Rheolwr Cyswllt:
Pennaeth Gwyddoniaeth a Pennaeth Technoleg/Rheolwr Busnes/Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog:
GS4 Pwyntiau 7-11
Oriau Gwaith:
8:00 – 16:00 yn arferol (hyblyg mewn amgylchiadau)
Oriau Cinio: 13:00 – 13:30
Cytundeb:
Parhaol – 37 awr – Tymor Ysgol yn unig
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
O dan arweiniad Pennaeth y Gyfadran Wyddoniaeth/Pennaeth y Gyfadran Technoleg/Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg/Pennaeth - cefnogi'r staff mewn dosbarthiadau, labordai a gweithdai, gan roi cyngor technegol.
Darparu cefnogaeth arbenigol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:
Cefnogi Staff yn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
• Cysylltu gyda staff yr adrannau i drafod amserlen gwersi ymarferol, offer a chynlluniau gwaith.
• Paratoi offer / cemegion / cynhwysion cyn gwersi, ac arholiadau ymarferol, yn dilyn amserlen yr adran. Hefyd cyflenwi gliniaduron/iPads/Chrome books.
• Siopa am gynhyrchion sydd eu hangen ar gyfer gwersi ymarferol yn wythnosol. Cysylltu gyda’r Rheolwr Busnes i gael Arian Mân.
• Cefnogi gwaith athrawon mewn gwersi a rhoi cyngor technegol i staff a disgyblion. Cynorthwyo’r staff yn ystod wythnos gweithgareddau. Llungopïo ar gyfer yr adrannau.
• Cefnogi staff yr adrannau trwy oruchwylio disgyblion mewn gwersi ymarferol.
• Cyd-gysylltu gwaith yn y labordy i sicrhau y gwneir defnydd effeithlon o offer.
• Cynorthwyo ar deithiau maes yr adrannau.
• Goruchwylio arholiadau allanol gwyddoniaeth.
Labordai:
• Rheoli’r stoc o gemegion ac offer.
• Cyllidebu ac archebu adnoddau. Ffeilio copïau o archebion a nodiadau trosglwyddo yr adrannau, gan gael gafael arnynt yn rhwydd pan fo gofyn. Cyflenwi deunydd ysgrifennu ar gyfer yr adrannau.
• Cadw cofnodion, e.e. o sesiynau ymarferol disgyblion, dulliau tracio, canlyniadau ayyb.
• Cynnal ac atgyweirio offer a chyfarpar yr adrannau.
Gweithdai:
• Cynorthwyo gyda pharatoi deunyddiau ar gyfer gwersi deunyddiau gwrthiannol.
• Arolygu, gwasanaethu a threfnu atgyweirio arbenigol yn rheolaidd i’r holl arfau, peiriannau ac offer perthynol.
• Arolygu, gwasanaethu ac atgyweirio arfau ac offer pŵer cludadwy yn rheolaidd.
• Paratoi, torri a pheiriannu pren, metelau a phlastigion.
• Darganfod ffynonellau ac archebu defnyddiau a gwasanaethau.
• Dyletswyddau tacluso rheolaidd yn y gweithdai a’r ardaloedd storio.
• Casglu defnyddiau ar gyfer gwaith ymarferol.
• Gofalu am system sugno llwch (yn cynnwys archwiliad/dyddiol/wythnosol/llenwi cofrestrau wythnosol). Gwagio rheolaidd o’r cafn casglu llwch, trefnu profion LEV blynyddol.
• Cario allan archwiliad rheolaidd o holl beiriannau trwm ar gyfer pwrpas diogelwch.
Iechyd a Diogelwch:
• Sicrhau bod yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu deall a’u dilyn yn gywir.
• Gwaredu gwastraff cemegol a biolegol yn ddiogel.
• Cadw storfeydd yr adrannau yn drefnus, yn enwedig yr hydoddiannau fflamadwy a’r storfa cemegion gwenwynig
• Sicrhau bod offer yn cael eu labelu a’u glanhau yn drylwyr a bod cemegion, cyffuriau a defnyddiau eraill yn cael eu storio yn briodol.
• Cynnal a chadw ffynonellau ymbelydrol yn ddiogel.
• Cynnal a chadw labordai’r adran gan gynnwys ymdrin ag arllwysiadau cemegol a thoriadau.
• Mynychu cyrsiau pan fo gofyn e.e. cwrs COSHH, ‘Gweithio o Uchder,’ Trafod â Llaw’ ayyb.
• Cynnal a chadw offer nwy a thrydan yn yr adrannau a gwirio am ddiffygion
• Cynorthwyo gyda chynnal asesiadau risg pan fo gofyn.
• Cadw golwg ar y Cypyrddau Gwyntyllu yn yr adran a chofnodi canlyniadau profion.
• Gwirio pwyntiau dŵr yr ysgol yn rheolaidd am Glefyd y Llengfilwyr a chofnodi canlyniadau profion.
• Diweddaru staff ar unrhyw faterion Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys diweddariadau Peryglon Iechyd a Diogelwch CLEAPPS.
Cyffredinol:
• Gyrru Bws Mini’r ysgol pan fo angen e.e. ar gyfer cyrsiau Coleg, ymweliadau addysgol ayyb.
• Trwsio/amnewid unrhyw oleuadau diffygiol/sydd wedi torri yn yr adrannau.
• Cadw cofnodion o anfonebau a gwariant yr adrannau yn rheolaidd.
• Lle mae’n bosib helpu’r ysgol gyda materion technoleg gwybodaeth ee ail-gyflenwi argraffwyr / llungopiwyr gydag inc. Clirio paperjams mewn argraffwyr / llungopiwyr. Delio gyda 'byrddau gwyn Active' diffygiol a thaflunyddion a chysylltu gyda chwmnïau TG i archebu caledwedd pan fydd angen.
• Dadflocio a glanhau sinciau’r labordai.
• Cynorthwyo gyda’r Profion PAT blynyddol.
Arall:
• Gweithio’n adeiladol, rhagweithiol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, fel y bydd eu hangen yn rhesymol gan y Pennaeth ac sydd yn gyson gyda’r lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y swydd.
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Williams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda’r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
10.00yb ar Ddydd Llun, 3ydd o Dachwedd 2025
Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.