PWRPAS SWYDD
Gweithio dan arweiniad staff addysgu/uwch staff ac o fewn system oruchwylio a gytunwyd, i gyflwyno rhaglenni gwaith a gytunwyd gydag unigolion/grwpiau, yn y dosbarth neu’r tu allan. Goruchwylio dosbarthiadau cyfan pan fydd athrawon yn absennol yn y tymor byr. Gall hyn gynnwys rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol a bydd yn golygu cynorthwyo’r athro yn y cylch cynllunio cyfan, a rheoli/baratoi adnoddau. Bydd y prif ffocws ar gadw trefn a chadw disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Dros Dro ymateb i gwestiynau a chynorthwyo’r disgyblion yn gyffredinol i ymgymryd â gweithgareddau a bennwyd.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Cefnogi Disgyblion
• Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/ddysgu) i gefnogi disgyblion. • Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Rhaglenni Addysg Unigol.
• Sefydlu perthynas gwaith cynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel delfryd ymddwyn a phennu disgwyliadau uchel.
• Hyrwyddo cynhwysiant a derbyn yr holl ddisgyblion o fewn y dosbarth.
• Cefnogi disgyblion yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
• Annog disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol gydag eraill a chynnwys yr holl ddisgyblion yn y gweithgareddau.
• Hyrwyddo annibyniaeth a defnyddio strategaethau i gydnabod a gwobrwyo llwyddiannau hunanddibyniaeth.
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyrhaeddiad.
Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
• Gweithio gyda’r athro i sefydlu amgylchfyd dysgu priodol.
• Gweithio gyda’r athro i gynllunio gwersi, arfarnu ac addasu cynlluniau gwersi/waith fel y bo’n briodol.
• Monitro ac arfarnu ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu arsylwi a chofnodi mewn perthynas ag amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
• Rhoi adborth gwrthrychol a chywir ac adroddiadau fel y bo angen i’r athro ar gyrhaeddiad, cynnydd y disgybl a materion eraill, gan sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael.
• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd gyda’r athro, gan gyfrannu tuag at adolygiadau systemau/cofnodion fel y gofynnir am hynny.
• Marcio gwaith disgyblion a chofnodi’n gywir gyrhaeddiad/cynnydd.
• Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol, agweddau ac ymddygiad da disgyblion, gan ddelio gydag anghydfod yn gyflym ac yn unol â pholisi’r ysgol ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.
• Cysylltu’n sensitif ac effeithiol gyda rhieni/ofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro o fewn eich rôl/cyfrifoldeb a chymryd rhan mewn sesiynau adborth/cyfarfodydd gyda rhieni yn unol â chyfarwyddyd.
• Rhoi ac asesu profion arferol ac arolygu arholiadau/profion.
• Rhoi cefnogaeth glerigol/gweinyddol gyffredinol e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu dalennau gwaith ar gyfer gweithgareddau ac ati.
Cefnogi’r Cwricwlwm
• Gweithredu gweithgareddau/rhaglenni dysgu a gytunwyd, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, CA3, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o’r cyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
• Cefnogi defnyddio TGCh yn effeithiol mewn gweithgareddau dysgu a datblygu galluoedd ac annibyniaeth disgyblion o ran ei ddefnyddio.
• Helpu disgyblion i gyrchu gweithgareddau dysgu trwy gefnogaeth arbenigol.
• Canfod yr angen am, paratoi a chynnal offer ac adnoddau arbenigol a chyffredinol.
Cefnogi’r Ysgol
• Ymgymryd cynllunio a threfnu gofynion clawr ystafell ddosbarth yn ddyddiol.
• Cynllunio a threfnu’r dosbarth yn ôl anghenion cyflenwi yn ddyddiol.
• Cydymffurfio gyda pholisïau a threfniadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, adrodd am unrhyw bryderon i’r person priodol.
• Bod yn ymwybodol o a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu.
• Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â’r athro, i gefnogi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel y bo gofyn.
• Cydnabod eich cryfderau a’ch meysydd o arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
• Rhoi arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo gyda hyfforddi a datblygu staff fel y bo’n briodol.
• Ymgymryd â gwaith goruchwylio a gynlluniwyd mewn perthynas â gweithgareddau dysgu disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau’r ysgol fel y bo gofyn.
GORUCHWYLIO/RHEOLI POBL
• Yn gyfrifol am oruchwylio’r plant.
GWYBODAETH, SGILIAU, HYFFORDDIANT A PHROFIAD
• Profiad o weithio gyda phlant o’r oedran perthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd rhagorol.
• NVQ3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.
• Hyfforddiant mewn strategaethau addysgu perthnasol e.e. llythrennedd a/neu faes cwricwlwm neu ddysgu penodol e.e. dwyieithrwydd, iaith arwyddion, dyslecsia, TGCh, Mathemateg, Saesneg CACHE ac ati.
• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
• Medru defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.
• Defnyddio offer technegol arall - fidio, llungopïwr.
• Gwybodaeth ymarferol o’r cwricwlwm cenedlaethol/cyfnod Sylfaen a rhaglenni/strategaethau addysgu perthnasol eraill.
• Deall egwyddorion datblygiad plant a’r prosesau dysgu.
• Medru hunan-arfarnu anghenion dysgu a chwilio am gyfleoedd hyfforddi.
• Medru ymwneud yn dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio’n adeiladol fel aelod o dim, deal rolau a chyfrifoldebau’r dosbarth a’ch sefyllfa chi mewn perthynas â’r rhain.
ARCHWILIADAU CYFLOGAETH/GOFYNION PENODOL
• Gwiriad Gwasanaeth Datgelu ac Atal, Archwiliad Iechyd, Geirda Boddhaol.
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
• Mae’r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o’r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
• Bydd hyfforddiant ar gael i’r Cymhorthydd drwy’r dulliau canlynol yn bennaf:
- mynychu cyrsiau sirol.
- mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
- cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
- mentora gan y Cyd-gysylltydd ADY.
DYLESTSWYDDAU PENODOL ERAILL
• Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
SYLWER
• Tra bod pob ymdrech wedi’i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi’i nodi.
• Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
• Disgwylir i deilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi’i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
• Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i’r swydd a’r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy’n datblygu cyflwr sy’n anablu.
• Mae’r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy’n gymesur â’r cyflog/lwfans a theitl y swydd.