REOLWR PROSIECT CYSYLLTEDD DIGIDOL
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn awyddus i benodi Rheolwr Prosiect Cysylltedd Digidol i gyflawni prosiectau o fewn y Rhaglen Cysylltedd Digidol.
Rhaglen Cysylltedd Digidol
Bydd y rhaglen hon yn mynd i'r afael â heriau cysylltedd yng Ngogledd Cymru. Tra bod gweddill y DU wedi elwa o wasanaethau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o'n cymunedau ni yn dal i fod heb gysylltedd digidol dibynadwy. Bydd y rhaglen yn gwella gallu ein rhanbarth i ddatblygu technolegau ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau y gallwn ateb y galw cynyddol am ddigidol ac elwa o gysylltedd cyflym o ansawdd uchel. Bydd y rhaglen hon yn cyflwyno cysylltedd cynaliadwy i'r rhanbarth, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer mwy o drigolion a busnesau.
Ar hyn o bryd mae pedwar prosiect o fewn y rhaglen:
- Canolfan Prosesu Signal Digidol
- Di-wifr Uwch
- LPWAN
- 4G+
Yn ogystal â phrosiectau'r Cynllun Twf, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni strategaethau a chynlluniau gweithredu rhanbarthol eraill ac mae cyfle o fewn y rhaglen i weithio ar feysydd gwaith a chyfleoedd ariannu a allai ychwanegu gwerth at y rhaglen.
Ydych chi'n angerddol am yrru trawsnewid digidol a chyflawni prosiectau effeithiol? Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am Reolwr Prosiect Cysylltedd Digidol deinamig i arwain a chyflawni prosiectau seilwaith digidol cymhleth fel rhan o bortffolio'r Cynllun Twf.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Stuart Robert Whitfield drwy e-bost: swyddi@uchelgaisgogledd.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 10/11/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.