaol i ymgeiswyr aflwyddiannus yn ogystal i’r rhai a benodwyd
•Arwain ar gynnal digwyddiadau proffil uchel gan gynnwys Ffair Swyddi a digwyddiadau mewn ysgolion a chydlynu’r digwyddiad.
•Monitro a sicrhau ansawdd yr elfennau cefnogol
•Cynnal adolygiadau rheolaidd gyda Phrentisiaid ac unigolion ar brofiad gwaith
•Cymell a mentora hyd at 20 o Hyfforddeion Proffesiynol a 30 o Brentisiaid
•Monitro cynnydd unigolion
oCefnogi ac annog
oDelio hefo tan berfformiad os yn berthnasol
•Gweithio gyda rheolwyr i ddatblygu sgiliau cefnogi a mentora Prentisiaid a Hyfforddeion proffesiynol o fewn eu timau
•Arwain greu, paratoi deunyddiau a chyflwyno hyfforddiant, weithdai a chefnogaeth i brentisiaid, hyfforddeion ac unrhyw un arall sydd angen cymorth ychwanegol trwy ddysgu ffurfiol, cefnogaeth unigol ac adnoddau dysgu addas
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant a gweithdai
•Darparu hyfforddiant i grwpiau amrywiol gan ddefnyddio amrediad o arddulliau addysgu gan gynnwys
oi Hyfforddeion a Phrentisiaid
oi reolwyr a mentoriaid
•Creu a Chyflwyno cyflwyniadau ar gyfer cynadleddau a gweithdai I chynrychioli’r Cyngor
•Cyswllt cyntaf ar gyfer darparwyr cymwysterau ac hyfforddiant
•Ymateb i unrhyw broblemau neu bryderon am y ddarpariaeth ddysgu
•Sicrhau ansawdd y ddarpariaeth drwy gynnal cyswllt rheolaidd gyda’r darparwyr
•Hybu darpariaeth Gymraeg
•Gweithio gyda amryw o fudd-ddeiliad ar wahanol lefelau gan gynnwys prentisiaid, hyfforddeion, unigolion ar brofiad gwaith, ymgeiswyr, Myfyrwyr, disgyblion, rhieni, sefydliadau addysg, rheolwyr, staff, pobl di-waith, athrawon, sefydliadau cael bobol i mewn i waith, busnesau lleol
•Cynnal a meithrin perthnasau newydd gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr allanol allweddol
•Cynrychioli’r Cyngor ar gyrff cenedlaethol a rhanbarthol sydd yn datblygu strategaethau a gweithredodd ar gyfer dyfodol y maes
•Darparu gwasanaeth ymgynghorol arbenigol i reolwyr a phenaethiaid o fewn y Gwasanaethau i adnabod a datblygu cyfleoedd newydd
•Cyfrannu at greu a datblygu deunyddiau marchnata e.e. fideo, podlediadau
•Paratoi a gwneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd allanol gan gynnwys rhieni, disgyblion ac athrawon i geisio godi ymwybyddiaeth a dylanwadau r benderfyniadau
oCydweithio i lunio strategaeth a rhaglen gyfathrebu / ymgysylltu
oGwneud cyswllt gyda budd-ddeiliaid megis ysgolion, colegau, cwmni gyrfa, rhieni, cyflogwyr ayyb
oCynrychioli’r Cyngor
oDylanwadu
oTrefnu digwyddiadau
oParatoi deunyddiau cyflwyno
oGwneud cyflwyniadau i grwpiau mawr
•Rheoli a sicrhau cywirdeb taliadau i sefydliadau addysg gan gynnwys prifysgolion ac ad-daliadau adrannol
oCyswllt rhwng y Cyngor a sefydliadau allanol
oLlunio a gwirio cytundebau ariannol
oMonitro taliadau a gwariant i gadw o fewn cyllideb
•Cefnogi’r arweinydd wrth chasglu gwybodaeth ac adrodd ar gynnydd i grwpiau megis y Bwrdd Prentisiaethau, Penaethiaid, Tîm Arweinyddiaeth, Cabinet a phwyllgorau amrywiol
•Cyfrannu at weithredu strategaethau Dysgu a Datblygu ar draws y Cyngor
•Datblygu a chyflwyno sesiynau dysgu (hyfforddiant a gweithdai) mewn meysydd amrywiol
•Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno amrediad o ddulliau dysgu newydd a chyfredol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-