Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithredu ar wireddu canlyniadau personol a hwyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymeithasol a Llesiant 2014.
•Arwain, cydlynu a darparu gwasanaethau cefnogol i blant a phobol ifanc sy’n agored i Tim Integredig Derwen.
•Cydweithio gyda plant a phobol ifanc, teulu/gofalwyr a gweithwyr allweddol eraill i adnabod ‘beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd creadigol o gwrdd a’u deillianau personol.
•Sicrhau bod y gwasanaeth yn gynhwysol ac yn gallu ymateb i amrediad o anhengion gwahanol.
•Darparu cefnogaeth o fewn ethos person ganolog, gyda ffocws ar hyrwyddo llesiant a chyfleoedd i ddefnyddio chyfleusterau o fewn y gymuned leol.
•Arwain ar wasanaeth sy’n hyrwyddo datblygu sgiliau ac annibynniaeth o fewn hyn a adnabyddir fel cyrhaeddiad y plentyn/person ifanc.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am reoli staff.
•Cyfrifoldeb am fonitor a rheoli cyllideb Adnoddau a strwythurau staffio’r Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am offer a cherbydau ddefnyddir gan y Gwasanaeth a sicrhau fod rhain mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.
•Sicrhau bod yr adeiladau a’u defnyddir ar gyfer cynnal grwpiau a gweithgareddau yn ddiogel, addas ac yn cwrdd a gofynion iechyd a diogelwch y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau
•Arwain a gweithredu ar ddarparu gwasanaethau person canolog.
•Asesu a chynllunio pecynnau uniogol gan ddilyn ethos cefnogaeth weithgar.
•Llunio ac adolygu asesiadau risg cyffredinol, penodol ac arbenigol drwy gydweithio gyda aelodau o’r tim aml ddisgyblaethol.
•Llunio rhaglenni pwrpasol a phenodol sy’n cwrdd ag anghenion y plentyn/person ifanc a’u hadolygu yn gyson.
•Arwain ar becynnau Gofal Cartref sy’n wasanaeth cofrestredig. Sicrhau eu bod y gwasnaeth yn cyrraedd gofynion a nodi’r yn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA 2016).
•Cyd weithio i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cwrdd a’r safonnau a osodir
•Cyfrifoldeb am gasglu data ar gyfer adrodd ar ansawdd gwasaneth.
•Datblygu, monitro ac ymateb yn greadigol ac arloesol i ofynion y gwasanaeth.
•Bod yn gyfrifol ac yn atebol am reolaeth dydd i ddydd y gwsanaeth gan sicrhau bod yr holl weithgaredd yn cyfarfod y ddeddfwriaeth perthnasol, polisïau a chanllawiau Cyngor Gwynedd.
•Cyd weithio ar ddatblygu polisiau a gweithdrefnau ac adolygu polisiau perthnasol i’r gwasanaeth.
•Arwain drwy esiampl. Cyfathrebu’n glir, effeithiol a pharchus ar bob lefel gyda unigolion, teuleuoedd/gofalwyr, staff a chyd weithwyr.
•Ymchwilio a sicrhau dealltwriaeth o adnoddau cymunedol sydd yn bodoli o fewn yr ardal. Cyfrifoldeb i rannu’r wybodaeth yma fel bod Gweithwyr Cefnogol yn defnyddio adnoddau lleol pan yn cefnogi plant a phobol ifanc.
•Recriwtio, penodi, anwytho, mentora a goruchwylio staff cefnogol yn unol a pholisïau a systemau Cyngor Gwynedd.
•Cyfrifoldeb i sicrhau dadleniad DBS priodol ar pob aelod staff cefnogol
•Delio a materion disgyblu, salwch a pherfformiad staff mewn ymgynghoriad a swyddog Adnoddau Dynol.
•Sicrhau presenoldeb allan yn y maes gan gefnogi staff i ddatblygu sgiliau ac hyder o fewn eu rôl a hefyd i hyrwyddo ac annog llesiant staff
•Adnabod anghenion hyfforddi y tim a chydweithio i drefnu hyfforddiant addas gan wneud hyn yn amserol.
•Sicrhau bod staff yn gymwys ac yn deall eu cyfrifoldebau i gofrestru yn eu rolau proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol a gofynion RISCA 2016.
•Creu a meithrin diwylliant agored sy’n galluogi staff uchafu unrhyw bryderon mewn ffordd addas ac amserol, a hynny drwy sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
•Cyfrifoldeb am weinyddu cerdyn credyd y gwasanaeth, cofnodi, awdurdodi a chyfiawnhau pob gwariant.
•Gweithio ar y cyd gyda arweinyddion eraill er mwyn sicrhau cysondeb trefniadau ar draws y sir.
•I ymgyryd a bod yn ‘champion’ mewn maes arbenigol.
•Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a gweithredu ar unrhyw bryderon Diogelu.
•Cyfrifoldeb am reoli ac asesu risg amrywiaeth o safleoedd cymunedol sy’n cael ei defnyddio gan y gwsanaeth. Bod yn ymwybodol sut i adrodd ar urhyw bryderon neu addasiadau sydd ei angen.
Dyletswyddau eraill;
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
•Bod yn barod i symud i weithio mewn Gwasanaeth arall mewn argyfwng