Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i’r gofynion canlynol:-
•Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa.
•Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion manwl a chywir.
•Prosesu geiriau fel llythyrau ac adroddiadau.
•Cadw a sefydlu systemau ffeilio papur ac electroneg.
•Ateb y ffon gan gofnodi negeseuon a chynnal dyddiaduron y staff perthnasol.
•Archebu adnoddau, llungopïo, casglu a dosbarthu post.
•Codi, prosesu a thracio anfonebau gan gynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen.
•Derbynfa a llogi ystafelloedd gan osod yr ystafelloedd i ddymuniad y cleientiaid.
•Gweinyddu grantiau drwy gasglu ceisiadau, cytundebau lefel gwasanaeth, adroddiadau monitro a phrosesu taliadau.
•Cefnogi gyda trefniadau gweinyddol trefnu hyfforddiant i’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar.
•Gweithio fel rhan o dîm ar gyfer darparu gweinyddiaeth gyffredinol yn y swyddfa a dirprwyo dros aelodau eraill o’r tîm gweinyddol fel bod angen (a gall olygu ar adegau weithio o safleoedd eraill)
•Adrodd ar unrhyw faterion i’r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol a Busnes neu Uwch Rheolwr o fewn yr uned.
•Cynorthwyo i farchnata holl waith uned drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd fel-
oDiweddaru rheolaidd i’r safle wê a cyfryngau cymdeithasol Teulu Gwynedd
oGwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau.
oCynhyrchu erthyglau, datganiadau a defnyddiau cyhoeddusrwydd.
oTrefnu hysbysebion i’r wasg.
•Gofalu am y dderbynfa drwy ymateb i ymholiadau ymwelwyr sydd yn dewis galw heibio a hefyd ymateb i alwadau ffôn neu e-bost a chyfeirio ymlaen fel bo angen. Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan gymryd a throsglwyddo negeseuon yn glir a chryno a thrin yr ymholwyr pob amser yn gwrtais. Cadw’r dderbynfa yn daclus bob amser. Helpu gyda gwiriadau I&Diogelwch y safle.
•Cyfrifoldeb dros weinyddu llogi adnoddau ar y safle.
•Sicrhau cysondeb yn y gefnogaeth weinyddol o fewn y Gwasanaeth gan gydweithio’n agos gyda Cymhorthyddion ac Uwch Gymhorthyddion eraill o fewn yr uned.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH
Oriau Gwaith: Oriau sefydlog ond gofynnir i weithio ar rota. Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.