ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BOTWNNOG
(Cyfun 11 - 16; 494 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Mor fuan a phosibl,
ATHRO / ATHRAWES FFRANGEG CA3 A CA4 Lleiafswm 0.6 (i’w drafod).
(SWYDD PARHAOL)
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£20,238 - £31,165) y flwyddyn i’r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Dirprwy Bennaeth Mr Aled Williams (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: cghms@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mrs. Manon Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: sg@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD LLUN, 10 O DACHWEDD, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma ar ddydd Llun, 17 o Dachwedd, 2025.Bydd cyfle i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol 12 o Dachwedd 2025 hyd at 14 o Dachwedd 2025
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.