Pwrpas y Swydd
• Darparu cymorth i'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol (IDA) ym mhob agwedd ar reolaeth IDA ar ran ACGCC
• Sicrhau bod yr Asiant yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth IDA ac arfer orau
• Cefnogi'r Rheolwr IDA i sicrhau bod gan yr Asiant drefn gadarn mewn lle i reoli Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) yn iawn ar gyfer prosiectau a gwaith perthnasol.
• Cefnogi'r rheolwr IDA i ymgymryd â swyddogaeth y Rheolwr Cyfleusterau ar gyfer holl eiddo ACGCC a Llywodraeth Cymru y mae gan ACGCC gyfrifoldeb gweithredol a rheolaethol drostynt.
• Ymgymryd ag archwiliadau IDA ar safleoedd gwaith
• Ymgymryd â gwaith monitro ac archwiliadau amgylcheddol i sicrhau bod y gofrestr Effaith Amgylcheddol yn cael ei rheoli'n gadarn
• Adnabod meysydd i'w gwella er mwyn cyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015
• Adnabod a hyrwyddo cyfleodd i leihau gwastraff, i ailgylchu, a lleihau carbon i ACGCC.
• Rheoli cyllidebau a ddyrannwyd a blaen-raglenni.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol ACGCC (Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr y sector preifat) mewn perthynas â sefydlu eiddo, atgyweirio ac adnewyddu datblygiadau.
• Rheoli'r cyllidebau a ddyrannwyd.
• Gliniadur, ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau.
Rheolaeth Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol (IDA)
• Cefnogi'r Rheolwr IDA ym mhob agwedd ar reolaeth IDA ar ran ACGCC
• Cynnig IDA arbenigol i staff yr Asiant ar bynciau megis:
o Cydymffurfiaeth CDM
o Asbestos
o Gweithio ar rwydwaith cefnffyrdd
o Rheoli gwastraff
o Atal llygredd
• Monitro deddfwriaeth newydd sy'n ymwneud ag IDA ac ystyried yr effaith ar yr Asiant.
• Paratoi adroddiadau yn ôl yr angen ar gyfer y Rheolwr IDA.
• Sicrhau bod gan yr Asiant drefn gadarn mewn lle i reoli Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) yn iawn ar gyfer prosiectau a gwaith perthnasol.
• Monitro'r diwydiant am arferion gorau a hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus mewn rheolaeth IDA.
• Asesu statws rheolaeth IDA yn barhaus yn yr Asiant, gan adnabod meysydd i wella a datblygu polisïau a systemau ble bo hynny'n briodol.
• Cynorthwyo'r Rheolwr IDA wrth ddatblygu a chynnal y systemau Rheoli Ansawdd achrededig (ISO 9001, ISO14001, ISO 45001).
• Cynorthwyo'r Rheolwr IDA i sicrhau bod asesiad risg trylwyr a systemau rheoli damweiniau mewn lle
• Darparu hyfforddiant IDA mewnol.
• Cysylltu â budd-ddeiliaid allweddol (Eraill) gan gynnwys, ymhlith eraill, y Gwasanaethau Brys, swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion iechyd a diogelwch corfforaethol yr awdurdod lleol, swyddogion Awdurdodau Partner, darparwyr gwasanaeth y sector preifat a'r sector cyhoeddus (gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr), UK Highways Ltd., Ymgynghorwr Technoleg Trafnidiaeth Cymru, Contractwr Cynnal a Chadw Cymru Gyfan ac ACDC.
• Cysylltu â staff eraill yr Asiant a darparu cefnogaeth iddynt.
• Cynghori ar faterion llesiant staff ar ran yr Asiant.
• Ymgymryd â / rheoli asesiadau risg iechyd a diogelwch, dadansoddiadau, cofrestrau a'r monitro sy'n angenrheidiol fel rhan o ddarpariaeth gwasanaeth yr Asiant.
• Datblygu rhaglen archwilio IDA gynhwysfawr ac ymgymryd ag archwiliadau iechyd a diogelwch o fewn ACGCC a'i ddarparwyr gwasanaeth sector preifat a sector cyhoeddus.
• Ymgymryd ag archwiliadau IDA ac adnabod a gweithredu unrhyw gynlluniau gwella angenrheidiol.
• Monitro ac adrodd ar fesurau rheoli cofrestr agwedd ac effaith ACGCC
• Monitro ac adrodd ar effeithiau amgylcheddol cadwyn gyflenwi ACGCC
• Adnabod cyfleoedd am welliant amgylcheddol parhaus a rhoi rhaglenni i'w cyflwyno ar waith.
• Hyrwyddo a chydlynu’r broses o integreiddio rheolaeth amgylcheddol a materion cynaliadwyedd i bolisïau, prosesau a gweithrediadau.
• Monitro ac adrodd ar weithdrefnau a rheolaethau ailgylchu a rheoli gwastraff yr Asiant.
• Darparu cefnogaeth dechnegol ar newidiadau i adeiladau â chanddynt effaith a gogwydd amgylcheddol.
• Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau yn ymwneud â materion IDA yn ôl y gofyn.
Rheoli Cyfleusterau
• Ymgymryd ag archwiliadau eiddo o ran gofynion IDA yn y lleoliadau a ganlyn:
o Wrecsam, Helygain, y Waun (storfa halen), y Ganolfan Rheoli Traffig (CRhT) Conwy; Llandygai (storfa halen), Parc Menai, Dolgellau, Llanidloes (storfa halen), Aberaeron, y Drenewydd, Ffordd Ddole, Llandrindod (fe all y rhestr newid neu bydd eiddo newydd yn cael ei gaffael).
• Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw cyffredinol adeiladau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch a gofynion cyfreithiol.
• Rheoli glanhau, cael gwared â gwastraff, diogelwch a pharcio ym mhob safle.
Cyffredinol
• Gweithredu yn unol â pholisïau Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru dan y Cod Ymddygiad perthnasol.
• Cydymffurfio â dyddiadau cau cytunedig ac amcanion cerrig milltir yn foddhaol.
• Cyflawni a chynnal y safonau uchaf o reolaeth o fewn yr Asiant Cefnffyrdd
• Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant perthnasol mewn perthynas â Datblygiad Proffesiynol Parhaus
• Sicrhau perthnasau da drwy safonau gofal cwsmer.
• Datblygu a chynnal morâl da a chynhyrchedd y tîm.
• Cyfrifoldeb pob gweithiwr yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yw cydymffurfio â Pholisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel sydd wedi’u diffinio yn System Reoli Busnes Integredig yr Asiant.
• Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
• Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Rhoi cyngor a chefnogaeth ynghylch rheoli risg i’r Asiant ynglŷn â deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
• Gall sefyllfaoedd rheoli digwyddiadau ac argyfwng ddigwydd y tu allan i oriau gwaith arferol.
• Mynd i gyfarfodydd mewn ardaloedd eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).