Swyddi ar lein
Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad x2
£18,430 - £19,643 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 25-28981
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad x2
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
- Dyddiad cau:
- 18/11/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro naw mis | 30 Awr
- Cyflog:
- £18,430 - £19,643 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Deio Brunelli ar 01286 679007 neu dros ebost; DeioBrunelli@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 18/11/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Trefnu amser yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu clir
Gallu cydweithio fel aelod o dîm
Gallu i weithio’n hyblyg
Brwdfrydedd
Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Sgiliau rhif/llythrennedd da
NVQ Lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu
Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 2 mewn BSL
Nam Golwg: Lefel 2 mewn Braille
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Ymrwymiad i ddilyn hyfforddiant Lefel 2/3 yn y maes penodol (e.e. Elklan)
Anghenion ADY Penodol: Ymrwymiad i ddilyn Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Ymrwymiad i ddilyn Tysysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu gyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)
Dymunol
Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 3 mewn BSL
Nam Golwg: Dealltwriaeth gadarn mewn o leiaf 5 côd Braille
Synhwyraidd / Corfforol / Meddygol - Tysysgrif neu Ddiploma mewn Adsefydlu a Symudedd Nam SynhwyraiddCyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch
Anghenion ADY Penodol: Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu fod wedi mynychu cyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)
Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo’n briodol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Dymunol
Profiad o:
Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth ADYaCh a’r Cod Ymarfer
Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol.
Sgiliau cyfrifiadur da – defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus
Dymunol
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, cwricwlwm, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo’n briodol.
Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed fel ymateb i anghenion disgyblion yn arbennig y rhai gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol i ddileu rhwystrau ar gyfer dysgu yn ysgolion ac unedau Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynhwysiad.
•Gweithredu’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
•Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda’r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
•I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth Athro/awes Arbenigol Cynnal Ymddygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau a amlinellir o fewn y swydd ddisgrifiad yn cael eu gweithredu o dan reolaeth a goruchwyliaeth athro/awes.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i Ddisgyblion
•Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a’r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.
•Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau’r Tîm Cynnal Ymddygiad am gyfnod penodol o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a’r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol a gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh
•Derbyn a goruchwylio disgyblion nad ydynt am gyfnodau yn dilyn rhaglen ddysgu arferol.
•Cynorthwyo staff dysgu o fewn y prif lif a’r Canolfannau gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion er mwyn hybu cynnydd yn eu iechyd emosiynnol ac ymddygiadol.
•Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y Maes Cynnal Ymddygiad ac asiantaethau eraill perthnasol gan sicrhau lefelau o ofal bugeiliol i unigolion o dan gyfarwyddyd staff dysgu.
•Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda’r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Cynnal Ymddygiad.
•Cefnogi’r ddarpariaeth therapiwtig ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig ac yn arbennig anawsterau emosiynnol ac ymddygiadol.
•Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
•Dan oruchwyliaeth yr uwch weithiwr iechyd meddwl, cyflwyno rhagleni hyrwyddo iechyd meddwl mewn grŵp bach neu un i un.
•Sicrhau gwybodaeth a chyngor i ddisgyblion i’w galluogi i wneud penderfyniadau a dewisiadau ar gyfer eu haddysg, eu hymddygiad a’u presenoldeb.
•Cefnogi a herio ymagwedd disgyblion gan hyrwyddo a chyfoethogi eu hunan-barch.
•Sicrhau adborth i ddisgyblion yng nghyd-destun eu cynnydd, eu llwyddiannau, ymddygiad a phresenoldeb.
Cefnogaeth i Athrawon:
•Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion a chydweithwyr.
•Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.
•Darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â’u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol o dan arweiniad y staff dysgu.
•Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.
•Ymateb i anghenion personol disgyblion a chynnig cyngor ynglŷn â datblygiad emosiynol, ymddygiadol, eu hiechyd, glendid a gofal.
•Cefnogi’r staff dysgu i ddatblygu trefniadau mentora disgyblion a sicrhau cymorth i unigolion bregus.
•Sicrhau trosglwyddiad buan ac effeithiol i ddisgyblion drwy gamau integreiddio penodol gan roi sylw i unigolion sy’n dychwelyd i ysgol wedi cyfnod absenoldeb.
•Cyfathrebu gydag ysgolion dalgylch ac asiantaethau eraill i gasglu gwybodaeth am unigolion am eu cynnydd.
•Sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer gweinyddu ee galwadau ffôn, delio gyda gohebiaeth, diweddaru data, gwybodaeth presenoldeb, gwaharddiadau.
•Bod yn ymwybodol, a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion sydd ar gael i gynnig cymorth i unigolion i ychwanegu at eu profiadau dysgu.
•Sicrhau a defnyddio adnoddau arbenigol, cynlluniau ac offer i gefnogi disgyblion.
•Cefnogi mynediad disgyblion i adnoddau a strategaethau perthnasol i gyfoethogi eu haddysg.
•Cynorthwyo staff dysgu i gynllunio, dadansoddi ac addasu gweithgareddau dysgu fel bo’n briodol.
•Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.
•Bod yn ymwybodol ac yn effro i wahaniaethau gan sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd cyfartal ar gyfer mynediad i addysg.
Cyffredinol:
•Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant, iechyd a diogelwch cyfrinachedd a diogelu data, gan gyfeirio unrhyw bryder i’r person perthnasol.
•Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynhwysiad.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.

•Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
•
Amgylchiadau arbennig
•