TEITL Y SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (Lefel 2)
YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol – GS3 (pwyntiau 5-6) 32.5 awr yr wythnos yn ystod y 39 wythnos tymhorau a diwrnodau HMS.
AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff G.P.T. ac Ch. a gweithwyr llaw.
Dyddiau Gwaith: Llun i Gwener.
Oriau Gwaith: 32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig.
8:30 – 3:30 Dyddiau Llun - Gwener, gyda 30 munud di-dâl i ginio pob dydd.
Rhybudd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.
YN ATEBOL I: Cyd-gysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol – o ran y cefnogi yn gyffredinol.
PWRPAS SWYDD:
Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
Cynorthwyo’r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- Cefnogaeth i Ddisgyblion
- Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
- Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
- Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
- Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
- Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
- Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
- Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
- Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
- Darparu adborth effeithlon i’r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.
Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
- Darparu adborth manwl a rheolaidd i’r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
- Cysylltu â’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
- Cysylltu â’r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
- Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
- Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i’r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
- Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
- Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
- Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
- Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytûn.
- Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
- Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
- Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio.
- Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
- Cefnogi’r defnydd o TGaCh yn nysgu’r disgyblion a’u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
- Paratoi, cynnal a defnyddio’r offer a’r adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r rhaglenni addysgu a’r gweithgareddau dysgu cytûn.
- Cysylltu’n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro.
- Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
Cefnogaeth i’r Ysgol
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
- Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
- Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
- Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
- Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp
o dan oruchwyliaeth yr athro.
Datblygiad Cyfatebol Eraill
- Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill cyffelyb ar gais y Pennaeth a/neu Cyd-Gysylltydd ADY.
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
Mae’r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o’r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
Bydd hyfforddiant ar gael i’r Cymhorthydd drwy’r dulliau canlynol yn bennaf:
- mynychu cyrsiau sirol.
- mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
- cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
- mentora gan y Cyd-Gysylltydd ADY.
DYLETSWYDDAU PENODOL ERAILL
Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
SYLWER:
Tra bod pob ymdrech wedi’i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi’i nodi.
Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi’i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i’r swydd a’r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy’n datblygu cyflwr sy’n anablu.
Mae’r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy’n gymesur â’r cyflog/lwfans a theitl y swydd.