Swyddi ar lein
Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni - Peirianneg Traffig
£48,226 - £50,269 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28944
- Teitl swydd:
- Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni - Peirianneg Traffig
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 06/11/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £48,226 - £50,269 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Adeilad Fullbrooke, Helygain, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 8BY
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Contractau a Chaffael Peirianneg Traffig
CYFLOG: PS5 £48,226 – £50,269
Oriau - 37 hours
Lleoliad – HelygainCyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Reolwyr Prosiectau a Rhaglenni sy'n cyflawni prosiectau cyfalaf ar rwydwaith Cefnffyrdd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain prosiectau sy'n gysylltiedig â thraffig a diogelwch ffyrdd, gwelliannau priffyrdd, uwchraddio, a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw mawr, trwy ein cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus a phreifat estynedig. Mae'r swydd yn elwa o'n model gweithio hybrid gyda'r cyfle i weithio gartref.
An exciting opportunity to join an established team of Project and Programme Managers delivering capital projects on the Trunk Road network across North and Mid Wales. The post holder will be responsible for leading on traffic and road safety related projects, highway improvements, upgrades, and major maintenance capital projects, through our extended public and private sector supply chains. The post benefits from our hybrid working model with the opportunity for home working.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Jill Jones ar 07554773937.Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ac Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma
Dyddiad Cau: 10.00 yb, DYDD IAU, 6ed o Dachwedd 2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
Gallu ysgogi staff ar bob lefel.
Gallu arwain a rheoli staff iau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol
neu
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad
perthnasol sylweddol
Dymunol
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoli
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad perthnasol wrth reoli a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg traffig ac isadeiledd
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau
Dymunol
Profiad o reoli contractau fframwaith
Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch er mwyn cyflawni rhaglenni gwaith
amlddisgyblaethol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigrwydd
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
Profiad perthnasol wrth asesu materion diogelwch ffyrdd a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg traffig
Trwydded Yrru Gyfredol
Dymunol
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect
Gwybodaeth fanwl o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC
Gwybodaeth am gyflawni prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau traffig a diogelwch ffordd yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo gyda chydlynu a rhaglennu rhaglen flynyddol a phum mlynedd yr Asiantaeth o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a diogelwch.
•Cefnogi Noddwyr Prosiect yr Asiantaeth gyda datblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiantaeth o brosiectau refeniw a chyfalaf.
•Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar draffig a diogelwch a chynghori ar faterion traffig a diogelwch ffyrdd fel bo'r angen.
•Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
•Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio ymgynghorol a chontractio yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheolwr llinell tîm o (<5) Beirianwyr Prosiect a Rhaglen.
•Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
•Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol
•Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
Prif ddyletswyddau
Rheoli Prosiect
Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer holl brosiectau traffig a diogelwch ffordd yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
•Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais penodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni.
•Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect.
•Defnyddio egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
•Cynrychioli’r Asiantaeth mewn mentrau diogelwch ffyrdd a mentrau lleihau damweiniau.
•Paratoi a threfnu i weithredu Gorchmynion Traffig parhaol ble bo’r angen. Darparu cyngor i Reolwyr Llwybrau ynghylch paratoi Gorchmynion / Rhybuddion Traffig dros dro.
•Rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â thraffig a diogelwch o ran cynlluniau gwelliant mawr fel bo’r gofyn.
•Ymchwilio i ddamweiniau a dadansoddi data damweiniau er mwyn adnabod patrymau damweiniau a chymryd y camau priodol fel bo’r angen gan ddefnyddio cronfeydd data LlC ac eraill.
•Cysylltu gyda darparwyr yr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
•Cysylltu gyda’r Uned Fusnes yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau.
•Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i ddod â phrosiectau i ben, gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel y'u hadeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar weinyddu contractau a chaffael prosiectau.
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunwyd. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau isod:-
•adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi briff prosiect.
•sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
•cytuno ar raglen a briff y prosiect.
•cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
•cysylltu â staff perthnasol LlC.
•bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb.
•cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo.
•adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol.
•derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
•cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
•adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
•trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
•adolygu a chadarnhau cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i LC.
•sicrhau y caiff prosiectau eu terfynu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglenni
Cynorthwyo gyda chydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglen flynyddol a rhaglen pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Sicrhau bod egwyddorion 'Rethinking Construction' yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynllun drwy broses fidio’r Asiant.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau'r DU / LlC, gan gynnwys:
•Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
•Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
•Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
•Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
•Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
•Contractau NEC3
•Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
•Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMA
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o adolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi'r Uned Cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
•Ymweld â safleoedd adeiladu.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).