NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Parodrwydd i ymarfer hyblygrwydd yn y gweithle a chadw hunanfeddiant dan bwysau gwaith.
Parodrwydd i dderbyn hyfforddiant ac ennill cymwysterau priodol.
Gallu gweithio ag eraill i gyflawni dyletswyddau tîm.
Gallu gweithio ar adegau heb gyfarwyddyd na oruchwyliaeth ffurfiol.
Gallu ymdrin â’r cyhoedd a’u hasiantwyr mewn modd cwrtais, cywir a phroffesiynol; yn aml iawn dan amgylchiadau trist a theimladwy.
Gallu gweithio dan bwysau rhesymol ar adegau pan fo gwaith i’w gwblhau yn ôl y gofyn a osodwyd gan amserlen gaeth.
DYMUNOL
Cwrteisi a theimladrwydd er darparu gofal cwsmer.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymwysterau o arholiadau TGAU, neu safon gyfatebol.
DYMUNOL
Maes technegol, unai mecanyddol neu drydanol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Darpariaeth o wasanaeth ag ansawdd i foddhad cwsmer.
DYMUNOL
Wedi gweithio mewn tim bychan.
Gwasanaeth colled, claddu neu amlosgi.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu rhagweld trafferthion a gweithredu yn effeithiol i’w hosgai.
DYMUNOL
Iechyd a diogelwch yn y gweithle ac yn gyffredinol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.