Nodweddion Personol
Hanfodol
- Bod yn gyfathrebwr/wraig effeithiol.
- Gallu i weithio fel rhan o dîm neu’n unigol.
- Hyblygrwydd, ymroddiad a hunan ddisgyblaeth.
- Meddu â’r gallu i weithio dan bwysau.
- Gallu blaenoriaethu gwaith.
Dymunol
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol
Hanfodol
- Cymhwyster TG / Sustemau neu’r parodrwydd i gyflawni cymhwysterau.
- Sgiliau TG ardderchog
- Sgiliau gweinyddol effeithiol
- Hyfforddiant mewn diogelu plant, GDPR, a pholisïau diogelu data sy’n berthnasol i ysgolion neu’r parodrwydd i gwblhau’r hyfforddiant.
Dymunol
- Profiad o weithio ym myd TGCh addysg.
- Cymhwyster yn y maes TGCh.
- Gwybodaeth am Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymhwysedd Digidol i gefnogi staff a disgyblion.
- Cymorth Cyntaf.
Profiad Perthnasol
Hanfodol
•Sgiliau gweinyddu rhwydweithiau a systemau, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd, a datrys problemau ar draws seilwaith TG Ysgol neu’r parodrwydd i ddatblygu’r sgiliau yma.
Dymunol
•Ymwybyddiaeth o gydymffurfiaeth gan gynnwys GDPR, diogelwch rhyngrwyd, a pholisïau diogelu sy’n berthnasol i TG mewn addysg.
•Profiad o reoli adnoddau a gweithrediadau megis trwyddedu meddalwedd, rhestrau TG, a chydweithio â chyflenwyr.
•Sgiliau cymorth a chyfathrebu i gynorthwyo staff a disgyblion yn effeithiol, gan ddarparu arweiniad TG mewn modd hyderus ac effeithlon.
•Medrusrwydd technegol gyda systemau ysgol, dyfeisiau ac apiau gan gynnwys systemau MIS, offer dosbarth a sgriniau rhyngweithiol.
•Profiad o weithio ym myd TGCh addysg.
•Dealltwriaeth o ofynion Deddf Iechyd a Diogelwch.
•Parodrwydd ac ymrwymiad i hyfforddi ar gyfer y rôl hon yn ôl yr angen
•Profiad o amrywiaeth o feddalweddau mae ysgol yn eu defnyddio er mwyn cefnogi eu cwricwlwm.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol
Hanfodol
•Profiad technegol ymarferol gyda chaledwedd, meddalwedd, gweinyddion, cyfrifon defnyddwyr, a thechnolegau dosbarth fel sgriniau rhyngweithiol.
Dymunol
•Dealltwriaeth o GDPR, diogelwch rhyngrwyd, a pholisïau diogelu plant sy’n hanfodol mewn amgylchedd ysgol.
•Profiad o weithio mewn ysgol gan gynnwys cefnogi staff a disgyblion, a gwybodaeth am ofynion addysgol.
•Sgiliau cyfathrebu a hyfforddi i gynnig cymorth TG sylfaenol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol.
•Profiad o reoli gwefannau ysgol, llwyfannau mewnol, a chydweithio â chyflenwyr allanol.
•Profiad o weithio mewn gweithdai dylunio a thechnoleg.
•Gwybodaeth gadarn am reoli risg ac iechyd a diogelwch.
Gallu dehongli ac ymateb i broblemau.
Parodrwydd ac ymrwymiad i hyfforddi ar gyfer y rôl hon yn ôl yr angen.
Anghenion Ieithyddol
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).