Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu arweinyddiaeth, cyngor a chefnogaeth arbenigol o fewn y Tîm Digartrefedd. Bydd y Swyddog Digartrefedd Uwch yn rheoli achosion cymhleth, cefnogi cydweithwyr gyda gwaith achos, sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth dai, a chyfrannu at ddatblygiad a chyflawni gwasanaethau atal a lleddfu digartrefedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Laptop a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
•Rheoli llwyth achosion bychan o geisiadau digartrefedd cymhleth, gan gynnwys cleientiaid risg uchel a bregus.
•Sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014, y Cod Arweiniad Digartrefedd, a deddfwriaeth berthnasol arall.
•Hyrwyddo atal digartrefedd drwy nodi cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar a chefnogi cleientiaid i gynnal tenantiaethau.
•Darparu gwasanaeth ble fo’r cwsmer yn ganolbwynt - i’r bobl hynny sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref.
•Delio gyda chleientiaid mewn ffordd ddiduedd gan beidio a’u barnu
•Cynnal asesiad o amgylchiadau tai y cleientiaid i adnabod y problemau/trafferthion
•Cynnal ymweliadau cartref ac asesiadau mewn lleoliadau eraill, fel ysbytai pan a phryd fo angen.
•Cynnal ymweliadau yn y carchardai neu Hosteil mechniaeth y Gwasaneth Prawf Cenedlaethol pan a phryd fo angen
•Trafod Cleientiau risg uchel a chynghori ar addasrwydd yr eiddo.
•Edrych ar atebion posib i gleientiaid i ddatrys eu problem tai, sicrhau fod eu hanghenion a’u dymuniadau yn cael eu hystyried.
•Cymell cleientiaid i fod yn rhagweithiol i ddod o hyd i atebion a chymryd cyfrifoldeb am eu canlyniad tai
•Ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gael atebion effeithiol i gleientiaid a thynnu cymorth gan staff eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen.
•Darparu cyngor a chymorth ar opsiynau tai realistig a’u cyfeirio a’u harwain i asiantaethau eraill fel bo’r angen.
•Cynnal asesiadau ar y cyd gyda thîm 16+ y Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu pobl ifanc 16/17 oed sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref, yn unol â Phrotocol Cyd-weithio’r Cyngor.
•Sicrhau fod cleientiaid wedi cofrestru am Dai Cymdeithasol ar y gofrestr tai cyffredin a chyd-gysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai i sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol.
•Datblygu perthynas weithio agos gydag adrannau eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen (fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, GISDA, CEFNI, NACRO, DIP a’r Gwasanaeth Prawf)Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol a phartneriaid eraill fel Rheolwyr Troseddwyr Integredig (IOM), ‘Prison Link’ Cymru, Tîmau Ailsefydlu, PACT, CRC ac asiantaethau Cefnogol eraill yn cynnwys Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynadleddau.
•Mynychu cyfarfodydd trefniadau amlasiantaethol amddiffyn y cyhoedd (MAPPA 1 a MAPPA 2), ar ofyn y Gwasaneth Prawf.
•Mynychu Cyfarfodydd Tîm a chyfrannu at ddatblygiad a gwella’r gwasanaeth.
•Defnydd effeithiol o systemau TG i gofnodi gwybodaeth i ddibenion ystadegol.
•Darparu goruchwyliaeth, cyfarwyddyd a chefnogaeth ddydd i ddydd i Swyddogion Digartrefedd a staff rheng flaen eraill.
•Gweithio fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cymhleth, gan gynnig cyngor a chanllawiau achos arbenigol.
•Hyfforddi a mentora staff i feithrin hyder, sgiliau gwneud penderfyniadau a sgiliau proffesiynol wrth reoli ceisiadau digartrefedd.
•Cefnogi staff i ddehongli a chymhwyso deddfwriaeth dai, gan sicrhau penderfyniadau cyson a chyfreithlon.
•Trefnu cyfleoedd hyfforddi ar y swydd a chysgodi ar gyfer staff newydd neu lai profiadol.
•Nodi anghenion hyfforddi unigol a thîm a chyfrannu’r rhain at ddatblygiad gwasanaeth a chynllunio’r gweithlu.
•Rhoi adborth adeiladol a chynnal sesiynau goruchwyliaeth 1:1 rheolaidd, gan gyfrannu at adolygiadau perfformiad.
•Annog ymarfer myfyriol a dull trawma-ymwybodol wrth i staff ryngweithio â chleientiaid.
•Hyrwyddo diwylliant tîm cadarnhaol, atebol a chefnogol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu grymuso i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
•Mynychu cyrsiau ar ddeddfwriaeth digartrefedd ac unrhyw gyrsiau perthnasol eraill sy’n ymwneud â maes tai a chefnogaeth tai sy’n cyfrannu at ddatblygiad personol yn y swydd.
•Monitro ansawdd gwaith achos swyddogion , gan sicrhau cysondeb, cydymffurfiaeth a safonau uchel o wasanaeth cwsmer.
•Helpu i lunio data perfformiad, nodi tueddiadau, a chynnig gwelliannau i’r gwasanaeth.
•Cyfrannu at archwiliadau, arolygiadau a datblygiad polisïau a gweithdrefnau.
•Adeiladu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol ag adrannau mewnol, asiantaethau allanol, landlordiaid a darparwyr cymorth.
•Cynrychioli’r gwasanaeth mewn cyfarfodydd amlasiantaethol a chynadleddau achos.
•Hyrwyddo dull cydweithredol o fynd i’r afael â digartrefedd a chefnogi unigolion bregus.
•Sicrhau bod gweithdrefnau diogelu ar gyfer oedolion a phlant mewn perygl yn cael eu dilyn.
•Nodi risgiau sy’n ymwneud â chleientiaid, staff neu lety a’u cyfeirio ymlaen yn briodol.
•Hyrwyddo dull trawma-ymwybodol a chanolbwyntio ar y cleient o fewn y tîm.
•Dirprwyo ar ran Arweinydd y Tîm/Rheolwr pan fo angen.
•Cyfrannu at ddatblygu prosiectau newydd, mentrau a strategaethau i leihau digartrefedd.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n rhesymol ac yn gymesur â’r swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, fel bo’r angen.