Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Mae'r swydd hon yn rhan hanfodol o Uned Datblygu Gweithlu, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n arfer gweithio o dan bwysau ac i derfynau amser. Mae'n cynnwys nifer o wahanol dasgau gweinyddol sy'n ymwneud â hyfforddi a datblygu staff.
•Byddwch yn rhan o dîm o Swyddogion Hyfforddi a Chymorthyddion Gweinyddol. Bydd gofyn i chi fod yn hyblyg ac yn barod, weithiau, i helpu ag unrhyw rai o'r dyletswyddau cyffredinol
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Offer - catalogio a chynnal offer ac adnoddau hyfforddiant.
•Cadw cofnol o gwariant ariannol
Prif Ddyletswyddau.
•Dyletswyddau a chyfrifoldebau craidd –gwaith sylfaenol bob Cymhorthydd Gweinyddol yn yr Uned Datblygu Gweithlu.
•Tasgau arferol yn y swyddfa - ateb y ffôn, cymryd negeseuon,feilio, ffotocopïo ac ati.
•Defnyddio cyfrifadur i gynhyrchu llythyron, posteri bychain, taflenni i'w dosbarthu, adroddiadau rheolaidd ac ati ac unrhyw dasgau gweinyddol eraill o dro i dro
Ymgymeryd a, dyletswyddau yn ymwneud a threfnu cyrsiau rheolwyr megis :
•Dilyn y broses ar gyfer gweinyddu cyrsiau yn llawn
•Cadw ffeil electronig ar bob agwedd o’r cwrs
•Cadw gwybodaeth gyfredol mynychwyr ar MoDs
•Cychwyn cyrsiau / cyfarfod hyfforddwr darparu ystafell ac offer
•Cadarnhau manylion cyrsiau a mynychwyr efo hyfforddwyr
•Delio efo ymholiadau ym mlwch cais hyfforddiant yn ddyddiol er mwyn sicrhau ymateb prydlon
•Archebu, cadarnhau a thalu am leoliadau ar gyfer cyrsiau
•Anfon gwahoddiadau arferol
•Ymateb i ymholiadau arferol
•Canfod pwy sy'n dod a chysylltu â'r mynychwyr
•Casglu offer a deunyddiau
•Helpu i baratoi taflenni i'w dosbarthu
•Cadw cofnod am staff sy’n mynychu a ffurflenni gwerthuso a chadw cofnod ar y bas data
•Trefnu Cyfarfodydd
•Cefnogi a rheoli sesiynau digidol arlein a ymchwilio i ddatblygiadau digidol pellach sy’n addas i’r maes gwaith e.e creu ystafelloedd ‘breakout’ rhoi cyflwyniadau i fyny i hyfforddwyr ayb
Dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill
Bydd y rhain yn cael eu rhannu rhwng y Cymhorthyddion Gweinyddol trwy gytundeb. Nodir yn glir pwy fydd yn gyfrifol am wahanol bethau ac fe adolygir hyn bob blwyddyn - neu pan fydd aelodaeth yr Adain yn newid.
•Canfod a diweddaru gwybodaeth am leoliadau
•Catalogio offer clyweled, a sicrhau ei fod yn cael ei gadw mewn cyflwr gweithiol - argymell pa offer newydd y dylid ei brynu
•Cofnodi pan fydd yr offer clyweled yn mynd allan
•Helpu i gatalogio pecynnau a llyfrau hyfforddi; cadw trefn ar y llyfrgell
•Sicrhau fod deunyddiau hyfforddi sylfaenol ar gael bob amser
•Sicrhau fod deunyddiau swyddfa sylfaenol ar gael bob amser
•Llenwi dogfennau mynychu a dogfennau talu pan fydd staff yn mynd ar gyrsiau allanol a cadarnhau efo mynychwyr - Swyddfa Ganolog yn unig
•Cefnogaeth weinyddol ar gyfer y cynllun datblygu staff
Cyffredinol
•Fe gewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch galluoedd, ac fe gewch eich annog i ennill cymwysterau priodol mewn amser.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.