ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA
(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 5ed o Ionawr, 2026.
SWYDDOG GWEINYDDOL (DROS DRO)
Hyd at 03/07/2026 yn y lle cyntaf.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: 16 awr yr wythnos.
Bydd yn ofynnol i chi weithio 39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £9,829 - £10,618 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Rheolwr Busnes, Mrs Jill Oliver (Rhif ffôn 01248 600291).
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais ar gael gan Mrs Jill Oliver, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd (Rhif Ffôn:01248 600291)
e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir ddychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU; HANNER DYDD, DYDD GWENER, 28 O DACHWEDD, 2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.